Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Eich hawl i wasanaethau gofal iechyd a chymdeithasol

Mae gan bobl anabl yr un hawliau cyffredinol â phobl eraill i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ond mae 'na rai darpariaethau arbennig eraill o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.

Y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd

Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DGA) yn rhoi hawliau mynediad pwysig i bobl anabl at wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, megis meddygfeydd, deintyddfeydd, ysbytai ac unedau sgrinio symudol.

Mae darpariaethau gwrth-wahaniaethu'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn golygu na ddylai eich meddyg teulu wrthod eich cofrestru neu wrthod parhau â'ch triniaeth oherwydd eich anabledd.

Mae'r Ddeddf hefyd yn golygu bod gennych hawl i wybodaeth am ofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar ffurf sy'n hwylus i chi lle mae'n rhesymol i'r darparwr gwasanaeth ei darparu ar y ffurf honno.

Er enghraifft, gallai ysbyty ddarparu ffurflenni a llenyddiaeth esboniadol mewn print bras neu Braille i helpu pobl gyda nam ar eu golwg, neu gallai trefnu cyfieithydd/dehonglydd i rywun sy’n drwm ei glyw

Cymorth a chyngor gan y Comisiwn Hawliau Anabledd

Mae'r Comisiwn Hawliau Anabledd (CHA) yn ffynhonnell cyngor da os teimlwch i chi ddioddef camwahaniaethu yn eich erbyn o ganlyniad i'ch anabledd. Mae llinell gymorth y Comisiwn yn rhoi cyngor a gwybodaeth am Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 i bobl anabl, cyflogwyr, darparwyr gwasanaeth, ysgolion a cholegau, a ffrindiau a theuluoedd pobl anabl.

Ffôn: 08457 622 633

Ffôn testun: 08457 622 644

Ffacs: 08457 778 878

Mae'r llinellau ar agor dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener rhwng 9.00 am a 5.00 pm; dydd Mercher rhwng 8.00 am a 8.00 pm.

Rhoi caniatâd ar gyfer triniaeth neu archwiliadau meddygol

Ceir cyfreithiau penodol sy'n gysylltiedig ag anableddau dysgu, problemau iechyd meddwl a rhoi caniatâd ar gyfer triniaeth neu archwiliadau meddygol.

I gael rhagor o fanylion, ewch ar wefan yr Adran Iechyd, lle gallwch lwytho copïau o'u canllawiau cyfeirio gyda golwg ar roi caniatâd ar gyfer triniaeth ac archwiliadau ar gyfer oedolion, rhieni, pobl ifanc, pobl ag anableddau dysgu, perthnasau a gofalwyr.

Mae'r canllawiau hyn ar gael hefyd trwy Linell Ymateb y GIG.

Ffôn: 08701 555 455

Allweddumynediad llywodraeth y DU