Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pan fydd rhywun yn marw mewn ysbyty neu mewn cartref gofal

Bydd y staff a oedd yn gofalu am y person a fu farw yn gwybod beth i'w wneud, a byddant yn rhoi cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i chi ar ôl y farwolaeth.

Beth sy'n digwydd gyntaf?

Bydd angen enwi'r person a fu farw'n ffurfiol gan y sawl a enwir ganddynt fel eu perthynas agosaf. Gall y perthynas agosaf hefyd roi caniatâd i ysbyty gynnal archwiliad post mortem os bydd angen cadarnhau achos y farwolaeth; fodd bynnag, gall crwner gynnal archwiliad post mortem heb ganiatâd.

Yna caiff y corff ei osod i orwedd ym marwdy'r ysbyty a'i gadw yno hyd nes y byddwch yn trefnu iddo gael ei gasglu gan y trefnwyr angladdau, y teulu neu bwy bynnag y dewiswch. Os byddwch yn dewis trefnwyr angladdau, byddant yn mynd â'r corff i'w capel gorffwys a'i gadw yno tan yr angladd.

Bydd staff yr ysbyty neu'r cartref gofal yn cadw'r eiddo a oedd gan y sawl a fu farw gyda nhw yn yr ysbyty hyd nes y bydd y sawl sy'n gweinyddu'r ystâd yn trefnu iddynt gael eu casglu. Byddant yn darparu derbynneb wrth i'r eiddo gael eu casglu.

Y dystysgrif feddygol

Bydd meddyg yn yr ysbyty'n rhoi tystysgrif feddygol i chi fydd yn nodi achos y farwolaeth. Rhaid cynhyrchu hon cyn y gellir cofrestru'r farwolaeth. Byddant yn rhoi'r dystysgrif feddygol i chi mewn amlen wedi'i selio a'i chyfeirio at y Cofrestrydd Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau. Rhoddir gwybodaeth i chi hefyd ynghylch sut i gofrestru'r farwolaeth.

Os byddwch yn amlosgi'r corff, bydd dau feddyg yn llofnodi'r dystysgrif feddygol i ddangos bod y corff wedi'i archwilio. Codir tâl am hyn.

Rhoi organau a'r corff

Os ydych yn gwybod bod y sawl a fu farw wedi dymuno rhoi eu horganau neu eu corff i wyddoniaeth feddygol, dylech ddweud wrth yr ysbyty neu'r cartref gofal yn ddi-oed. Bydd gan bob ysbyty a chartref gofal eu polisïau eu hunain ar gyfer delio â hyn.

Gall staff yr ysbyty gysylltu â chi os byddant yn credu y gallai rhoi organau helpu eraill. Ni chaiff organau eu cymryd heb eich caniatâd.

Os oedd y sawl a fu farw'n dymuno rhoi eu corff i wyddoniaeth feddygol, cysylltwch ag Arolygydd Anatomi EM (Cymru a Lloegr), rhif ffôn 020 7972 4551. Ni dderbynnir pob corff - er enghraifft, os cynhaliwyd archwiliad post mortem ar y corff, neu os oes rhai organau wedi'u tynnu.

Beth ddylech chi ei wneud nesaf

Rhaid i chi gofrestru marwolaeth y person mewn swyddfa gofrestru leol o fewn pum niwrnod. Bydd angen gwneud apwyntiad fel arfer. Bydd angen i chi fynd â'r dystysgrif feddygol gyda chi. Ar ôl cofrestru'r farwolaeth rhoddir tystysgrif farwolaeth i chi, a fydd yn golygu y gallwch fwrw ymlaen â'r angladd.

Fe'ch argymhellir i wneud y canlynol hefyd:

  • sicrhau bod pawb sydd angen gwybod yn gwybod
  • ceisio darganfod a wnaethpwyd ewyllys ai peidio
  • trefnu i weld twrnai'r sawl a fu farw a darllen yr ewyllys cyn gynted â phosib
  • dechrau gwneud trefniadau ar gyfer yr angladd

Os nad ydych yn fodlon gyda gwasanaeth yr ysbyty neu'r cartref gofal

Os byddwch yn anfodlon gydag unrhyw ran o'r gwasanaeth a gewch gan y cartref gofal neu'r ysbyty, rhaid i chi ddilyn trefn gwyno'r ysbyty neu'r cartref gofal yn gyntaf.

Os byddwch chi'n dal i fod yn anfodlon ar ôl hyn, gallwch gysylltu â'r Ombwdsmon Gwasanaeth Iechyd, a all gynnal ymchwiliad annibynnol. Rhif llinell gymorth yr Ombwdsmon yw 0845 015 4033 (ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 8.00 pm ac ar ddydd Sadwrn rhwng 9.00 am a 1.00 pm).

Os yw'r ysbyty neu'r cartref gofal yn cael ei redeg yn breifat, gallwch fynd â'ch cwyn at linell gymorth y Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol ar 0845 015 0120 (ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.30 am a 5.30 pm).

Profedigaeth - cwnsela a chefnogaeth

Bydd pawb yn delio â phrofedigaeth mewn ffordd wahanol. Os byddwch chi neu rywun arall angen cwnsela neu gymorth, gofynnwch i'ch meddyg teulu neu cysylltwch â sefydliad perthnasol.

Gall eich awdurdod lleol ddarparu cefnogaeth a chyngor am y trefniadau sydd angen eu gwneud ar ôl profedigaeth, megis cofrestru'r farwolaeth a chael tystysgrif farwolaeth.

Os byddwch yn dilyn y ddolen i'r gwasanaeth profedigaeth, gallwch roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna fe'ch arweinir at wefan eich awdurdod lleol ble cewch fwy o wybodaeth.

Nod Gofal Galaru Cruse yw hyrwyddo lles pobl sydd mewn profedigaeth ac mae'n darparu cwnsela a chefnogaeth. Mae'r sefydliad hefyd yn cynnig gwasanaethau gwybodaeth, cyngor, addysg a hyfforddiant.

Allweddumynediad llywodraeth y DU