Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch gael hyd at £4,250 y flwyddyn yn ddi-dreth (£2,125 os ydych yn gosod ar y cyd) drwy osod ystafelloedd wedi'u dodrefnu yn eich cartref. Cyfeirir at hyn fel y cynllun Rhentu Ystafell.
Cynllun dewisol yw hwn sy'n eich galluogi i ennill swm penodol o incwm di-dreth drwy osod llety wedi'i ddodrefnu yn eich unig gartref neu brif gartref. Incwm 'gros' yw'r swm di-dreth, hynny yw, cyfanswm eich derbynebau cyn tynnu eich treuliau. Nid oes gwahaniaeth faint rydych yn ei ennill o ffynonellau eraill - byddwch yn cael y swm di-dreth llawn o hyd.
Gallwch fanteisio ar y cynllun os byddwch yn gosod llety wedi'i ddodrefnu i letywr yn eich unig gartref neu'ch cartref teuluol. Eich unig gartref neu'ch cartref teuluol yw'r cartref lle rydych chi/eich teulu yn byw y rhan fwyaf o'r amser. Rhywun sy'n talu i fyw yn eich cartref yw lletywr, sy'n talu am brydau bwyd weithiau ac sy'n aml yn rhannu ystafelloedd y teulu.
Gall lletywr fod yn ddeiliad un ystafell neu lawr cyfan o'ch cartref. Fodd bynnag, nid yw'r cynllun yn gymwys os yw eich cartref wedi'i droi'n fflatiau ar wahân rydych yn eu rhentu allan. Yn yr achos hwn, bydd angen i chi ddatgan eich incwm rhent i Cyllid a Thollau EM (CThEM) a thalu treth drwy Hunanasesiad. Nid yw'r cynllun yn gymwys ychwaith os ydych yn gosod llety heb ei ddodrefnu yn eich cartref.
A oes rhaid i chi fod yn berchennog cartref?
Gallwch fanteisio ar y cynllun Rhentu Ystafell p'un a ydych yn berchennog cartref neu'n rhentu eich cartref. Fodd bynnag, os ydych yn rhentu, dylech gadarnhau a yw eich prydles yn caniatáu i chi gael lletywr.
Os oes gennych forgais, byddai'n werth cadarnhau a yw telerau ac amodau eich benthyciwr morgeisi a'ch yswiriwr yn cwmpasu cael lletywr.
Os yw'r ddau ohonoch yn gosod llety wedi'i ddodrefnu yn y cartref rydych yn ei rannu, mae hawl gan y ddau ohonoch i gael hanner y lwfans heb dalu treth. Ar gyfer blynyddoedd treth 2011-12 a 2012-13, £2,125 yr un yw hyn.
Os ydych yn codi tâl am wasanaethau ychwanegol, bydd angen i chi ychwanegu'r taliadau rydych yn eu cael at y rhent, er mwyn gweithio allan cyfanswm y derbynebau. Os byddwch yn cael cyfanswm o fwy na £4,250 y flwyddyn, bydd yn rhaid i chi eu datgan a thalu'r dreth drwy lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesu hyd yn oed os yw'r rhent yn llai na hynny.
Mae manteision ac anfanteision ynghlwm wrth y cynllun - bydd angen i chi weithio allan beth sydd orau i chi.
Os ydych yn rhan o'r cynllun Rhentu Ystafell, ni allwch hawlio unrhyw dreuliau mewn perthynas â gosod yr ystafell (er enghraifft, traul, yswiriant, atgyweirio, gwresogi a golau) na cholledion.
Bydd angen i chi weithio allan a fyddech yn well eich byd drwy ymuno â'r cynllun hwn neu ddatgan eich holl incwm gosod a hawlio treuliau ar eich ffurflen dreth. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i chi gymharu'r canlynol:
Er enghraifft, mae John yn cael £8,000 y flwyddyn am rentu ystafell ac mae ganddo dreuliau o £4,500. Ei elw yw £3,500. Yr elw dros ben o'r rhent a gaiff dros derfyn y cynllun rhentu ystafell o £4,250 yw £3,750.
Os na fyddwch yn defnyddio'r cynllun, byddwch yn talu Treth Incwm ar yr elw. Os byddwch yn defnyddio'r cynllun, byddwch yn talu treth ar rent a gafwyd dros derfyn y cynllun rhentu ystafell. Os byddwch yn cael llai na £4,250 (neu £2,125 os byddwch yn gosod ar y cyd) nid oes angen i chi wneud y gymhariaeth.
Os ydych yn rhedeg busnes gwely a brecwast, llety, neu'n darparu gwasanaethau arlwyo a glanhau preifat fel rhan o fusnes gosod, gall y cynllun fod yn gymwys i chi o hyd. Bydd angen i chi gwblhau'r rhannau perthnasol o'r tudalennau hunangyflogaeth o'ch ffurflen dreth Hunanasesu. Mae mwy o fanylion am y cynllun ar y daflen gymorth isod a fydd yn helpu pobl nad ydynt yn fasnachwyr hefyd.
Os ydych am fod yn rhan o'r cynllun
Os nad ydych fel arfer yn cael ffurflen dreth a bod eich derbynebau o dan drothwy di-dreth y cynllun, bydd yr eithriad treth yn awtomatig felly ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth.
Os hoffech fod yn rhan o’r cynllun a bod eich derbynebau yn uwch na'r trothwy di-dreth, rhaid i chi ddweud wrth CThEM. Gallwch wneud hyn drwy gwblhau ffurflen dreth Hunanasesu a hawlio'r lwfans.
Os nad ydych am fod yn rhan o'r cynllun
Os nad ydych am fod yn rhan o'r cynllun dylech gwblhau ffurflen dreth yn unol â'r terfyn amser arferol a datgan yr incwm a'r treuliau gosod perthnasol ar y tudalennau eiddo. Gallwch ddewis peidio â bod yn rhan o'r cynllun hyd yn oed os yw eich rhent o dan £4,250 neu £2,125.
Er na allwch hawlio treuliau pan fyddwch yn defnyddio'r cynllun Rhentu Ystafell, gall fod yn werth cadw cofnodion priodol o hyd. Bydd eu hangen arnoch os byddwch yn penderfynu eithrio o'r cynllun maes o law.