Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gostyngiad treth pan fyddwch yn rhoi asedau i elusennau

Os byddwch chi'n rhoi asedau penodol i elusen yn y DU, gallwch hawlio gostyngiad ar eich Treth Incwm a lleihau eich bil treth. Gallwch hefyd hawlio gostyngiad os byddwch chi'n gwerthu'r ased i elusen yn y DU am lai na'i werth ar y farchnad.

Asedau y gallwch gael gostyngiad Treth Incwm arnynt

Gallwch hawlio gostyngiad Treth Incwm os byddwch yn rhoi ased i elusen yn y DU neu'n ei werthu i elusen yn y DU am bris llai na'i werth ar y farchnad. Dyma'r asedau y cewch hawlio gostyngiad arnynt:

  • cyfranddaliadau a gwarannau a restrir neu y delir â hwy ar gyfnewidfa stoc y DU neu ar un arall a gydnabyddir
  • unedau mewn Ymddiriedolaethau Buddsoddi drwy Unedau Awdurdodedig
  • cyfranddaliadau mewn Cwmni Buddsoddi Penagored yn y DU
  • daliadau mewn rhai cynlluniau buddsoddi cyfunol tramor - yn gyffredinol, cynlluniau wedi'u sefydlu oddi allan i'r DU sy'n debyg i Ymddiriedolaethau Buddsoddi drwy Unedau Awdurdodedig a Chwmnïau Buddsoddi Penagored
  • tir ac eiddo yn y DU

Os oes angen cymorth arnoch i benderfynu a gewch hawlio gostyngiad ar ased ai peidio, ffoniwch Gyllid a Thollau EM ar 0845 302 0203. Mae llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 5.00 pm. Neu gallwch ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM yn:

HM Revenue & Customs Charities / Elusennau Cyllid a Thollau EM
St John's House
Merton Road
Liverpool
L75 1BB

Rhoi ased i elusen yn y DU

Yn gyntaf, mae angen i chi gysylltu â'r elusen o'ch dewis i wneud yn siŵr y gall dderbyn eich rhodd.

Os ydych am roi cyfranddaliadau mae angen i chi lofnodi ffurflen drosglwyddo:

  • i dynnu'r cyfranddaliadau o'ch enw chi
  • i'w rhoi yn enw'r elusen

Os ydych am roi tir neu eiddo rhaid i chi drosglwyddo'ch holl fudd yn y tir neu'r eiddo hwnnw i'r elusen. Golyga hyn na allwch roi eich eiddo i elusen a pharhau i fyw ynddo. Os oes mwy nag un person yn berchen ar yr eiddo, ffoniwch Gyllid a Thollau EM ar 0845 302 0203 i gael arweiniad ar sut y rhoddir gostyngiad ar y Dreth Incwm.

Cyfrifo'r gostyngiad Treth Incwm y gallwch ei hawlio

Bydd y ffordd yr ydych yn cyfrifo gostyngiad Treth Incwm yn amrywio gan ddibynnu ar a ydych yn rhoi ased i elusen ynteu'n ei werthu i elusen am bris llai na'i werth ar y farchnad.

Gostyngiad treth ar rodd

I gyfrifo faint o ostyngiad Treth Incwm gewch chi am roi rhodd i elusen, adiwch werth marchnad yr ased yr ydych yn ei roi ac unrhyw gostau megis ffioedd cyfreithiol. Yna tynnwch unrhyw arian neu fuddion eraill y byddwch chi (neu unrhyw un sy'n gysylltiedig â chi) yn eu cael am roi'r ased i'r elusen.

Gostyngiad treth ar eitemau a werthir am bris llai na'u gwerth ar y farchnad

I gyfrifo faint o ostyngiad Treth Incwm gewch chi am werthu ased i elusen am bris llai na'i werth ar y farchnad, cyfrifwch werth marchnad yr ased yr ydych yn ei werthu ac unrhyw gostau megis ffioedd cyfreithiol. Yna tynnwch y swm a gewch am werthu'r ased. Ar ôl hynny tynnwch unrhyw arian neu fuddion eraill y byddwch chi (neu unrhyw un sy'n gysylltiedig â chi) yn eu cael am werthu'r ased i'r elusen.

Yn y ddau achos gallwch gael gostyngiad ar eich Treth Incwm drwy dynnu'r hyn sy'n weddill o gyfanswm eich incwm ar gyfer pa flwyddyn dreth bynnag y byddwch yn rhoi'r rhodd. Mae blwyddyn dreth yn mynd o 6 Ebrill un flwyddyn i 5 Ebrill y flwyddyn wedyn. Chewch chi ddim trosglwyddo'r gostyngiad i flwyddyn dreth arall - boed honno'n flwyddyn a fu neu'n flwyddyn yn y dyfodol.

Gwerth y farchnad

Gwerth y farchnad yw'r pris y gellir yn rhesymol ddisgwyl ei gael am ased petai'n cael ei werthu mewn marchnad agored. Gall y rheolau fod yn wahanol os oes rhaid i'r elusen wneud rhywbeth er mwyn cael yr ased.

Os ydych chi'n rhoi neu'n gwerthu tir neu eiddo, fel arfer, dylech ei brisio yn ôl y dyddiad y byddwch yn ei drosglwyddo i'r elusen. Mae'n debyg y bydd angen i chi dalu cynghorydd proffesiynol i gyfrifo'u gwerth ar y farchnad. Gallwch ychwanegu'r costau hyn at eu gwerth ar y farchnad pan fyddwch yn cyfrifo'r gostyngiad treth.

Ceir gwahanol reolau ar gyfer cyfrifo gwerth marchnad cyfranddaliadau a gwarannau neu fuddsoddiadau eraill. Ceir hefyd gwahanol reolau ar gyfer cyfrifo’r gostyngiad os bydd rhaid i’r elusen wneud rhywbeth yn gyfnewid am dderbyn yr ased, neu os cafwyd yr ased ar gyfer ei roi i elusen.

Gostyngiad Treth Incwm - enghraifft

  • rydych yn berchen ar ail eiddo ac yn penderfynu eich bod am ei roi i elusen yn y DU
  • mae gwerthwr tai cymwys yn nodi bod gwerth yr eiddo yn £90,000 ac mae'n codi £400 am ei brisio
  • mae'r elusen yn ddiolchgar ac yn rhoi llun gwerth £1,000 i chi

I gyfrifo faint gewch chi ei ddidynnu o'ch incwm, rydych yn adio gwerth yr eiddo a chyfanswm y ffioedd. Yna, rydych yn tynnu gwerth y llun:

Gwerth yr eiddo £90,000
Adio ffioedd prisio £400
Tynnu gwerth y llun £1,000
Cyfanswm a dynnir £89,400

Felly gallwch gael gostyngiad ar eich Treth Incwm drwy dynnu £89,400 o gyfanswm eich incwm trethadwy ar gyfer y flwyddyn dreth pan wnaethoch chi roi'r rhodd.

Sut mae hawlio gostyngiad treth

Dim ond ar gyfer y flwyddyn dreth pan fyddwch yn rhoi'r rhodd y cewch hawlio gostyngiad ar eich Treth Incwm.

Os byddwch yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesu gallwch wneud eich hawliad ar y ffurflen. Gallwch hefyd ofyn i Gyllid a Thollau EM leihau eich taliadau Hunanasesu. Os yw'ch rhodd yn golygu y cewch ad-daliad treth, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM anfon y cyfan neu ran ohono'n uniongyrchol i elusen.

Os byddwch yn talu treth drwy'r system Talu Wrth Ennill gallwch ysgrifennu i'ch Swyddfa Dreth gan roi manylion:

  • eich rhodd neu'r hyn yr ydych wedi'i werthu i elusen
  • faint o ostyngiad treth yr hoffech ei hawlio

Yna, bydd Cyllid a Thollau EM yn newid eich cod treth ar gyfer y flwyddyn gyfredol neu'n rhoi ad-daliad i chi am flwyddyn a fu.

Pa gofnodion y mae angen i mi eu cadw?

Mae angen i chi gadw'r cofnodion canlynol:

  • dogfennau trosglwyddo cyfranddaliadau
  • tystysgrif gan yr elusen sy'n cadarnhau bod tir neu eiddo wedi cael ei drosglwyddo iddi
  • unrhyw gais gan elusen i werthu tir, eiddo neu gyfranddaliadau ar ei rhan

Bydd angen y dogfennau hyn arnoch i gefnogi eich cais am ostyngiad ar eich Treth Incwm.

Manteision eraill o roi asedau i elusen

Mae manteision eraill o roi asedau i elusen yn cynnwys:

  • at ddibenion Treth Enillion Cyfalaf, ni fyddwch wedi ennill nac wedi gwneud colled ar unrhyw asedau a roddir i elusen - nid yr asedau hynny sy'n gymwys ar gyfer gostyngiad Treth Incwm yn unig
  • mae gostyngiad Treth Incwm ar gael ar y gyfradd dreth uchaf a gewch chi
  • caiff pob rhodd lawn a roddir i elusennau yn y DU eu heithrio rhag dibenion y Dreth Etifeddu
  • does dim rhaid i elusennau yn y DU dalu treth stamp ar roddion llawn sy'n cynnwys eiddo neu gyfranddaliadau

Ffyrdd eraill treth-effeithlon o roi i elusen

Ceir dulliau eraill treth-effeithlon o roi i elusen, er enghraifft:

  • Cymorth Rhodd
  • Rhoi drwy'r Gyflogres drwy eich cyflog neu'ch pensiwn

Os byddwch yn hawlio gostyngiad Treth Incwm ar asedau yr ydych wedi'u rhoi i elusen, efallai na chewch roi cymaint drwy Gymorth Rhodd oherwydd bod cyfanswm y dreth yr ydych wedi'i thalu am y flwyddyn yn cael ei leihau. Neu efallai na allwch ddefnyddio Cymorth Rhodd o gwbl os yw'ch treth i gyd wedi'i had-dalu ar gyfer y flwyddyn honno.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, efallai y bydd yn fwy cost-effeithlon i chi werthu ased a rhoi Cymorth Rhodd o'r arian a gewch yn hytrach na rhoi'r ased ei hun i elusen.

Additional links

Archwiliad iechyd ariannol

Cymryd 5-10 munud ar archwiliad iechyd ariannol sy’n rhad ac am ddim a chyfrinachol

Allweddumynediad llywodraeth y DU