Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth i'w wneud pan fydd rhywun yn marw - rhestr atgoffa

Pan fydd rhywun yn marw mae llawer o benderfyniadau a threfniadau i'w gwneud a all fod yn anodd mewn cyfnod o alar. I helpu, rydym wedi llunio'r rhestr wirio hon i'ch tywys drwy'r broses.

Dechrau arni

Cyn i chi ddechrau, byddai'n ddefnyddiol i chi gael y wybodaeth ganlynol am yr ymadawedig wrth law.

  • rhif Yswiriant Gwladol
  • rhif GIG
  • dyddiad a man geni
  • dyddiad priodas neu bartneriaeth sifil (os yn berthnasol)
  • rhif cyfeirnod treth

Beth i'w wneud yn y pum niwrnod cyntaf

Mae yna ychydig o gamau sydd angen eu cymryd yn fuan ar ôl y farwolaeth. Yn aml iawn, bydd yr ysbyty neu'ch meddyg teulu yn eich helpu gyda'r camau cynnar hyn:

  • hysbysu'ch meddyg teulu
  • cofrestru'r farwolaeth mewn swyddfa gofrestru
  • dod o hyd i'r ewyllys - mae'n bosib bydd gan gyfreithiwr yr ymadawedig gopi os nad ydych yn gallu dod o hyd i un
  • dechrau ar drefniadau'r angladd - bydd angen i chi ddarllen yr ewyllys i weld a oes unrhyw geisiadau arbennig
  • llenwch y ffurflen BD8 a roddir i chi pan fyddwch yn cofrestru'r farwolaeth ac anfonwch y ffurflen at y Ganolfan Byd Gwaith leol neu'r adran Nawdd Cymdeithasol (os yn berthnasol)
  • os oedd yr ymadawedig yn cael unrhyw fudd-daliadau neu gredydau treth, dylech roi gwybod i'r swyddfeydd a oedd yn gwneud y taliadau hyn - os na allwch ddod o hyd i ohebiaeth berthnasol, defnyddiwch y dolenni isod i gysylltu â'r llinell gymorth credyd treth a swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith

Os oes ewyllys

  • cysylltwch â'r ysgutor os nad chi mohono (a enwir fel arfer yn yr ewyllys i gael trefn ar faterion yr ymadawedig) i'w galluogi i ddechrau ar y broses o gael profiant

Os nad oes ewyllys

  • penderfynwch pwy fydd yn rhoi trefn ar faterion yr ymadawedig
  • cysylltwch â'r Gofrestrfa Brofiant i wneud cais am 'lythyrau gweinyddu'

 phwy arall i gysylltu

Yn ogystal â rhoi gwybod i bobl a oedd yn agos at yr ymadawedig, yn aml bydd angen i chi gau cyfrifon, neu ganslo neu newid manylion yswiriant, tanysgrifiadau, cytundebau, taliadau neu ddebydau uniongyrchol.

Dyma restr i'ch rhoi ar ben ffordd; anwybyddwch y rhai nad ydyn nhw'n berthnasol:

  • perthnasau a ffrindiau
  • cyflogwr
  • ysgol
  • twrnai/cyfrifydd

Sefydliadau'r llywodraeth

  • y swyddfa dreth briodol
  • swyddfa cyfraniadau Yswiriant Gwladol os oedd yr ymadawedig yn hunangyflogedig (i ganslo'r taliadau)
  • swyddfa Budd-dal Plant (o fewn wyth wythnos fan bellaf)
  • awdurdod lleol os oeddynt yn talu treth cyngor, yn meddu ar docyn parcio, os rhoddwyd bathodyn glas iddynt ar gyfer parcio i bobl anabl, neu'n cael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol, yn mynychu canolfan gofal dydd neu ganolfannau tebyg
  • Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'r DU, er mwyn dychwelyd a chanslo pasbort
  • Yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) er mwyn dychwelyd trwydded yrru, canslo neu ddychwelyd treth car
  • dogfennau cofrestru car/newid perchnogaeth

Sefydliadau ariannol

  • cwmnïau yswiriant cyffredinol - cynnwys, car, teithio, meddygol ayb
  • unrhyw gwmni arall yr oedd gan yr ymadawedig gytundebau rhentu, hur-bwrcas neu fenthyciad gyda hwy
  • os mai'r ymadawedig oedd yr enw cyntaf ar bolisi yswiriant, cysylltwch cyn gynted ag y bo modd i sicrhau eich bod dan warchodaeth yr yswiriant o hyd
  • darparwyr pensiwn/cwmnïau yswiriant bywyd
  • banciau a chymdeithasau adeiladu
  • darparwr morgais
  • cwmnïau hur-bwrcas neu fenthyciad
  • darparwyr cerdyn credyd/cardiau siopau

Cyfleustodau a'r cartref

  • landlord neu awdurdod lleol os oeddynt yn rhentu eiddo
  • unrhyw fudiad/asiantaeth breifat a oedd yn darparu gofal yn y cartref
  • cwmnïau'r prif wasanaethau os oedd y cyfrifon yn enw'r ymadawedig
  • y Post Brenhinol, os oes angen ailgyfeirio'r post
  • cwmnïau teledu/rhyngrwyd yr oedd yr ymadawedig yn tanysgrifio iddynt

Cysylltiadau defnyddiol eraill

  • y Gofrestr Profedigaeth a DPS (Deceased Preference Service) er mwyn tynnu enw'r ymadawedig oddi ar restrau post a chronfeydd data
  • clybiau, undebau llafur, cymdeithasau lle mae'n rhaid ymaelodi bob tymor, er mwyn canslo aelodaeth a chael ad-daliadau
  • eglwys/man addoli rheolaidd
  • grwpiau cymdeithasol yr oedd yr ymadawedig yn perthyn iddynt
  • deintydd
  • credydwyr - unrhyw un yr oedd yr ymadawedig mewn dyled ariannol iddynt
  • dyledwyr - unrhyw un mewn dyled ariannol i'r ymadawedig

Cymorth ariannol a budd-daliadau

Mae'n bosib y byddwch yn gallu hawlio budd-daliadau a thaliadau untro os oeddech yn byw gyda'r ymadawedig neu'n ddibynnol arnynt. Mae terfynau amser yn berthnasol felly cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith agosaf cyn gynted â phosib i gael gwybod.

  • cysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith
  • gwneud cais am Lwfans Profedigaeth
  • gwneud cais am Lwfans Rhiant Gweddw
  • gwneud cais am Daliad Profedigaeth
  • gwneud cais am Daliad Angladd
  • holi ynghylch eich budd-daliadau a'ch credydau treth cyfredol

Gwneud ewyllys newydd

Efallai y bydd yn rhaid i'r perthnasau sydd ar ôl a ffrindiau wneud ewyllys newydd. Mae'n bwysig gofyn i berthnasau a ffrindiau'r ymadawedig am hyn.

Profedigaeth – cwnsela a chefnogaeth

Bydd pawb yn delio â phrofedigaeth mewn ffordd wahanol. Os byddwch chi neu rywun arall angen cwnsela neu gymorth, gofynnwch i'ch meddyg teulu neu cysylltwch â sefydliad megis Gofal Galaru Cruse. Eu nod yw hyrwyddo lles pobl sy'n galaru a darparu cwnsela a chefnogaeth. Mae'r sefydliad hefyd yn cynnig gwasanaethau gwybodaeth, cyngor, addysg a hyfforddiant.

Gall eich awdurdod lleol ddarparu cefnogaeth a chyngor am y trefniadau sydd angen eu gwneud ar ôl profedigaeth, megis cofrestru'r farwolaeth a chael tystysgrif marwolaeth. Os byddwch yn dilyn y ddolen i'r gwasanaeth profedigaeth, gallwch roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna fe'ch arweinir at wefan eich awdurdod lleol ble cewch fwy o wybodaeth.

Argraffwch y rhestr a'i chadw wrth law

Os carech gael copi o'r rhestr wirio hon i'w hargraffu a'i chadw, llwythwch y PDF (fformat dogfen gludadwy) o'r ddolen isod. Rydym hefyd wedi llunio canllawiau ar eich cyfer i'ch helpu os ydych yn ansicr ynghylch sut mae gwneud hyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU