Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Enghreifftiau ymarferol - cyfrifo Treth Etifeddiant ar y gyfradd ostyngol

Mae'r enghreifftiau isod yn dangos y cyfrifiadau a ddefnyddir i weithio allan a yw ystad yn gymwys i dalu Treth Etifeddiant ar y gyfradd ostyngol. Mae'r trothwy Treth Etifeddiant neu'r band cyfradd sero ar gyfer y flwyddyn dreth 2012-2013 yn £325,000 a bydd yn aros fel hynny tan 2014-15.

Enghraifft 1 - Dim ond un gydran o'r ystad

Bu farw Robert ar 17 Mehefin 2012 gan adael ystad a brisiwyd yn £750,000 ar ôl didynnu atebolrwydd. Mae'n gadael £50,000 i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ei ewyllys.

Cam 1 - didynnu'r rhodd o £50,000 i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol o £750,000 (yr ystad net). Mae hyn yn gadael ffigur o £700,000.

Cam 2 - didynnu £325,000 (y Dreth Etifeddiant ar y band cyfradd sero) o £700,000. Mae hyn yn gadael ffigur o £375,000.

Cam 3 - ychwanegu £50,000 (gwerth y rhodd i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol) yn ôl at y £375,000. Mae hyn yn rhoi ffigur o £425,000 - 'swm y llinell sylfaen’.

10 y cant o'r ystad gwerth £425,000 yw £42,500. Mae'r ystad hon yn gymwys ar gyfer Treth Etifeddiant ar y gyfradd ostyngol am fod y rhodd elusennol o £50,000 yn fwy na 10 y cant o 'swm y llinell sylfaen'.

Y Dreth Etifeddiant sy'n daladwy fydd £135,000 o gymharu â £150,000 pe byddai'n talu Treth Etifeddiant ar y gyfradd lawn.

Enghraifft 2 - Un gydran o'r ystad â rhoddion a wnaed yn ystod y saith mlynedd cyn y farwolaeth

Bu farw James ar 17 Gorffennaf 2012 gan adael ystad a brisiwyd yn £750,000 ar ôl didynnu atebolrwydd. Mae'n gadael £50,000 i'r RNIB yn ei ewyllys. Roedd wedi rhoi £150,000 i'w ferch ym mis Ebrill 2008. Oherwydd y gwnaed y rhodd hon lai na saith mlynedd cyn iddo farw, mae'n rhaid iddi gael ei hystyried wrth weithio allan y Dreth Etifeddiant sy'n daladwy ar ystad James.

Cam 1 - didynnu'r rhodd o £50,000 i'r RNIB o £750,000 (yr ystad net). Mae hyn yn rhoi ffigur o £700,000.

Cam 2 - didynnu £150,000 (y rhodd i'w ferch) o £325,000 (y Dreth Etifeddiant ar y band cyfradd sero). Mae hyn yn rhoi ffigur o £175,000.

Cam 3 - didynnu £175,000 (cam 2) o £700,000 (cam 1). Mae hyn yn rhoi ffigur o £525,000.

Cam 4 - ychwanegu £50,000 (gwerth y rhodd i'r RNIB) yn ôl at y £525,000. Mae hyn yn rhoi ffigur o £575,000 - 'swm y llinell sylfaen’.

10 y cant o'r ystad gwerth £575,000 yw £57,500. Nid yw'r ystad hon yn gymwys ar gyfer Treth Etifeddiant ar y gyfradd ostyngol am fod y rhodd elusennol o £50,000 yn llai na 10 y cant o swm y llinell sylfaen.

Gallai buddiolwyr yr ystad hon ddewis cynyddu'r rhodd elusennol £7,500 ychwanegol drwy wneud Offeryn Amrywio fel bod y prawf 10 y cant yn cael ei fodloni. Byddai hyn yn golygu y gallai Treth Etifeddiant gael ei thalu ar y gyfradd ostyngol o £186,300 yn hytrach na £210,000. Mae hyn yn arbed £23,700 mewn treth a fydd yn cwmpasu'r taliad ychwanegol i elusen.

Enghraifft 3 - Dwy gydran neu fwy o'r ystad

Bu farw Elizabeth ar 17 Mai 2012 gan adael asedau gwerth £750,000 roedd yn berchen arnynt yn bersonol ar ôl didynnu atebolrwydd. Nododd ei hewyllys ei bod am adael 10 y cant o'i hasedau i Ymchwil Canser. Roedd ganddi gyfrif banc ar y cyd gyda'i mab Andrew, oedd â balans o £60,000 ar adeg ei marwolaeth. Roedd y ddau yn cyfrannu'r un faint at y cyfrif felly roedd asedau eiddo ar y cyd o'i hystad gwerth £30,000 hefyd yn cael eu trosglwyddo drwy oroesedd.

Mae'r ystad felly yn cynnwys cydran goroesedd a chydran gyffredinol. Y rhodd elusennol yn y gydran gyffredinol yw £75,000.

Cydran gyffredinol

Cam 1 - didynnu'r rhodd i Ymchwil Canser (£75,000) o werth y gydran gyffredinol (£750,000). Mae hyn yn rhoi ffigur o £675,000.

Cam 2 - ychwanegu'r ffigur cydran goroesedd o £30,000 at y £675,000. Mae hyn yn rhoi ffigur o £705,000.

Cam 3 - rhannu'r band cyfradd sero rhwng y ddwy gydran. Rhannu £675,000 (cam 1) â £705,000 (cam 2) a'i luosi â £325,000 (Treth Etifeddiant ar y band cyfradd sero). Mae hyn yn rhoi ffigur o £311,170.

Cam 4 - didynnu £311,170 (cam 3) o £675,000 (cam 1). Mae hyn yn rhoi ffigur o £363,830.

Cam 5 - ychwanegu'r rhodd o £75,000 i Ymchwil Canser yn ôl ato. Mae hyn yn rhoi ffigur o £438,830 - 'swm y llinell sylfaen’.

10 y cant o £438,830 yw £43,883. Mae cydran gyffredinol ystad Elizabeth felly yn gymwys ar gyfer y gyfradd ostyngol am iddi roi £75,000.

Mae'r gyfradd ostyngol o Dreth Etifeddiant yn golygu y bydd yr ystad ond yn talu £130,978.80 o gymharu â £145,532 pe byddai'n rhaid iddo dalu'r gyfradd lawn.

Cydran goroesedd

Mae'r cyfrif ar y cyd yn trosglwyddo drwy oroesedd i Andrew, felly ni all y gydran hon fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd ostyngol.

Pan fydd y swm sy'n gymwys ar gyfer eithriad elusen mewn un gydran yn bodloni'r prawf 10 y cant, gall buddiolwyr yr ystad ddewis uno â chydrannau eraill o'r ystad i gael y budd mwyaf o'r gyfradd ostyngol. Mae'r cyfrifiad canlynol yn dangos sut y gall hyn weithio ar sail yr enghraifft flaenorol.

10 y cant o swm llinell sylfaen cydran gyffredinol ystad Elizabeth oedd £43,883. Felly roedd y £75,000 a roddir i elusen yn fwy na'r hyn roedd ei angen i fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd ostyngol o dreth. Efallai y bydd yn bosibl dewis uno'r gydran goroesedd â chydran gyffredinol ystad Elizabeth fel bod y gyfradd ostyngol o dreth yn berthnasol i'r ddwy gydran. Mae'r cyfrifiadau canlynol yn dangos a fyddai'r cydrannau wedi'u huno yn gymwys ar gyfer treth ar y gyfradd ostyngol.

Cam 1 - ychwanegu swm y gydran goroesedd (£30,000) at werth y gydran gyffredinol yng Ngham 1 uchod (£675,000). Mae hyn yn rhoi ffigur o £705,000

Cam 2 - didynnu'r band cyfradd sero (£325,000) o'r ffigur yng Ngham 1 (£705,000). Mae hyn yn rhoi ffigur o £380,000.

Cam 3 - ychwanegu'r rhodd o £75,000 i Ymchwil Canser yn ôl ato. Mae hyn yn rhoi ffigur o £455,000 - 'swm y llinell sylfaen'.

10 y cant o £455,000 yw £45,500. Mae cydrannau ystad Elizabeth wedi'u huno felly yn gymwys ar gyfer y gyfradd ostyngol am fod y swm a roddwyd o £75,000 yn fwy na 10 y cant o swm y llinell sylfaen.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Marwolaeth a phrofedigaeth

Ewyllysiau, profiant a phethau eraill y bydd angen i chi feddwl am ar ôl marwolaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU