Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhoi i elusen mewn ffordd dreth-effeithlon: y pethau pwysig

Os ydych am roi rhodd i elusen neu i Glwb Chwaraeon Amatur Cymunedol a’ch bod yn talu treth yn y DU, ceir amryw o gynlluniau a chymhellion treth i’ch helpu i gael y budd mwyaf o’ch rhodd.

Sut mae rhoi rhodd mewn ffordd dreth-effeithlon

Fel unigolyn, gallwch roi rhodd i elusen mewn amryw o ffyrdd treth-effeithlon. Efallai y gallwch adhawlio rhywfaint o dreth drwy ddefnyddio’r dulliau hyn.

Er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid bod y corff y byddwch yn rhoi rhodd iddo yn cael ei gydnabod gan Gyllid a Thollau EM fel elusen at ddibenion treth. Gofynnwch i’r elusen gadarnhau a oes ganddi gyfeirnod elusen Cyllid a Thollau EM.

Os byddwch yn rhoi'ch rhoddion dan y cynllun Cymorth Rhodd, bydd yr elusen o'ch dewis hefyd yn gallu adhawlio treth (a elwir yn ostyngiad treth) gan y llywodraeth.

Gan ddibynnu ar y math o rodd, efallai y bydd yn rhaid i chi wneud cais i gael gostyngiad treth (naill ai ar eich ffurflen dreth Hunanasesu neu drwy gysylltu â'ch Swyddfa Dreth).

Ceir crynodeb isod o’r gwahanol ffyrdd y gallwch roi rhodd mewn ffordd dreth-effeithlon.

Rhoi i elusen neu Glwb Chwaraeon Amatur Cymunedol drwy Gymorth Rhodd

Mae Cymorth Rhodd yn ffordd hawdd o helpu elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol i gael mwy o arian am eich rhoddion ariannol. Caiff eich rhodd Cymorth Rhodd ei thrin fel petai treth incwm ar y gyfradd sylfaenol eisoes wedi cael ei didynnu o'r rhodd. Yna gall elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol adhawlio’r dreth honno gan Gyllid a Thollau EM.

I wneud cyfraniad drwy Gymorth Rhodd, rhaid eich bod yn talu o leiaf gymaint o Dreth Incwm (a/neu Dreth Enillion Cyfalaf) â’r dreth y bydd yr elusen neu'r Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol yn ei hawlio’n ôl. Ar hyn o bryd, mae hyn yn 25 ceiniog am bob punt a roddwch.

Ugain y cant yw'r dreth ar y gyfradd sylfaenol, felly os byddwch yn rhoi £10 drwy ddefnyddio Cymorth Rhodd, mae hynny’n golygu bod y rhodd werth £12.50 i'r elusen. Ar gyfer rhoddion a wneir rhwng 6 Ebrill 2008 a 5 Ebrill 2011, bydd yr elusen neu'r Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol hefyd yn cael tair ceiniog ychwanegol gan y llywodraeth am bob punt a roddwch.

Os byddwch yn gwneud llawer o roddion drwy Gymorth Rhodd, rhaid eich bod yn talu digon o dreth yn y DU ar gyfanswm y rhoddion hynny.

Os nad ydych yn talu digon o dreth, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu'r gwahaniaeth i Gyllid a Thollau EM.

Gostyngiad i drethdalwyr ar y gyfradd uwch

Os ydych chi’n talu treth ar y gyfradd uwch ac yn gwneud cyfraniad drwy Gymorth Rhodd, gallwch hawlio rhywfaint o dreth yn ôl.

Rhoi i elusen drwy'ch cyflog neu’ch pensiwn

Drwy’r cynllun Rhoi drwy’r Gyflogres, gallwch roi arian i elusen yn uniongyrchol o'ch cyflog neu’ch pensiwn personol/cwmni.

Bydd hyn yn costio llai i chi gan y caiff eich rhodd i’r elusen ei rhoi yn uniongyrchol o'ch cyflog gros cyn y didynnir treth – felly nid ydych yn talu treth ar y rhodd.

Gallwch roi rhodd i gynifer o elusennau ag y dymunwch, a gallwch ddileu eich cytundeb Rhoi drwy’r Gyflogres ar unrhyw adeg.

Rhoi asedau i elusen

Gostyngiad Treth Incwm

Treth ar eich incwm yw Treth Incwm. Mae’ch incwm yn cynnwys eich enillion o’ch cyflogaeth, eich pensiwn, eich llog ar gynilion, eich incwm rhent neu eich incwm o ymddiriedolaeth.

Gallwch hawlio gostyngiad Treth Incwm a lleihau’ch bil treth drwy wneud y canlynol:

  • rhoi tir neu adeiladau yn y DU neu gyfranddaliadau cymwys i elusen
  • gwerthu’r rhain i elusen am bris sy’n llai na'u gwerth ar y farchnad

Mae cyfranddaliadau cymwys yn cynnwys y rheini a restrir ar unrhyw gyfnewidfa stoc.

Os ydych yn rhoi tir, adeiladau neu gyfranddaliadau i Glwb Chwaraeon Amatur Cymunedol, ni allwch gael gostyngiad Treth Incwm.

Gostyngiad Treth Enillion Cyfalaf

Ystyr Treth Enillion Cyfalaf yw treth ar yr enillion neu’r elw a wnewch wrth werthu rhywbeth rydych yn berchen arno neu wrth ei roi yn rhodd. Cewch ostyngiad Treth Enillion Cyfalaf pan fyddwch:

  • yn rhoi unrhyw ased i elusen neu i Glwb Chwaraeon Amatur Cymunedol
  • yn gwerthu unrhyw ased i elusen neu i Glwb Chwaraeon Amatur Cymunedol am bris sy’n llai na’i gwerth ar y farchnad

Gadael rhoddion yn eich ewyllys i elusen neu i Glwb Chwaraeon Amatur Cymunedol

Os byddwch yn gadael rhodd i elusen neu i Glwb Chwaraeon Amatur Cymunedol yn eich ewyllys, ni fydd gwerth y rhodd yn cael ei gynnwys wrth brisio’ch ystad (eich arian, eich meddiannau a'ch eiddo) at ddibenion y Dreth Etifeddu. Pan fydd rhywun yn marw, gan amlaf bydd yn rhaid talu Treth Etifeddu ar yr ystad.

Bydd rhoddion a roddoch yn ystod y saith blynedd cyn i chi farw wedi'u heithrio rhag y Dreth Etifeddu.

Cadw cofnod o’ch rhoddion i elusen

Rhaid i chi gadw cofnod o’ch rhoddion i elusen er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn hawlio’r swm priodol o ostyngiad treth ac yn talu'r swm treth cywir.

Ar gyfer pob blwyddyn dreth, dylech gadw’r cofnodion canlynol:

  • manylion y rhoddion Cymorth Rhodd gan nodi’r dyddiad, y swm, a’r elusennau neu’r Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol perthnasol
  • dogfennau cyfreithiol sy’n dangos manylion gwerthu neu drosglwyddo’r asedau i elusen – gan gynnwys tystysgrifau neu ddogfennau trosglwyddo cyfranddaliadau, neu ddogfennau trosglwyddo tir
  • unrhyw ddogfennau gan elusen yn gofyn i chi werthu tir neu eiddo ar ei rhan

Cysylltu â Llinell Gymorth Elusennau Cyllid a Thollau EM

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Elusennau.

Additional links

Archwiliad iechyd ariannol

Cymryd 5-10 munud ar archwiliad iechyd ariannol sy’n rhad ac am ddim a chyfrinachol

Allweddumynediad llywodraeth y DU