Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud ewyllys

Trwy wneud ewyllys gallwch benderfynu beth sy’n digwydd i’ch eiddo a’ch eiddo personol ar ôl eich marwolaeth. Er nad oes raid i chi wneud ewyllys yn ôl y gyfraith, dyma'r ffordd orau o sicrhau bod eich ystâd yn pasio i'ch teulu a'ch ffrindiau yn unol â'ch dymuniadau. Os ydych yn marw heb ewyllys, mae’n bosib bydd eich asedau yn cael eu rhannu yn ôl y gyfraith yn hytrach na’ch dymuniadau chi.

Pam ei bod yn bwysig gwneud ewyllys

Mae ewyllys yn nodi pwy fydd yn cael budd o'ch eiddo (eich ystâd) ar ôl eich marwolaeth. Mae llawer o resymau da dros wneud ewyllys:

  • gallwch chi benderfynu sut y rhennir eich asedau - os nad oes gennych ewyllys, y gyfraith sy'n dweud pwy sy'n cael beth
  • os ydych yn bâr di-briod (pa un a ydyw'n berthynas o'r-un-rhyw neu beidio), gallwch sicrhau y darperir ar gyfer eich partner
  • os ydych wedi ysgaru, gallwch benderfynu a ydych am adael rhywbeth neu ddim i'ch cyn bartner
  • gallwch sicrhau nad ydych yn talu mwy o Dreth Etifeddu nag sydd raid

Paratoi eich ewyllys

Er y gallwch ysgrifennu ewyllys eich hun, fe'ch cynghorir i ddefnyddio cyfreithiwr gan fod nifer o amodau cyfreithiol y mae angen eu dilyn i sicrhau bod eich ewyllys yn ddilys. Efallai hefyd y bydd angen cyngor cyfreithiol arnoch ar gyfer materion cymhleth. Gall cyfreithiwr hefyd eich cynghori ynghylch sut y mae'r Dreth Etifeddu'n effeithio arnoch.

Efallai y gall cyfreithiwr ymweld â chi yn eich cartref eich hun, mewn cartref gofal neu ysbyty.

Gall cost ysgrifennu ewyllys amrywio rhwng cyfreithwyr a bydd yn dibynnu ar ba mor gymhleth yw eich materion a phrofiad y cyfreithiwr.

Yn ogystal â chyfreithwyr, gall mudiadau gwirfoddol megis Cyngor ar Bopeth ac Age Concern helpu gyda'ch ewyllys. Os ydych chi'n byw yn yr Alban, gall grŵp Help the Aged helpu gyda pharatoi ewyllys.

Beth ddylid ei gynnwys yn eich ewyllys

Cyn i chi ysgrifennu'ch ewyllys neu ymgynghori â chyfreithiwr, mae'n syniad da meddwl am yr hyn yr ydych am ei gynnwys yn eich ewyllys. Dylech ystyried:

  • faint o arian a pha eiddo ac eiddo personol sydd gennych
  • pwy ydych chi am ei weld yn cael budd o'ch ewyllys
  • pwy ddylai ofalu am unrhyw blant dan 18 oed
  • pwy sy'n mynd i gael trefn ar eich ystâd a gwneud eich dymuniadau ar ôl eich marwolaeth - y person hwn fydd eich ysgutor

Yr ysgutor yw'r person sy'n gyfrifol am drosglwyddo'ch ystâd. Gallwch benodi ysgutor drwy ei enwi yn eich ewyllys. Gall y llysoedd hefyd benodi pobl eraill i fod yn gyfrifol am wneud y gwaith hwn.

Ble i gadw'ch ewyllys yn ddiogel

Unwaith y byddwch wedi gwneud eich ewyllys, mae'n bwysig ei chadw mewn man diogel a dweud wrth eich ysgutor, ffrind neu berthynas agos ble mae. Os mai cyfreithiwr sy'n gwneud eich ewyllys, bydd fel arfer yn cadw'r gwreiddiol ac yn anfon copi atoch chi. Gallwch ofyn am y gwreiddiol os ydych am ei gadw.

Diweddaru'ch ewyllys

Dylech adolygu'ch ewyllys bob pum mlynedd ac ar ôl unrhyw newidiadau o bwys yn eich bywyd - megis gwahanu, priodi neu ysgaru, cael plentyn neu symud tŷ. Rhaid i unrhyw newid fod drwy godisil (ychwanegiad, newidiad neu atodiad i ewyllys) neu drwy wneud ewyllys newydd.

Gwneud ewyllys yn yr Alban

Mae'r gyfraith ar etifeddu yn yr Alban yn wahanol i gyfraith Cymru a Lloegr. Os ydych yn byw yn yr Alban ac am wneud ewyllys, gallwch gysylltu â chyfreithiwr neu fudiadau gwirfoddol megis Age Concern Scotland neu Gyngor ar Bopeth i gael cyngor.

Mae canllawiau Gweithrediaeth yr Alban 'Hawliau olyniaeth' yn esbonio beth sy'n digwydd os oes rhywun yn marw yn yr Alban heb wneud ewyllys.

Allweddumynediad llywodraeth y DU