Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ewyllysiau byw: blaengyfarwyddeb neu benderfyniad ymlaen llaw

Gallwch ddefnyddio penderfyniad ymlaen llaw (a elwir hefyd yn flaengyfarwyddeb) i nodi'ch dymuniad i wrthod y cyfan neu rai mathau o driniaeth feddygol os byddwch yn dioddef analluedd meddyliol yn y dyfodol. Allwch chi ddim ei ddefnyddio i wneud cais am driniaeth.

Mae gan benderfyniad ymlaen llaw dilys yr un effaith â pherson gyda galluedd meddyliol yn gwrthod triniaeth: ni ellir rhoi'r driniaeth yn gyfreithlon - os byddai'n cael ei rhoi, gallai'r meddyg wynebu erlyniad troseddol neu atebolrwydd sifil.

Cyfyngiadau ar benderfyniadau ymlaen llaw

Allwch chi ddim defnyddio penderfyniad ymlaen llaw i wneud y canlynol:

  • gofyn am gael rhoi diwedd ar eich bywyd
  • gorfodi meddygon i weithredu'n groes i'w barn broffesiynol
  • enwebu rhywun arall i benderfynu ynghylch triniaeth ar eich rhan

Fel gyda datganiadau ymlaen llaw, cofiwch ei bod yn bosibl y bydd cyffuriau neu driniaethau newydd ar gael yn y dyfodol ac felly efallai yr hoffech roi caniatâd i driniaethau newydd gael eu defnyddio er eich bod yn gwrthod triniaeth gyfredol.

A oes raid i benderfyniad ymlaen llaw fod yn ysgrifenedig?

Does dim rhaid i benderfyniad ymlaen llaw fod yn ysgrifenedig. Fodd bynnag, er y gellir parchu cyfarwyddiadau llafar y tystiwyd iddynt, mae'n well rhoi gwybod amdanynt i uwch aelod o dîm meddygol. Bydd penderfyniad ysgrifenedig yn helpu i osgoi unrhyw amheuaeth am yr hyn yr ydych am ei wrthod. O fis Ebrill 2007, bydd yn rhaid i rai agweddau o benderfyniadau ymlaen llaw fod yn ysgrifenedig.

Dylech lofnodi a rhoi dyddiad ar benderfyniad ymlaen llaw a chael rhywun i dystio iddo fel ag ar gyfer datganiad ymlaen llaw.

Gallai penderfyniad ymlaen llaw ysgrifenedig ffurfio rhan o ddatganiad ymlaen llaw cyffredinol, ond byddai gliriaf petai'n dod o dan bennawd penodol, yn ddelfrydol, 'Penderfyniad ymlaen llaw' neu 'Flaengyfarwyddeb', yn gwrthod triniaeth.

Rheoleiddio penderfyniadau ymlaen llaw o Ebrill 2007

Daeth Deddf Gallu Meddyliol 2005 i rym ym mis Ebrill 2007 ac mae’n ffurfio'r sail gyfreithiol ar gyfer penderfyniadau ymlaen llaw.

Penderfyniadau ymlaen llaw dilys

I fod yn ddilys, bydd y canlynol yn berthnasol i benderfyniad ymlaen llaw:

  • rhaid iddo gael ei wneud gan berson sy'n 18 neu drosodd a'r gallu i'w wneud
  • rhaid iddo nodi'r driniaeth i'w gwrthod (gellir gwneud hyn mewn termau lleyg)
  • rhaid iddo nodi'r amgylchiadau lle byddai gwrthod y driniaeth hon yn gymwys
  • ni ddylid fod wedi ei wneud o dan ddylanwad unrhyw un arall na thrwy harasio
  • ni ddylid fod wedi'i newid ar lafar neu'n ysgrifenedig ers y'i gwnaethpwyd

Gwrthod triniaeth cynnal bywyd

Rhaid i benderfyniadau ymlaen llaw i wrthod triniaeth cynnal bywyd gydymffurfio â'r canlynol:

  • rhaid iddynt fod yn ysgrifenedig (gall aelod o'r teulu eu hysgrifennu, gellir eu cofnodi mewn nodiadau meddygol gan feddyg neu ar gofnod electronig)
  • rhaid iddynt gael eu llofnodi a rhaid cael tyst (gall rhywun arall eu llofnodi dan gyfarwyddyd y person - mae'r tyst i gadarnhau'r llofnod nid cynnwys y blaengyfarwyddeb)
  • rhaid iddynt gynnwys datganiad penodol bod y penderfyniad yn sefyll 'hyd yn oed os oes perygl i fywyd'

Pryd y gellid peidio â chaniatáu penderfyniad ymlaen llaw?

Mae'n bosibl na fyddai meddyg yn gweithredu yn unol â phenderfyniad ymlaen llaw:

  • os yw'r person wedi gwneud rhywbeth sy'n amlwg yn anghyson â'r penderfyniad ymlaen llaw sy'n effeithio ar ei ddilysrwydd (er enghraifft, newid mewn ffydd grefyddol)
  • pe na fyddai'r amgylchiadau cyfredol wedi'u rhagweld gan y person ac y byddent wedi effeithio ar ei benderfyniad (er enghraifft, datblygiad diweddar yn y driniaeth sydd wedi arwain at newid mawr yn y rhagolygon ar gyfer ei gyflwr)
  • os nad yw'n glir am yr hyn a ddylai ddigwydd
  • os yw'r person wedi cael ei drin dan y Ddeddf Iechyd Meddwl

Gall meddyg roi triniaeth hefyd os oes amheuaeth neu anghydfod ynghylch penderfyniad ymlaen llaw a bod yr achos wedi'i gyfeirio at y llys.

Allweddumynediad llywodraeth y DU