Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth yw profiant?

Mae 'profiant' yn derm a ddefnyddir yn gyffredin wrth wneud cais am yr hawl i ddelio â materion person sydd wedi marw. Gelwir hyn weithiau yn 'weinyddu'r ystâd'. Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ynghylch beth i’w ddisgwyl os bydd ystâd anwylyd mewn profiant.

Yn ymarferol, defnyddir termau gwahanol, yn dibynnu ar ba un a adawodd yr ymadawedig ewyllys neu beidio a ble roedd yn byw. Mae'r wybodaeth hon yn trafod profiant yng Nghymru a Lloegr.

Termau gwahanol sy'n gysylltiedig â phrofiant

Os yw'r person sydd wedi marw yn gadael ewyllys

Yn yr achos hwn, bydd un neu fwy o 'ysgutorion' wedi'u henwi yn yr ewyllys i ddelio gyda materion yr ymadawedig ar ôl ei farwolaeth. Mae'r ysgutor yn gwneud cais am 'grant profiant' oddi wrth y gofrestrfa brofiant sef un o adrannau'r llys. Dogfen gyfreithiol yw'r grant sy'n cadarnhau bod gan yr ysgutor hawl i ddelio gydag asedau'r ymadawedig (eiddo, arian ac eiddo personol). Gallant ei ddefnyddio i ddangos bod ganddynt hawl i gael mynediad at arian yr ymadawedig, cael trefn ar ei faterion ariannol, a chasglu a rhannu asedau'r ymadawedig yn unol â'r ewyllys.

Os nad yw'r person sydd wedi marw yn gadael ewyllys

Os nad oes ewyllys, gall perthynas agos i'r ymadawedig wneud cais i'r gofrestra brofiant i ddelio gyda'r ystâd. Yn yr achos hwn, maent yn gwneud cais am 'grant llythyrau gweinyddu'. Os rhoddir grant, fe'u gelwir yn 'weinyddwyr' yr ystâd. Fel gyda'r grant profiant, dogfen gyfreithiol yw'r grant llythyrau gweinyddu sy'n cadarnhau hawl y gweinyddwr i ddelio gydag asedau'r ymadawedig.

Mewn rhai achosion, er enghraifft, os mai plentyn yw'r person sy'n cael budd, mae'r gyfraith yn datgan bod yn rhaid cael mwy nag un gweinyddwr.

Os oedd y person sydd wedi marw yn byw yn yr Alban

Os oedd yr ymadawedig yn byw yn yr Alban, gallwch wneud cais am 'grant cadarnhau'.

Cynrychiolydd personol

Dyma derm cyffredinol sy'n golygu ysgutor neu weinyddwr.

Grant cynrychiolaeth

Dyma derm cyffredinol sy'n cynnwys grantiau profiant a grantiau llythyrau gweinyddu

A oes angen grant profiant/cynrychiolaeth bob tro?

Pryd y mae angen grant

Mae angen grant bob tro fel arfer pan fydd y person a fu farw wedi gadael un neu fwy o'r canlynol:

  • £5,000
  • stociau neu gyfranddaliadau
  • rhai mathau o bolisïau yswiriant
  • eiddo neu dir a oedd yn cael ei ddal yn ei enw ei hun neu fel 'tenantiaid ar y cyd' (tenants in common)

Gyda'r rhan fwyaf o'r uchod, bydd y banc neu'r sefydliad perthnasol angen gweld y grant cyn trosglwyddo rheolaeth o'r asedau. (Ond os yw'r ystâd yn fach, efallai y bydd rhai sefydliadau megis cwmnïau yswiriant a chymdeithasau adeiladu'n rhyddhau'r arian i chi yn ôl eu disgresiwn.)

Pryd na fydd angen grant

Efallai na fydd angen grant cynrychiolaeth:

  • os gadawodd y person a fu farw lai na £5,000
  • os oedd y sawl a fu farw'n berchen ar bopeth ar y cyd gyda rhywun arall a phopeth yn trosglwyddo'n awtomatig i'r cyd-berchennog sydd ar ôl

I ganfod a ellir cael gafael ar yr asedau heb grant, byddai angen i'r ysgutor neu'r gweinyddwr ysgrifennu at bob sefydliad yn eu hysbysu o'r farwolaeth ac yn cynnwys llungopi o'r dystysgrif farwolaeth (ac ewyllys os oes un).

Profiant a Threth Etifeddu

Ni roddir profiant i'r cynrychiolydd personol hyd nes y bo rhywfaint neu'r cyfan o unrhyw Dreth Etifeddu sy'n ddyledus ar yr ystâd wedi'i dalu.

Allweddumynediad llywodraeth y DU