Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn talu treth drwy’r system Talu Wrth Ennill (PAYE), mae Rhoi drwy’r Gyflogres yn cynnig ffordd syml o leihau’r gost o roi cyfraniad rheolaidd i elusennau yn y DU. Os mae gan eich cyflogwr neu ddarparwr pensiwn cwmni/personol Gynllun Rhoi drwy’r Gyflogres, rydych yn eu hawdurdodi nhw i roi’r cyfraniad o’ch cyflog neu’ch pensiwn cyn didynnu treth.
Mae Rhoi drwy'r Gyflogres yn eich galluogi chi i roi cyfraniadau i elusen yn syth o'ch cyflog neu’ch pensiwn personol/cwmni. Gwneir y cyfraniadau ar ôl i’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol gael ei gyfrifo ond cyn cyfrifo a didynnu’r Dreth Incwm. O ganlyniad, dim ond ar yr hyn sydd ar ôl y byddwch chi'n talu treth.
Mae hyn yn golygu eich bod yn cael gostyngiad treth ar eich cyfraniad yn syth, a hynny ar eich cyfradd dreth uchaf.
Enghraifft – y gyfradd dreth sylfaenol a Rhoi drwy’r Gyflogres
Rydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol o 20 y cant, ac yn awdurdodi cyfraniad misol o £10. Mae hynny’n golygu y byddwch yn arbed £2 o dreth (20 y cant o £10). Gwir gost y cyfraniad i chi yw £8.
Enghraifft – y gyfradd dreth uwch a Rhoi drwy’r Gyflogres
Rydych yn talu treth ar y gyfradd uwch o 40 y cant, ac yn awdurdodi cyfaniad misol o £10. Mae hynny’n golygu y byddwch yn arbed £4 (40 y cant o £10). Gwir gost y cyfraniad i chi yw £6.
Gallwch Roi drwy'r Gyflogres os yw’r ddau amod canlynol yn berthnasol:
Hefyd, mae angen i’ch cyflogwr neu ddarparwr pensiwn weithredu Cynllun Rhoi drwy’r Gyflogres. Os nad ydynt yn, gallech ofyn iddynt ystyried gwneud hynny. Gallant gael gwybod mwy ynghylch Rhoi drwy’r Gyflogres a manylion cyswllt am Asiantaethau Rhoi drwy ddilyn y ddolen ar ddiwedd yr adran hon.
Neu gallant ffonio’r llinell gymorth Elusennau Cyllid a Thollau EM a dewis opsiwn 6 ar gyfer Rhoi drwy’r Gyflogres.
Gallwch wneud cyfraniad drwy awdurdodi eich cyflogwr neu’r sawl sy’n talu’ch pensiwn i ddidynnu swm penodol o’ch cyflog neu’ch incwm pensiwn.
Bydd eich cyflogwr neu’r sawl sy’n talu’ch pensiwn yn trosglwyddo'ch cyfraniad i asiantaeth Rhoi drwy'r Gyflogres a gymeradwyir gan y llywodraeth, a fydd wedyn yn trosglwyddo'r arian i'r elusen o'ch dewis. Nid oes rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr neu’r sawl sy'n talu'ch pensiwn pa elusennau rydych chi'n eu cefnogi. Yn hytrach, gallwch lenwi ffurflen syml ar gyfer yr asiantaeth Rhoi drwy'r Gyflogres er mwyn dweud wrthynt i ble y dylent anfon eich cyfraniadau. Gallwch roi’n anhysbys - nid oes rhaid i’r elusen o’ch dewis gwybod eich manylion.
Gall rhai asiantaethau Rhoi drwy’r Gyflogres roi cerdyn elusen neu lyfr siec elusen i chi er mwyn i chi allu gwneud cyfraniadau uniongyrchol i unrhyw elusen pryd bynnag y dymunwch.
Ar ôl i gyfraniad gael ei ddidynnu o’ch cyflog neu’ch pensiwn, nid yw'n bosib cael ad-daliad. Mae’n bosib y bydd rhai asiantaethau yn codi ffi fechan, a ddidynnir o'ch cyfraniad, i dalu am gostau gweinyddol.
Nid yw Rhoi drwy'r Gyflogres yn effeithio ar unrhyw gyfraniadau eraill yr ydych am eu gwneud i elusen. Er enghraifft, gallwch roi cyfraniadau eraill drwy ddefnyddio Cymorth Rhodd os ydych chi’n talu o leiaf gymaint o dreth â’r swm y bydd yr elusen yn ei derbyn mewn ad-daliadau treth Cymorth Rhodd.
Am ragor o wybodaeth gallwch gysylltu â’r Llinell gymorth Elusennau.