Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Daeth y Ddeddf Gallu Meddyliol i rym yn Hydref 2007. Mae’n amddiffyn pobl na allant wneud eu penderfyniadau eu hunain o ganlyniad i anabledd dysgu neu gyflwr iechyd meddwl, neu am unrhyw reswm arall. Mae'n darparu canllawiau clir ar gyfer gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ynghylch pwy sy'n cymryd penderfyniadau ym mha sefyllfaoedd.ynghylch pwy sy'n cymryd penderfyniadau ym mha sefyllfaoedd.
Mae'r Ddeddf yn datgan y dylid trin pawb fel pobl sy'n gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain hyd nes y gellir dangos na allant wneud hynny. Mae'n anelu hefyd at alluogi pobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain am ba hyd bynnag y gallant wneud hynny.
Caiff gallu person i wneud penderfyniad ei sefydlu pan fydd angen gwneud penderfyniad. Gallai diffyg gallu fod oherwydd anabledd dysgu difrifol, dementia, problemau iechyd meddwl, anaf i'r ymennydd, strôc neu fod yn anymwybodol o ganlyniad anesthetig neu ddamwain sydyn.
Ceir trosedd newydd hefyd, sef cam-drin neu esgeuluso person nad yw’n gallu gwneud penderfyniadau drosto’i hun.
Bwriad y Ddeddf yw amddiffyn pobl sy'n colli'r gallu i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Yn bendant, bydd yn:
Bydd pobl nad oes ganddynt unrhyw un i weithredu ar eu rhan hefyd yn gallu gadael cyfarwyddiadau ynghylch eu gofal dan y darpariaethau newydd.
Gallwch ddarllen mwy am y Ddeddf ar wefan Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Mae Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn amddiffyn pobl sydd heb y gallu meddyliol i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain.
Bydd yn gwneud hyn drwy reoleiddio a goruchwylio dirprwyon a benodir gan y llys, a thrwy gofrestru Atwrneiaethau Arhosol ac Atwrneiaethau Parhaus.
Os ceir amheuaeth nad yw twrnai neu ddirprwy'n gweithredu er pennaf les y person a gynrychiolir ganddo, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gweithio gyda sefydliadau eraill er mwyn sicrhau y caiff unrhyw honiadau o gamdriniaeth eu hymchwilio'n llawn, ac y gweithredir arnynt.
Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd yn darparu gwybodaeth am allu meddyliol i'r cyhoedd, a gall ddarparu cysylltiadau â sefydliadau eraill sy'n gweithio ym maes gallu meddyliol. Gellir cael mwy o wybodaeth am Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus, y Llys Nodded ac Atwrneiaethau Arhosol ar wefan Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Y Llys Nodded sy'n ymdrin â phob mater sy'n ymwneud â phobl heb y gallu i wneud penderfyniadau penodol, er enghraifft, i ymwneud â materion ariannol neu ofal iechyd difrifol. Bydd yn ystyried achosion lle mae gofalwr y person yn anghytuno â gweithiwr gofal iechyd neu weithiwr cymdeithasol ynghylch beth sydd er lles neu fudd gorau'r person.
Mae gan y Llys Nodded farnwyr sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i ymdrin â phenderfyniadau sy'n ymwneud â lles personol, yn ogystal â materion sy'n ymwneud ag eiddo ac arian.
Bydd Atwrneiaethau Arhosol yn cymryd lle Atwrneiaethau Parhaus. Os oes gennych Atwrneiaethau Parhaus presennol, gellir dal ei ddefnyddio ond ni allwch wneud unrhyw newidiadau iddo neu wneud un newydd.
Mae’r Atwrneiaethau Arhosol yn ddogfen gyfreithlon yr ydych yn ei chreu gan ddefnyddio ffurflen arbennig. Mae’n eich galluogi i ddewis rhywun nawr yr ydych yn ymddiried ynddo i wneud penderfyniadau ar eich rhan yn y dyfodol rhag ofn nid yn gallu neu nid ydych eisiau gwneud y penderfyniadau hynny eich hun.
Mae'r Atwrneiaethau Arhosol newydd yn ymdrin â lles personol yn ogystal â phenderfyniadau'n ymwneud ag arian ac eiddo. Gan fod rhaid eu cofrestru gyda'r Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn eu defnyddio, cânt eu harchwilio'n fanylach er mwyn sicrhau bod unrhyw benderfyniadau a wneir ar ran pobl na allant eu gwneud drostynt eu hunain yn cael eu gwneud er pennaf les y bobl hynny.
Mae’r Ddeddf Gallu Meddyliol wedi creu’r gwasanaeth Eiriolaeth Gallu Meddyliol Annibynnol. Mae Eiriolaeth Gallu Meddyliol Annibynnol yn rhywun a gaiff ei apwyntio i gefnogi person â diffyg gallu ond sydd heb rywun i siarad drostynt, fel perthnasau neu ffrindiau.
Byddant ond yn ymyrryd i helpu gyda phenderfyniadau am driniaeth feddygol ddifrifol neu newid yn lle byw'r person lle y darparwyd gan yr NHS neu awdurdod lleol.
Mae 'Tair Stori' yn rhaglen ddogfen am dair stori bywyd go iawn. Mae'n dangos sut mae'r Ddeddf Gallu Meddyliol yn grymuso ac yn amddiffyn pobl sydd heb y gallu i wneud rhai penderfyniadau, neu sy'n ei chael yn anodd cyfleu rhai o'u penderfyniadau.
Mae'r ffilm 15 munud ar gael mewn tair fformat: