Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn ysgutor ewyllys person efallai y bydd angen dogfen gyfreithiol arnoch a elwir yn 'grant profiant' a fydd yn eich galluogi i gael trefn ar faterion yr ymadawedig. Os nad oes ewyllys, gall perthynas agos wneud cais am 'grant llythyrau gweinyddu'.
Mae'r erthygl hon yn ymwneud yn bennaf â'r drefn ar gyfer marwolaeth yng Nghymru a Lloegr. Mae'r ffurflenni sy'n ofynnol ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi'u cynnwys, ond bydd angen i chi ddilyn y dolenni ar wahân i gael manylion y gweithdrefnau.
Os oes mwy nag un ysgutor, mae'n arferol cael cytundeb bod un yn gwneud cais am y grant ac yn rhoi trefn ar yr ewyllys. Ond gall hyd at bedwar ysgutor wneud cais ar y cyd a chael trefn ar bethau gyda'i gilydd.
Gallwch ofyn i dwrnai wneud cais am y grant ar eich rhan. Efallai y bydd yn rhaid talu am y gwasanaeth hwn, felly mae'n syniad da holi yn gyntaf. Gallwch chwilio am dwrnai sy'n arbenigo ym maes profiant ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr.
Mae'r ffurflenni y bydd angen i chi eu llenwi yn dibynnu ar ble yr oedd y person yn byw ac a oes Treth Etifeddu i'w thalu neu beidio ar yr ystad. Dim ond mewn nifer bach o achosion y mae Treth Etifeddu'n cael ei thalu, pan fo gwerth trethadwy ystad yr ymadawedig (ar ôl eithriadau) yn fwy na'r trothwy £312,000 (yn berthnasol i farwolaethau ym mlwyddyn dreth 2008-2009).
Fe welwch y dolenni i'r ffurflenni hyn isod.
Y wlad lle'r oedd yr ymadawedig yn byw | Ffurflenni gofynnol os yw'n debygol nad oes Treth Etifeddu i'w thalu ('ystadau eithriedig') | Ffurflenni gofynnol os yw'n debygol y bydd Treth Etifeddu i'w thalu |
---|---|---|
Cymru neu Loegr | Ffurflen gais am brofiant PA1 Ffurflen Treth Etifeddu IHT205 |
Ffurflen gais am brofiant PA1 Ffurflen Treth Etifeddu IHT400 Ffurflen IHT421 'Crynodeb profiant' |
Yr Alban | Ffurflen C1 ('Rhestr eiddo') a ffurflen C5 os bu farw ar neu cyn 6 Ebrill 2004; fel arall ffurflen C1 yn unig | Ffurflen C1 ('Rhestr eiddo') Ffurflen Treth Etifeddu IHT400 |
Gogledd Iwerddon | Ffurflen Treth Etifeddu IHT205 yn unig | Ffurflen Treth Etifeddu IHT400 Ffurflen IHT421 'Crynodeb profiant' |
Ceir ffurflenni atodol ychwanegol gyda ffurflen IHT400. Defnyddiwch nodiadau IHT400 i'ch helpu i benderfynu pa rai y bydd angen i chi eu llenwi.
Er mwyn cael profiant, bydd angen i chi fynd i gyfweliad i gadarnhau'r manylion yn eich cais.
I weld y drefn ar gyfer yr Alban neu Ogledd Iwerddon, dilynwch y dolenni ar ddiwedd yr adran hon.
Er mwyn cael profiant, bydd angen i chi fynd i gyfweliad i gadarnhau'r manylion yn eich cais.
Os oedd yr ymadawedig yn byw neu'n cartrefu dramor a dim treth i'w thalu, neu os oes angen y grant ar gyfer 'eiddo setledig' nad oes treth i'w thalu arno, anfonwch ffurflen IHT400 a ffurflen IHT421 at Gyllid a Thollau EM cyn anfon eich papurau i'r Gofrestrfa Brofiant. Gweler tudalen 56 nodiadau IHT400.
Os oedd yr ymadawedig yn byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon:
Does dim ffi i'w thalu os yw'r swm a adawyd yn enw'r ymadawedig ei hun ar ôl talu costau'r angladd ac unrhyw ddyledion (yr 'ystad net') yn £5,000 neu lai. Os yw'r ystad net dros £5,000 rhaid talu ffi o £90. Mae copïau ychwanegol o'r grant yn costio £1 yr un os cânt eu harchebu adeg gwneud y cais.
Os bydd talu'n peri caledi ariannol i chi, gallwch ofyn am gael eich 'esgusodi' rhag talu. Gofynnwch i staff y Gofrestrfa Brofiant am ffurflenni EX160 ac EX160a, neu eu llwytho i lawr gan ddefnyddio'r dolenni isod.
Gall ysgutor hefyd benodi rhywun arall (ar wahân i dwrnai) i wneud cais am grant ar ei ran. Yr 'atwrnai' yw'r enw ar y person hwn, a rhaid iddo lenwi ffurflen PA1 a'i hanfon i'r Gofrestrfa Brofiant ynghyd â llythyr wedi'i lofnodi gan yr ysgutor yn esbonio ei fod am i'r atwrnai wneud cais ar ei ran.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am wneud cais am brofiant, ffoniwch y llinell gymorth Profiant a Threth Etifeddu ar 0845 302 0900. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm.