Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cymorth Rhodd - gwybodaeth i elusennau

Mae Cymorth Rhodd yn ffordd hawdd i elusennau neu Glybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol gynyddu gwerth rhoddion ariannol gan drethdalwyr yn y DU. Gwneir hyn drwy adhawlio'r dreth ar y gyfradd sylfaenol a dalwyd gan y rhoddwr.

Sut mae Cymorth Rhodd yn gweithio

Ers iddo gael ei gyflwyno, mae Cymorth Rhodd wedi tyfu nes ei fod erbyn hyn werth bron i £1 biliwn y flwyddyn i elusennau'r DU a'u rhoddwyr.

Pan fydd unigolyn, masnachwr unigol neu bartneriaeth yn rhoi arian i'ch elusen neu i'ch Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol, gallwch gymryd eu rhodd – sef arian y maent wedi talu treth arno'n barod – ac adhawlio treth ar y gyfradd sylfaenol gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar y swm 'gros' sy'n cyfateb iddo – y swm cyn tynnu treth ar y gyfradd sylfaenol.

Os yw'r rhoddwr yn talu treth ar y gyfradd uwch, gall y rhoddwr hefyd gael budd o'r gostyngiad treth oherwydd y gall adhawlio'r gwahaniaeth rhwng y dreth ar y gyfradd uwch, sef 40 neu 50 y cant, a'r dreth ar y gyfradd sylfaenol, sef 20 y cant, ar gyfanswm eu rhodd gros.

Gwneud cais am ad-daliad Cymorth Rhodd

Ar ôl i Gyllid a Thollau EM gydnabod eich elusen neu'ch Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol, gallwch adhawlio treth ar y gyfradd sylfaenol ar eich rhoddion Cymorth Rhodd - mae hyn yn 20 y cant o 6 Ebrill 2008 ymlaen. Gallwch gyfrifo faint o dreth y cewch ei adhawlio drwy rannu swm y rhodd â phedwar. Mae hyn yn golygu y gallwch hawlio 25 ceiniog ychwanegol am bob £1 a roddir.

Yn ogystal â hyn, bydd Cyllid a Thollau EM yn awtomatig yn talu tair ceiniog ychwanegol i'ch elusen neu'ch Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol am bob punt a roddir. Mae'r 'gostyngiad trosiannol' hwn - i addasu i'r gwymp yn y dreth ar y gyfradd sylfaenol (o 22 y cant i 20 y cant) - ar gael o 6 Ebrill 2008 tan 5 Ebrill 2011.

Mae hyn yn golygu y caiff eich elusen neu'ch Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol 28 ceiniog am bob £1 a roddir, felly bydd gwerth y rhodd yn y pen draw yn £1.28.

Gallwch wneud eich cais drwy lenwi ffurflen Cymorth Rhodd R68 ac atodlen Cymorth Rhodd R68.

Rheolau Cymorth Rhodd mewn sefyllfaoedd penodol

Ceir rheolau arbennig ar gyfer hawlio Cymorth Rhodd mewn rhai sefyllfaoedd lle delir â rhoddion heblaw rhoddion syml o arian parod. Gallwch ddysgu mwy am Gymorth Rhodd yng nghyd-destun arwerthiannau elusennol, tanysgrifiadau aelodaeth, mynediad i weld eiddo elusen, gwerthu nwyddau ar ran cefnogwyr, a sefyllfaoedd penodol eraill.

Cadw cofnodion

Rhaid i'ch elusen neu'ch Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol gadw cofnod y gellir ei archwilio o'r canlynol:

  • pob datganiad Cymorth Rhodd, ynghyd â chadarnhad eich bod wedi rhoi gwybod i'r rhoddwr ei bod yn rhaid iddo fod yn talu o leiaf cymaint o dreth y DU (ar gyfer y flwyddyn dreth y maent yn rhoi ynddi) â'r swm y bydd yr elusen neu'r Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol yn ei adhawlio ar y rhodd
  • unrhyw ddatganiadau Cymorth Rhodd a ganslwyd
  • unrhyw fuddion a ddarparwch i roddwyr

Y diweddaraf am ddigwyddiadau a newyddion elusennau

Cofrestrwch ar gyfer y cyfleuster porthiant newyddion RSS newydd gan Elusennau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am faterion cyfredol sy'n effeithio ar elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol.

Cyfleoedd hyfforddi i elusennau llai

Mae gan y Sefydliad Codi Arian Raglen Hyfforddiant i Elusennau Bach. Gall y gweithdai rhad roi awgrymiadau a syniadau i'ch elusen ar sut i godi mwy o arian drwy ddefnyddio treth yn fwy effeithiol.

Cymorth Rhodd i bobl sy'n codi arian yn y gymuned

Os nad ydych chi'n elusen, ond bod gennych ddibenion elusennol - os ydych yn grŵp gwirfoddol neu gymunedol lleol, er enghraifft - efallai y bydd modd i chi hawlio Cymorth Rhodd pan fydd rhoddion gan gefnogwyr yn cael eu gwneud drwy elusen gofrestredig.

Additional links

Archwiliad iechyd ariannol

Cymryd 5-10 munud ar archwiliad iechyd ariannol sy’n rhad ac am ddim a chyfrinachol

Allweddumynediad llywodraeth y DU