Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i wneud ewyllys byw

Mae gan bob oedolyn gyda gallu meddyliol hawl i gytuno i driniaeth feddygol neu ei gwrthod. Er mwyn sicrhau bod eich dymuniadau'n glir ymlaen llaw, gallwch ddefnyddio ewyllys byw. Gall ewyllysiau byw gynnwys datganiadau cyffredinol am eich dymuniadau, nad ydynt yn gyfreithiol-rwym, a datganiadau ynghylch triniaethau penodol yr ydych am eu gwrthod a elwir yn 'benderfyniadau ymlaen llaw' neu'n 'flaengyfarwyddebau'.

Datganiadau ysgrifenedig cyffredinol

Gall datganiad ysgrifenedig cyffredinol (a elwir weithiau'n 'ddatganiad ymlaen llaw') nodi pa driniaethau y teimlwch yr hoffech eu derbyn neu pa rai na fyddech yn hoffi'u derbyn petaech yn colli gallu meddyliol yn y dyfodol.

Nid yw datganiadau ymlaen llaw yn gyfreithiol-rwym, ond rhaid i weithwyr proffesiynol ym maes iechyd eu hystyried wrth benderfynu ynghylch pa gamau i'w cymryd. Gall y teulu a ffrindiau hefyd eu defnyddio fel tystiolaeth o'ch dymuniadau.

Gallech hefyd ddatgan eich barn ar lafar, er enghraifft, wrth drafod triniaeth gyda gweithiwr proffesiynol gofal iechyd, ond trwy ei roi ar bapur gall pethau fod yn llawer cliriach i bawb.

Beth allai datganiad ei gynnwys

Gallai eich datganiad gynnwys:

  • triniaeth y byddech yn hapus i'w chael, ac ym mha amgylchiadau
  • triniaeth y byddech am ei chael, ni waeth pa mor wael yr ydych
  • triniaeth y byddai'n well gennych beidio â'i chael, ac ym mha amgylchiadau
  • rhywun yr hoffech iddynt ymgynghori ag ef/hi ynghylch eich triniaeth ar yr adeg pan fo angen gwneud penderfyniad

Gall hefyd gynnwys datganiad yn gwrthod triniaeth benodol, sydd â statws cyfreithiol gwahanol.

Wrth ysgrifennu datganiad ymlaen llaw, cofiwch y gall cyffuriau neu driniaethau newydd gael eu cyflwyno yn y dyfodol. Felly, er enghraifft, gallech nodi y byddai'n well gennych beidio â derbyn rhai mathau o driniaethau cyfredol, ond yn caniatáu triniaethau newydd.

Dylech gynnwys eich enw, eich cyfeiriad, y dyddiad a'ch llofnod yn y datganiad ymlaen llaw. Fe'ch cynghorir hefyd i ddweud eich bod yn deall yr hyn yr ydych yn ei wneud ac yn abl i wneud y cyfryw benderfyniadau. Ac efallai y gallech gael tyst i lofnodi'r datganiad sy'n gallu dweud eich bod â'r gallu meddyliol ar y pryd i'w wneud.

Ewyllysiau byw a gallu meddyliol

Gallwch wneud ewyllys byw hyd yn oed os oes gennych chi salwch meddwl, dim ond ichi allu dangos eich bod yn deall goblygiadau'r hyn yr ydych yn ei wneud. Mae angen ichi fod yn abl i wneud y penderfyniad dan sylw, nid o anghenraid i wneud penderfyniadau eraill.

Y peth gorau yw rhoi eich dymuniadau ar bapur ac esbonio:

  • pam eich bod wedi gwneud eich penderfyniad ynghylch sut yr ydych neu sut nad ydych am gael eich trin
  • beth yr ydych yn ei ddeall am y driniaeth yr ydych yn cytuno iddi neu'n ei gwrthod
  • pam eich bod yn gwneud y penderfyniadau hyn yn awr

Pwy sydd angen gwybod am ewyllys byw?

Mae'n bwysig fod eich ewyllys byw'n cael ei chynnwys yn eich nodiadau meddygol fel y bydd ar gael i weithredu arni mewn argyfwng. Ystyriwch anfon copi at eich meddyg ac i unrhyw ysbyty sy'n rhoi triniaeth i chi ac i'ch perthynas/au agosaf. Os mai ewyllys byw llafar sydd gennych, sicrhewch fod ffrindiau neu berthnasau agosaf yn ymwybodol ohoni.

Newid ewyllys byw a rhagor o gyngor

Dylech ystyried newid eich ewyllys byw'n rheolaidd i sicrhau eich bod yn hapus â'i chynnwys ac yn enwedig os yw'ch sefyllfa'n newid.

Gallwch ei newid neu ei chanslo os gallwch feddwl yn rhesymegol ac esbonio beth yr hoffech ei weld yn digwydd. Yn ddelfrydol, nodwch bopeth ar bapur a dinistrio hen fersiynau.

Gallwch gael cymorth gan gyfreithwyr sy'n arbenigo ym maes iechyd meddwl neu ofal yn y gymuned. Gall eich llinell Cyngor Cyfreithiol Mind (020 8519 2122, rhwng 2.00 pm a 4.30 pm, dydd Llun, dydd Mercher, a dydd Gwener), eich cydlynydd gofal, eich meddyg neu Ganolfan Cyngor ar Bopeth roi cymorth i chi hefyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU