Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch yn gadael rhodd i elusen neu i Glwb Chwaraeon Amatur Cymunedol yn eich ewyllys, bydd gwerth y rhodd yn cael ei dynnu o'ch ystad (eich arian, eich meddiannau a'ch eiddo) cyn y cyfrifir Treth Etifeddu. Mae’n bosib y bydd rhoddion y byddwch yn eu gwneud cyn marw hefyd yn gymwys i gael eu heithrio.
Os oes angen talu Treth Etifeddu ar eich ystad, gallech leihau'r swm sy'n ddyledus drwy ddewis rhoi arian i elusen.
Gallwch naill ai adael swm penodol (a elwir yn ‘Gymynrodd Ariannol’), neu adael rhan o’ch ystad neu’ch ystad gyfan ar ôl i’r rhoddion eraill gael eu dosbarthu (a elwir yn ‘Rhodd Weddilliol’).
Gallwch wneud hyn drwy’ch ewyllys, neu drwy ddatganiad i’r ysgutorion neu’r cynrychiolwyr personol, gan roi cyfarwyddiadau ynghylch sut rydych yn dymuno i'ch cymynrodd gael ei dosbarthu. Os ydych yn gadael arian i elusen, nodwch yn glir i ba elusen rydych am roi'ch rhodd (a nodi cangen leol os oes angen).
Mae rhoddion y byddwch yn eu gwneud i elusen neu i Glwb Chwaraeon Amatur Cymunedol yn y saith mlynedd cyn i chi farw wedi'u heithrio rhag y Dreth Etifeddu.
Gall sefydliadau megis Cyngor Ar Bopeth ac Age UK roi cyngor annibynnol am ddim i chi ynghylch gwneud ewyllys.
Gallwch hefyd ysgrifennu’ch ewyllys eich hun ar ffurflen barod sydd ar gael mewn siopau deunydd ysgrifennu.
Mae’n syniad da i chi ddefnyddio twrnai neu ofyn i dwrnai edrych ar ewyllys rydych wedi’i hysgrifennu er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn ddilys ac y caiff eich dymuniadau eu gwireddu.
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Elusennau.