Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Delio ag arian ac eiddo person a fu farw

Ar ôl i rywun farw, rhaid i rywun (sef 'ysgutor' neu 'weinyddwr' y person a fu farw) ddelio â'u harian a'u heiddo (a elwir yr 'ystâd'). Bydd angen iddynt dalu trethi a dyledion y sawl a fu farw, a rhannu arian ac eiddo'r person hwnnw i'r bobl sydd â hawl iddo.

Os yw'r person a fu farw wedi gadael ewyllys ddilys, 'ysgutor' y person ymadawedig a fydd yn delio â'i ystâd. Os nad yw'r person a fu farw wedi gadael ewyllys o gwbl, neu os yw'r ewyllys honno'n annilys, gelwir y sawl sy'n delio ag ystâd y person ymadawedig yn 'weinyddwr'.

Fel arfer, bydd yn rhaid i'r gweinyddwr gael ei benodi gan y llys cyn y gall ddelio ag ystâd y person a fu farw.

Os oes gennych amheuon ynghylch y swyddogaethau hyn, dylech geisio cyngor cyfreithiol gan dwrnai.

Cael mynediad at arian, eiddo ac asedau eraill person a fu farw

Os yw'r ymadawedig wedi gadael llawer o arian neu eiddo yn ei ystâd/hystâd, efallai y bydd angen i'r ysgutor neu'r gweinyddwr wneud cais am grant cynrychiolaeth er mwyn cael mynediad at yr arian. Gwneir cais am grant i'r Gofrestrfa Brofiant.

Os gadawodd y person a fu farw ewyllys ddilys, bydd y Gofrestrfa Brofiant yn caniatáu grant profiant yr ewyllys. Os yw'r ewyllys a adawodd y person a fu farw yn annilys, neu os na adawodd ewyllys o gwbl, bydd y Gofrestrfa Brofiant yn rhoi grant llythyrau gweinyddu.

Ystadau bach a delio gyda dyledion y mae angen eu talu'n syth

Os gadawodd y person ymadawedig swm bychan o arian (£5,000 neu lai fel arfer) yn ei ystâd/hystâd, mae'n bosib na fydd angen cael grant profiant na llythyrau gweinyddu er mwyn tynnu arian o gyfrif y person hwnnw gyda banc neu sefydliad ariannol. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os oes angen arian o ystâd y person a fu farw i dalu am gostau sydd angen eu talu'n ddi-oed, megis ar gyfer yr angladd, morgais neu yswiriant tŷ. Mae gan bob banc neu sefydliad ariannol ei reolau ei hun ynghylch pa dystiolaeth sydd ei angen arno, a faint o arian y bydd yn ei ryddhau i'r person sy'n gweithredu ar ran ystâd yr ymadawedig.

Os oedd gan y person a fu farw sawl cyfrif banc, a dim ond ychydig o arian ym mhob un, ond eu bod yn cynnwys mwy na £5,000 rhyngddynt, efallai y bydd yn bosib cael mynediad at yr arian yn y cyfrifon hynny o hyd, heb grant profiant neu lythyrau gweinyddu. Eto, pob banc neu sefydliad ariannol unigol fydd yn penderfynu a ryddheir yr arian ai peidio i'r person sy'n gweithredu ar ran ystâd y person a fu farw.

Os nad oes angen i'r banc neu'r sefydliad ariannol gael grant, gallai ofyn i'r person sy'n gweithredu ar ran ystâd yr ymadawedig lofnodi indemniad. Diben hyn yw diogelu'r banc neu'r sefydliad ariannol os daw'n amlwg yn ddiweddarach bod yr arian wedi cael ei dalu i'r person anghywir.

Arian mewn cyfrifon ar y cyd

Gall y person ymadawedig fod wedi cadw arian mewn cyfrif ar y cyd â rhywun arall mewn banc neu gymdeithas adeiladu. Fel arfer, mae hyn yn golygu mai'r cydberchennog sydd dal yn fyw a fydd yn berchen ar yr arian yn awtomatig. Nid yw'r arian yn rhan o ystâd y person ymadawedig at ddibenion gweinyddol ac oherwydd hynny nid oes angen i'r ysgutor na'r gweinyddwr ddelio ag ef. Fodd bynnag, mae cyfran y person ymadawedig mewn eiddo ar y cyd yn cael ei thrin fel rhan o'i ystâd at ddibenion treth etifeddu, pan fyddant wedi marw ac mewn anrhegion a roddwyd ganddynt pan oeddent yn fyw.

Cyfrifon coll neu yr anghofiwyd amdanynt

Cael gwybod sut i ddod o hyd i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu coll neu segur:

Cael mynediad at eiddo person a fu farw

Mae 'eiddo' yn cynnwys tai, eiddo diriaethol yn gyffredinol, cyfranddaliadau, hen bethau gwerthfawr, gemwaith, gweithiau celf, ac eiddo anniriaethol megis patentau a hawlfreintiau.

Os oedd gan y person a fu farw eiddo yn ei enw ef/hi yn unig, ac y gadawsant ewyllys ddilys yn delio â'r eiddo, bydd yr eiddo fel arfer yn cael ei drosglwyddo yn unol â'r hyn a nodir yn yr ewyllys. Os na adawodd y person ymadawedig ewyllys ddilys, neu ewyllys nad oedd yn delio â'r eiddo, delir â'r eiddo yn unol â'r gyfraith diewyllysedd.

Os oedd y person ymadawedig yn dal eiddo gyda pherson neu bersonau eraill, bydd angen i ysgutor neu weinyddwr y person a fu farw ganfod manylion ynghylch perchnogaeth yr eiddo. Pan fo'r eiddo'n dŷ, dylai fod tystiolaeth ddogfennol ysgrifenedig ynghylch math y berchnogaeth.

Eiddo mewn cydberchnogaeth

Os oedd y person a fu farw'n berchen ar dŷ gyda pherson neu bersonau eraill, fel 'cyd-denantiaid llesiannol', bydd cyfran y person ymadawedig yn cael ei throsglwyddo'n awtomatig i'r perchennog/perchnogion sydd dal yn fyw. Nid yw eiddo cyd-denantiaid yn ffurfio rhan o ystâd y person ymadawedig ar ôl iddynt farw, ond mae gwerth cyfran eiddo'r ymadawedig mewn cydberchnogaeth yn cael ei gyfrif wrth gyfrifo gwerth yr ystâd at ddibenion treth etifeddu.

Mewn achosion eraill, lle'r oedd y person a fu farw yn berchen ar eiddo gyda pherson neu bersonau eraill, mae cyfran y person a fu farw o'r eiddo yn ffurfio rhan o'u hystâd, a bydd yr ysgutor yn delio ag ef yn ôl yr amodau a nodir yn yr ewyllys neu bydd y gweinyddwr yn delio ag ef yn unol â'r gyfraith diewyllysedd. Mae gweinyddiaeth yr ystâd yn debygol o fod yn gymhleth, ac argymhellir y dylid ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol.

Cynlluniau pensiwn

Mae gwahanol reolau’n berthnasol i wahanol gynlluniau pensiwn. Bydd angen i'r ysgutor/gweinyddwr gysylltu â phob cynllun yr oedd yr ymadawedig yn rhan ohonynt a gofyn y canlynol:

  • a oes unrhyw fuddion marwolaeth yn daladwy
  • a oes pensiwn ar gyfer gŵr neu wraig, partner sifil neu blant
  • a oes unrhyw ran o'r buddsoddiad wedi dod yn rhan o ystâd yr ymadawedig dan gynllun pensiwn hunangyflogedig

Cofiwch ei bod yn bosib fod gan gyn ŵr neu wraig, neu gyn bartner sifil hawliau i rywfaint o'r pensiwn, yn dibynnu ar delerau setliad yr ysgariad neu'r diddymiad.

Polisïau yswiriant bywyd

Mae'n syniad da cysylltu â'r cwmni yswiriant cyn gynted â phosib. Maent yn dweud wrthych beth i'w wneud a pha ddogfennau y byddant eu hangen cyn y byddant yn talu.

Mae'n syniad da hefyd archwilio'n ofalus y swm ddylai fod yn ddyledus, ac i bwy, dan y polisi cyn llofnodi am unrhyw arian. Hefyd, cofiwch sicrhau bod polisïau'n parhau i fod yn gyfredol, a faint yw eu gwerth, cyn ymrwymo i gostau angladd. Mynnwch dderbynneb bob amser gan y cwmni yswiriant wrth gyfnewid polisi am arian.

Dyledion sy'n ddyledus i'r sawl a fu farw

Gall yr ysgutor neu'r gweinyddwr gasglu dyledion sy'n ddyledus i'r sawl a fu farw.

Ble i gadw arian sy'n perthyn i'r ystâd

Beth bynnag yw maint yr ystâd, mae'n syniad da agor 'cyfrif ystâd' ar wahân gyda banc neu gymdeithas adeiladu, fel y gellir cofnodi'r holl drafodion sy'n gysylltiedig â gweinyddu'r ystâd. Mae gan y buddiolwyr hawl i fynd i'r llys i gael gorchymyn i orfodi'r ysgutor/gweinyddwr i ddarparu rhestr lawn iddynt o'r ystâd a chopi o gyfrifon yr ystâd.

Atal dwyn enw'r ymadawedig

Weithiau bydd twyllwyr yn ceisio cymryd enw'r ymadawedig i ddwyn arian o'i ystâd. Gallwch wneud cais am gofrestru amddiffynnol i atal hyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU