Dogfennau a gwybodaeth sy'n ofynnol pan fydd rhywun yn marw
Gallwch weld rhestrau yma o'r dogfennau a'r wybodaeth y bydd angen eu casglu ar ôl i rywun farw, yn gyntaf i rhoi gwybod i'r pobl angenrheidiol/mudiadau yn syth wedi'r marwolaeth ac yn ail fel rhan o'r broses profeb hir dymor.
Dogfennau/gwybodaeth sy'n ofynnol yn ystod y pum diwrnod cyntaf
Bydd rhaid casglu'r wybodaeth a'r dogfennau canlynol cyn gynted ag y bo modd - er mwyn gallu cofrestru'r farwolaeth a rhoi cychwyn ar drefniadau'r angladd.
Dogfennau/gwybodaeth y bydd y person sy'n cael trefn ar faterion yr ymadawedig eu hangen
Y cynrychiolydd personol yw'r person sy'n gyfrifol yn ffurfiol am gael trefn ar ystâd yr ymadawedig, talu unrhyw drethi a dyledion a dosbarthu'r ystâd. Bydd angen y dogfennau canlynol arnynt (os ydynt yn berthnasol):
Dogfennau y bydd eu hangen ar y cynrychiolydd personol:
- copïau wedi'u selio o'r grant cynrychiolaeth (profiant/llythyrau gweinyddu)
Dogfennau sy'n gysylltiedig â'r farwolaeth:
- yr ewyllys os oes un
- tystysgrif farwolaeth (mae angen hon yn aml wrth wneud cais i gael mynediad at arian; mae'n ddoeth archebu o leiaf dau gopi ychwanegol wrth gofrestru'r farwolaeth)
Cysylltiedig â chynilion a buddsoddiadau:
- cyfriflenni cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu
- tystysgrifau cyfranddaliadau/datganiadau am fuddsoddiadau
- datganiadau cyfrifon pensiwn personol neu gwmni
Yswiriant:
- dogfennau yswiriant bywyd (gan gynnwys yswiriant morgais)
- polisïau yswiriant cyffredinol (car, cartref, teithio, meddygol ayb)
Pensiwn/budd-daliadau'r Wladwriaeth:
- gohebiaeth neu ddatganiadau perthnasol oddi wrth y Ganolfan Byd Gwaith (ar gyfer budd-daliadau) a/neu'r Gwasanaeth Pensiwn
Symiau sy'n ddyledus gan yr ymadawedig:
- cyfriflen morgais
- cyfriflenni cerdyn credyd
- biliau cyfleustodau/Treth Gyngor yn enw'r ymadawedig
- datganiadau/cytundebau rhentu (preifat neu awdurdod lleol)
- biliau eraill sy'n dal i fod yn ddyledus
- prydlesi, cytundeb hur-bwrcas neu debyg (e.e. ar gyfer cyfarpar, car neu ddodrefn)
- datganiadau ynghylch benthyciad addysgol
- datganiadau ar gyfer unrhyw fenthyciadau eraill
Symiau sy'n ddyledus i'r ymadawedig:
- anfonebau heb eu talu os oedd yr ymadawedig yn rhedeg busnes
- tystiolaeth lafar/ysgrifenedig o arian arall sy'n ddyledus i'r ymadawedig
Eiddo
- prydlesi neu weithredoedd eiddo (prif gartref ac unrhyw eiddo arall gartref neu dramor)
- (allweddi eiddo)
Eiddo personol eraill:
- prisiadau sydd eisoes ar gael o eiddo personol megis gemwaith, lluniau a thebyg (er y bydd angen cael prisiadau cyfredol yn ôl pris y farchnad)
- unrhyw restrau sydd ar gael o eiddo/eiddo personol
- gwybodaeth am gynnwys blychau diogelu
Cyflogaeth neu hunangyflogaeth:
- Ffurflen PAYE P60 a'r slipiau cyflog diweddaraf os oedd yr ymadawedig yn gyflogedig
- ffurflenni treth diweddar a datganiadau cyfrifo treth diweddar (os yw'n berthnasol)
Yn gysylltiedig â busnes:
- dogfennau cofrestru, cyfrifon, datganiadau treth a TAW y cwmni os oedd gan yr ymadawedig fusnes
Gwybodaeth/dogfennau eraill
Bydd y cynrychiolydd personol neu'r perthynas agos angen y wybodaeth a'r dogfennau canlynol er mwyn cysylltu â pherthnasau a ffrindiau neu er mwyn dychwelyd dogfennau i'r sefydliadau perthnasol:
- gwybodaeth/llyfr cyfeiriadau yn rhestru perthnasau a ffrindiau agos y bydd angen rhoi gwybod iddynt
- pasport
- dogfennau cofrestru cerbyd os oedd gan yr ymadawedig gar
- trwydded yrru/cardiau parcio/cardiau teithio
- cardiau aelodaeth neu ddogfennau/gohebiaeth yn dangos bod yr ymadawedig yn aelod o glybiau, cymdeithasau, Undebau Llafur ac ati