Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhesymau ariannol dros wneud ewyllys

Mae'n hawdd iawn osgoi gwneud ewyllys. Ond os byddwch yn marw heb ewyllys, efallai y bydd eich asedau'n cael eu dosbarthu yn unol â'r gyfraith yn hytrach na'ch dymuniadau. Gallai hyn olygu y bydd eich partner yn derbyn llai, neu fod yr arian yn mynd i aelodau'r teulu nad oes angen yr arian arnynt, o bosibl.

Gwneud ewyllys - pam fod hyn yn bwysig

Mae llawer o resymau ariannol da dros wneud ewyllys:

  • gallwch chi benderfynu sut y rhennir eich asedau - os nad oes gennych ewyllys, y gyfraith sy'n dweud pwy sy'n cael beth
  • os nad ydych chi'n briod neu os nad ydych mewn partneriaeth sifil (boed honno'n berthynas o'r-un-rhyw neu beidio), fydd eich partner ddim yn etifeddu'n awtomatig - fe allwch sicrhau bod darpariaeth ar gyfer eich partner.
  • os ydych wedi cael ysgariad neu os yw'r bartneriaeth sifil wedi'i dirymu, gallwch chi benderfynu a ydych am adael unrhyw beth i gyn-bartner sy'n byw gyda rhywun arall
  • gallwch sicrhau nad ydych yn talu mwy o Dreth Etifeddu nag sydd raid

Pwy sy'n etifeddu os na fyddwch yn gwneud ewyllys?

Os nad oes gennych ewyllys mae rheolau ar gael ar gyfer penderfynu pwy sy'n etifeddu'ch asedau, yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Dim ond ar gyfer marwolaethau ar 1 Chwefror 2009 ac ar ôl hynny yng Nghymru a Lloegr y mae'r rheolau a ganlyn yn berthnasol. Mae'r gyfraith yn wahanol os byddwch chi'n marw a chithau heb wneud ewyllys yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon. Dangosir y cyfraddau a oedd yn berthnasol cyn y dyddiad hwnnw mewn cromfachau.

Os ydych chi'n briod neu mewn partneriaeth sifil, ac nad oes gennych blant

Ni fydd y gŵr, y wraig neu'r partner sifil yn cael popeth yn awtomatig, er y byddant yn derbyn:

  • eitemau personol, megis nwyddau cartref a cheir, ond dim byd a ddefnyddir at ddibenion busnes
  • £405,000 (£200,000) yn ddi-dreth - neu'r ystad gyfan os oedd ei gwerth yn llai na £450,000 (£200,000)
  • hanner gweddill yr ystad

Rhennir hanner arall gweddill yr ystad rhwng y canlynol:

  • rhieni sy'n dal yn fyw
  • os nad oes rhieni'n dal yn fyw, bydd unrhyw frodyr a chwiorydd (gyda'r un tad a mam â'r ymadawedig) yn cael cyfran (neu eu plant os buont farw tra oedd yr ymadawedig yn dal yn fyw)
  • os nad oes gan yr ymadawedig yr un o'r uchod, bydd y gŵr, y wraig neu'r partner sifil cofrestredig yn cael popeth

Os ydych chi'n briod neu mewn partneriaeth sifil, a bod gennych blant

Ni fydd eich gŵr, eich gwraig neu eich partner sifil yn cael popeth yn awtomatig, er y byddant yn derbyn:

  • eitemau personol, megis nwyddau cartref a cheir, ond dim byd a ddefnyddir at ddibenion busnes
  • £250,000 (£125,000) yn ddi-dreth - neu'r ystad gyfan os oedd ei gwerth yn llai na £250,000 (£125,000)
  • buddiant am oes yn hanner yr hyn sy'n weddill o'r ystad (ar ei farwolaeth ef neu hi, bydd hwn yn trosglwyddo i'r plant)

Bydd gweddill yr ystad yn cael ei rhannu rhwng y plant.

Os ydych yn bartneriaid ond heb fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Os nad ydych wedi priodi nac yn bartneriaid sifil cofrestredig, fyddwch chi ddim yn cael cyfran o ystâd eich partner yn awtomatig os bydd yn marw heb wneud ewyllys.

Os nad ydynt wedi darparu ar eich cyfer mewn rhyw ffordd arall, eich unig ddewis yw gwneud hawliad dan Ddeddf Etifeddu (Darpariaeth i Deulu a Dibynyddion) 1975. Gweler yr adran isod 'Os ydych yn teimlo nad ydych wedi derbyn darpariaeth ariannol resymol'.

Os nad oes gŵr/gwraig/partner sifil yn dal yn fyw

Dosberthir yr ystad fel a ganlyn:

  • i'r plant sy'n dal yn fyw mewn cyfrannau cyfartal (neu eu plant hwy os buont farw tra oedd yr ymadawedig yn dal yn fyw)
  • os nad oes plant, i'r rhieni (yn gyfartal, os yw'r ddau'n dal yn fyw)
  • os nad oes rhieni'n dal yn fyw, i frodyr a chwiorydd (gyda'r un tad a mam â'r ymadawedig) neu i'w plant os buont farw tra oedd yr ymadawedig yn dal yn fyw
  • os nad oes brodyr na chwiorydd, yna i hanner brodyr a chwiorydd (neu i'w plant hwy os buont farw tra oedd yr ymadawedig yn dal yn fyw)
  • os nad yw'r un o'r uchod yn berthnasol, i neiniau a theidiau (yn gyfartal os oes mwy nag un)
  • os nad oes unrhyw neiniau a theidiau, i ewythrod a modrybedd (neu i'w plant hwy os buont farw tra oedd yr ymadawedig yn dal yn fyw)
  • os nad yw'r un o'r uchod yn berthnasol, i hanner ewythrod a modrybedd (neu i'w plant hwy os buont farw tra oedd yr ymadawedig yn dal yn fyw)
  • i'r Goron os nad oes yr un o'r uchod yn berthnasol

Bydd yn cymryd mwy o amser i gael trefn ar eich materion os nad oes gennych ewyllys. Gallai hyn beri mwy o loes i'ch perthnasau a'ch dibynyddion hyd nes y gallant dynnu arian o'ch ystad.

Os teimlwch nad ydych wedi cael darpariaeth ariannol resymol

Os teimlwch nad ydych wedi derbyn darpariaeth ariannol resymol gan yr ystâd, efallai y gallwch hawlio dan Ddeddf Etifeddu (Darpariaeth i Deulu a Dibynyddion) 1975 - ar waith yng Nghymru a Lloegr. I wneud hawliad, rhaid i chi fod â math arbennig o berthynas gyda'r ymadawedig, megis plentyn, gŵr neu wraig, partner sifil, dibynnydd neu berson a oedd yn cyd-fyw ag ef neu hi.

Os oeddech yn byw gyda'r ymadawedig fel partner ond heb fod yn briod nac mewn partneriaeth sifil, cofiwch y bydd yn rhaid i chi ddangos eich bod wedi'ch 'cynnal naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol gan yr ymadawedig' - gall profi hyn fod yn anodd os oedd y ddau ohonoch wedi cyfrannu at eich bywyd gyda'ch gilydd.

Bydd angen i chi hawlio o fewn chwe mis i ddyddiad y Grant Llythyrau Gweinyddu.

Mae hwn yn faes eithaf cymhleth ac efallai na fydd hawliad yn llwyddiannus. Fe'ch cynghorir i gael cyngor gan gyfreithiwr. Byddent yn codi tâl am y gwasanaeth hwn.

Treth Etifeddu a’ch ewyllys

Os ydych yn gadael popeth i'ch gŵr, eich gwraig neu eich partner sifil

Yn yr achos hwn, ni fydd unrhyw Dreth Etifeddu i'w thalu fel arfer oherwydd bod gŵr, gwraig neu bartner sifil yn cael eu hystyried yn 'fuddiolwyr eithriedig'. Ond cofiwch y bydd eu hystâd yn werth mwy pan fyddant yn marw, ac felly efallai y bydd yn rhaid talu mwy o Dreth Etifeddu bryd hynny.

Fodd bynnag, os ydych â'ch domisil (eich cartref parhaol) yn y DU pan fyddwch yn marw, ond nad yw eich partner priod neu bartner sifil, chewch chi ddim gadael mwy na £55,000 iddynt yn ddi-dreth.

Buddiolwyr eraill

Gallwch adael hyd at £325,000 yn ddi-dreth i unrhyw un yn eich ewyllys, nid dim ond eich partner priod neu bartner sifil (blwyddyn dreth 2012-2013). Felly gallech, er enghraifft, roi rhywfaint o'ch ystad i rywun arall neu i ymddiriedolaeth deulu. Ar unrhyw swm yr ydych yn ei adael ar ben hwn, mae Treth Etifeddu yn daladwy ar gyfradd o naill ai:

  • 40 y cant
  • 36 y cant, os caiff 10 y cant neu fwy o’r ystad net ei adael i elusen

Elusennau

Nid oes Treth Etifeddu'n daladwy ar unrhyw arian neu asedau y byddwch yn eu gadael i elusen ‘gymwys’ - mae'r trosglwyddiadau hyn wedi'u heithrio. Cael gwybod mwy ynghylch elusennau cymwys drwy ddilyn y ddolen isod.

Ewyllysiau, ymddiriedolaethau a chynllunio ariannol

Yn ogystal â gwneud ewyllys, gallwch ddefnyddio ymddiriedolaeth deulu i rannu'ch asedau yn ôl eich dymuniad chi. Fe allwch drefnu yn eich ewyllys i asedau penodol gael eu trosglwyddo i ymddiriedolaeth neu i ymddiriedolaeth ddechrau pan fydd manylion yr ystad wedi'u terfynu. Gallwch hefyd ddefnyddio ymddiriedolaeth i ofalu am asedau yr ydych am eu trosglwyddo i fuddiolwyr na allant reoli eu materion ariannol ar y pryd (naill ai oherwydd eu hoed neu oherwydd anabledd).

Gallwch ddefnyddio gwahanol fathau o ymddiriedolaethau yn dibynnu ar yr hyn yr ydych eisiau'i wneud a'r amgylchiadau. Mae sefydlu ymddiriedolaeth yn gymhleth ac felly bydd rhaid i chi gael cyngor arbenigol, felly dim ond os oes gennych ystad fawr y mae hyn yn werth ei wneud. Os ydych chi'n disgwyl i'r ymddiriedolaeth fod yn agored i dreth ar incwm neu enillion, dylech roi gwybod i Ymddiriedolaethau Cyllid a Thollau EM cyn gynted ag y caiff yr ymddiriedolaeth ei sefydlu. Codir tâl ar y rhan fwyaf o ymddiriedolaethau yn syth os golyga'r trosglwyddiad eich bod yn mynd heibio i drothwy'r Dreth Etifeddu. Codir Treth Etifeddu hefyd pan fydd asedau'n gadael yr ymddiriedolaeth. Darllenwch ein herthyglau cysylltiedig i gael gwybod mwy.

Rhagor o wybodaeth am wneud ewyllys

Mae Cyngor Ar Bopeth (CAB) yn cynnig cyngor am sut i wneud ewyllys. Gallwch ddarllen eu harweiniad hwylus sy'n cynnwys:

  • sut i wneud, storio a diweddaru eich ewyllys
  • sut i newid eich ewyllys pan fydd eich amgylchiadau'n newid
  • defnyddio cyfreithiwr

Additional links

Archwiliad iechyd ariannol

Cymryd 5-10 munud ar archwiliad iechyd ariannol cyfrinachol sydd am ddim

Cyfrif Cynilo Unigol i Bobl Iau

Mae cyfrifon cynilo di-dreth i blant ar gael bellach

Allweddumynediad llywodraeth y DU