Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth ar brynu eiddo

Os byddwch yn prynu eiddo yn y DU dros bris neilltuol, bydd yn rhaid i chi dalu Treth Stamp ar Dir (SDLT). Codir hyn ar bob tŷ, fflat a thir ac adeilad eraill a brynir.

Beth yw Treth Stamp ar Dir

Treth ar bris tir ac adeiladau yw’r Treth Stamp. Pan fyddwch yn prynu eiddo neu'n ymgymryd â les, mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Stamp ar Dir.

Talu Treth Stamp ar Dir

Os byddwch yn prynu naill ai eiddo rhydd-ddaliad neu les-ddaliad a bod y pris prynu yn fwy na £125,000, byddwch yn talu gwerth rhwng un a 15 y cant o’r pris prynu llawn o Dreth Stamp ar Dir. Gweler y tabl isod i gael rhagor o fanylion.

Os yw'r pris prynu yn £125,000 neu’n llai, does dim rhaid i chi dalu dim Treth Stamp ar Dir.

Pris prynu eiddo preswyl

Cyfradd Treth Stamp ar Dir (canran o gyfanswm y pris prynu)

£0 - £125,000

0%

£125,001 - £250,000

1%

£250,001 - £500,000

3%

£500,001 - £1 miliwn

4%

Dros £1 miliwn i £2 miliwn

5%

Dros £2 miliwn o 22 Mawrth 2012

7%

Dros £2 miliwn (a brynwyd gan bobl benodol, gan gynnwys cyrff corfforaethol) o 21 Mawrth 2012

15%

Gallwch weld cyfraddau cyfredol y Dreth Stamp ar Dir ar wefan Cyllid a Thollau EM.

Gostyngiad Treth Stamp ar Dir ar gyfer Ardaloedd dan Anfantais

Os byddwch yn prynu eiddo mewn ardal a ddynodwyd gan y llywodraeth fel ardal ‘dan anfantais’ mae’n bosib y byddwch yn gymwys i gael Gostyngiad ar gyfer Ardaloedd dan Anfantais. Yn yr achos hwn, £150,000 yw’r trothwy ar gyfer y Dreth Stamp ar Dir.

Gallwch fynd ar wefan Cyllid a Thollau EM i weld a yw'r eiddo rydych yn ei brynu mewn ardal a ddynodwyd yn ‘ardal dan anfantais’. (Bydd angen i chi sgrolio i lawr i ddefnyddio'r cyfleuster chwilio am god post.)

Cartrefi di-garbon

Ceir gostyngiad Treth Stamp ar Dir ar gyfer cartrefi di-garbon. Mae pob tŷ cymwys dan £500,000 wedi’i eithrio, a bydd bil Treth Stamp ar Dir tai dros £500,000 yn cael ei leihau £15,000.

Beth yw di-garbon?

Gall tŷ di-garbon gael ei gysylltu â'r prif gyflenwadau trydan a nwy, ond mae angen iddo fod â digon o bŵer adnewyddadwy ychwanegol i bweru defnydd cyfartalog tŷ mewn blwyddyn.

Er mwyn cyflawni hyn, bydd yn rhaid insiwleiddio ffabrig yr adeilad a'i adeiladu at safonau uchel iawn, a bydd angen i'r tŷ ddefnyddio technolegau ynni adnewyddadwy.

Rhaid i gartref di-garbon fod yn ‘ddi-garbon’ dros gyfnod o flwyddyn.

Gwaith papur

Fel prynwr yr eiddo, chi sy'n gyfrifol am lenwi ffurflen prynu a gwerthu'r tir a thalu'r Dreth Stamp ar Dir.

Ond, yn ymarferol, eich cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig fydd yn gwneud hyn i chi fel arfer a'i hanfon at Gyllid a Thollau EM ar eich rhan.

Dylech sicrhau bod yr holl wybodaeth ar y ffurflen yn gywir ac yn gyflawn cyn llofnodi'r datganiad.

Allweddumynediad llywodraeth y DU