Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth ar osod eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu

Os byddwch yn gosod cartref gwyliau wedi'i ddodrefnu yn y DU neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), efallai y bydd gennych hawl i gael manteision treth penodol. Fodd bynnag, rhaid i'ch eiddo fodloni rhai rheolau i gymhwyso.

Rheolau ar gyfer gosod eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu ar gyfer blwyddyn dreth 2011-12

Er mwyn sicrhau bod eich eiddo'n gymwys fel eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu, rhaid iddo fod:

  • yn y DU neu'r AEE
  • wedi'i ddodrefnu
  • ar gael i'w osod yn fasnachol i'r cyhoedd, fel llety gwyliau, am o leiaf 140 o ddiwrnodau y flwyddyn (210 o ddiwrnodau ar gyfer 2012-13)
  • yn cael ei osod yn fasnachol fel llety gwyliau am o leiaf 70 o ddiwrnodau y flwyddyn (105 o ddiwrnodau ar gyfer 2012-13) - rhaid i'r rhent a godir fod ar gyfradd y farchnad ac nid ar gyfraddau gostyngol i deuluoedd a ffrindiau
  • yn cael ei osod am gyfnod byr nad yw'n fwy na 31 o ddiwrnodau - cewch fwy o ganllawiau ar osod eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu drwy ddilyn y ddolen isod

Manteision treth gosod eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu

Os bydd eich eiddo'n gymwys fel eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu, mae'r manteision treth fel a ganlyn:

  • gallwch hawlio lwfansau cyfalaf
  • byddwch yn cael budd o rai rheolau Treth Enillion Cyfalaf ffafriol pan fyddwch yn gwerthu'r eiddo neu'n 'cael gwared arno mewn ffordd arall'

Os na fydd eich eiddo'n gymwys

Os na fydd eich eiddo yn gymwys fel eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu ar osod - er enghraifft, os ydych yn berchen ar gartref gwyliau y tu allan i'r AEE neu os nad ydych yn gosod yr eiddo am ddigon o ddiwrnodau - cewch eich trethu o dan y rheolau ar gyfer gosod eiddo preswyl.

Gweithio allan eich elw trethadwy

Caiff eich elw ar osod eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu ei weithio allan yn yr un ffordd ag incwm rhent arall. Yr unig wahaniaeth yw y gallwch hawlio 'lwfansau cyfalaf' yn hytrach na'r lwfansau traul y caiff busnesau rhentu eraill.

Mae enghreifftiau o dreuliau sy'n gymwys ar gyfer lwfansau cyfalaf yn cynnwys cost dodrefn ac offer fel oergelloedd a pheiriannau golchi.

Gallwch ddysgu mwy am lwfansau cyfalaf a gweithio allan yr elw ar gyfer gosod eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu drwy ddilyn y dolenni isod.

Os byddwch yn gwneud colled

Gallwch gario colled ymlaen a'i wrthbwyso yn erbyn elw o osod yn y dyfodol. Os oes gennych gartref gwyliau yn y DU, dim ond elw o osod yr eiddo gwyliau yn y DU yn y dyfodol y gall y golled ei leihau. Os oes gennych eiddo gwyliau yn yr AEE, dim ond elw o osod yr eiddo gwyliau yn yr AEE yn y dyfodol y gall y golled ei leihau. Ni allwch ddefnyddio colled o osod eiddo gwyliau i leihau incwm trethadwy arall. Mae'r rheolau hyn o ran colledion yn newydd ar gyfer 2011-12.

Os byddwch yn gwerthu'r eiddo neu'n 'cael gwared arno mewn ffordd arall'

Efallai y byddwch yn gallu manteisio ar ryddhad Treth Enillion Cyfalaf, fel Rhyddhad Treigl ar gyfer Asedau Busnes (Business Asset Roll-Over Relief). Er enghraifft, os byddwch yn ail-fuddsoddi enillion y gwerthiant o fewn tair blynedd mewn asedau busnes penodol eraill, efallai y byddwch yn gallu gohirio cyn talu Treth Enillion Cyfalaf hyd nes y byddwch yn cael gwared ar yr asedau newydd hynny. Dilynwch y ddolen isod i 'Eiddo a Threth Enillion Cyfalaf' i ddysgu mwy.

Sut i ddatgan eich incwm a'ch treuliau

Mae angen i chi ddatgan eich incwm rhent o osod eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu ar dudalennau tir ac eiddo eich ffurflen dreth Hunanasesu. Dilynwch y ddolen isod i ddysgu sut i gael un. Dylech ddefnyddio'r un tudalennau o'ch ffurflen dreth i ddatgan incwm o eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu yn y DU a'r AEE

Pa waith papur sydd angen i chi ei gadw?

Er mwyn gallu cwblhau'r ffurflen dreth mae angen i chi gadw'r canlynol:

  • cofnod o'r holl rent a gewch a'r dyddiadau pan fyddwch yn gosod yr eiddo
  • cofnod o'ch treuliau busnes (gweler y nodiadau cymorth ar dudalennau tir ac eiddo'r ffurflen Hunanasesu i gael gwybod beth sy'n cyfrif fel treuliau busnes)
  • derbynebau gwerthu, anfonebau a chyfriflenni banc
  • yr holl gofnodion hyn am chwe mlynedd ar ôl y flwyddyn dreth dan sylw

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU