Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych am hawlio gostyngiad treth ar roddion i elusen, bydd angen i chi gadw cofnod o’ch rhoddion. Bydd hyn yn helpu i wneud yn siŵr eich bod yn hawlio’r swm priodol o ostyngiad treth ac yn talu'r swm treth cywir.
Mae angen i chi gadw cofnodion er mwyn i chi allu hawlio’r swm priodol o ostyngiad treth ar eich rhoddion i elusen. Er enghraifft, gallwch gael gostyngiad treth ar roddion tir neu gyfranddaliadau a roddir i elusen, neu rai rhoddion Cymorth Rhodd.
Bydd angen i chi hefyd gadw cofnod o'ch rhoddion Cymorth Rhodd os byddwch yn gwneud cais am fudd-daliadau sy'n seiliedig ar incwm (megis credydau treth), neu os ydych yn cael Lwfans Person Dall, Lwfans Pâr Priod neu Lwfans Personol ar sail oedran.
Dylech gadw cofnod o’ch rhoddion Cymorth Rhodd bob blwyddyn gan nodi'r dyddiad, y swm a'r elusennau neu'r Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol perthnasol.
Os ydych chi’n talu treth ar y gyfradd uwch, gallwch adhawlio rhywfaint o’r dreth yn seiliedig ar werth eich rhodd Cymorth Rhodd.
Os ydych chi'n cael lwfansau sy'n seiliedig ar oedran neu'n hawlio credydau treth efallai y bydd eich hawl yn cynyddu, oherwydd bydd Cyllid a Thollau EM yn didynnu’r swm a roddwch yn ogystal â'r gyfradd dreth sylfaenol o gyfanswm eich incwm. Yna bydd Cyllid a Thollau EM yn defnyddio'r ffigur incwm newydd hwn i gyfrifo gwerth eich hawl i gredydau treth neu lwfansau.
Yn unrhyw un o'r achosion uchod, mae'n bosib y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth o'ch rhoddion.
Gallwch hawlio gostyngiad Treth Incwm sy’n gyfystyr â gwerth net (gwerth ar ôl yr holl ddidyniadau treth) y tir, yr adeiladau neu’r cyfranddaliadau y byddwch yn eu rhoi i elusen, neu’n eu gwerthu i elusen am bris sy’n is na’u gwerth ar y farchnad.
Dylech gadw cofnod o’r rhoddion neu’r gwerthiannau hyn er mwyn i chi allu hawlio’r swm priodol o ostyngiad treth.
Cewch ostyngiad Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn dreth pan wnaed y rhodd neu’r gwerthiant.
Os bydd yr elusen yn gofyn i chi werthu'r tir neu’r cyfranddaliadau ar eu rhan, mae’n dal yn bosib i chi hawlio’r gostyngiad hwn cyn belled â'ch bod yn cadw cofnodion priodol o'r rhodd a chais yr elusen.
Er enghraifft, cadwch unrhyw ohebiaeth lle bydd yr elusen yn derbyn eich rhodd ond yn gofyn i chi werthu'r ased ar eu rhan a throsglwyddo'r elw iddynt.
Cadwch waith papur a dogfennau trosglwyddo sy'n dangos eich bod wedi talu'r elw i'r elusen.
I gael manylion am sut mae hawlio gostyngiad treth, gweler yr adran isod ynghylch ‘Rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am eich rhoddion i elusen’.
Os ydych eisoes wedi gwneud rhodd o dir neu adeilad, gallwch ofyn am gadarnhad gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio o’r gwerth ar y dyddiad trosglwyddo.
Os bydd elusen yn gwerthu nwyddau ar eich rhan a chithau’n rhoi'r enillion i'r elusen, gallwch hawlio Cymorth Rhodd ar eich rhodd.
Gan amlaf, bydd yr elusen yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych faint o enillion a gafwyd wrth werthu’ch nwyddau.
Er enghraifft, rhaid i siop elusen gysylltu â chi ar ôl gwerthu’r nwyddau er mwyn cynnig i chi gadw’r enillion i gyd. Dylech gadw’r gwaith papur hwn.
Os byddwch yn gwneud elw wrth werthu’r nwyddau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf. Ystyr Treth Enillion Cyfalaf yw treth ar yr enillion neu’r elw a gewch wrth werthu rhywbeth rydych yn berchen arno, megis eiddo, neu wrth ei roi yn rhodd. Bydd angen i chi gadw cofnodion er mwyn gallu datgan yr enillion cyfalaf.
Os byddwch yn rhoi’r nwyddau’n uniongyrchol i elusen yn hytrach na gofyn i’r elusen eu gwerthu ar eich rhan, ni fydd rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf. Fodd bynnag, ni fyddwch yn gallu hawlio Cymorth Rhodd ar werthiant y nwyddau.
Does dim angen i chi roi manylion rhoddion a wneir drwy'r cynllun Rhoi drwy'r Gyflogres ar eich ffurflen dreth Hunanasesu nac ar eich cais am gredydau treth.
Ni fydd y ffigur ar gyfer enillion/pensiwn trethadwy (ar eich ffurflen P60), a ddefnyddir i gyfrifo eich treth neu’ch credydau treth, yn cynnwys yr incwm a ddefnyddiwyd i wneud y taliadau hyn.
Ond dylech gadw cofnodion er gwybodaeth i chi'ch hun.
Os ydych yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesu gan amlaf, rhowch wybod i Gyllid a Thollau EM am eich rhoddion i elusen – a hawlio unrhyw ostyngiad treth – drwy lenwi'r adran briodol ar eich ffurflen dreth.
Os nad ydych yn llenwi ffurflen dreth, gallwch roi’r manylion ar ffurflen Adolygu Treth P810, sydd ar gael gan eich Swyddfa Dreth.
Os ydych yn talu treth drwy’r cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE), cysylltwch â’ch Swyddfa Dreth a gofyn iddynt newid eich cod treth.
Os nad ydych yn rhedeg busnes, fel arfer, bydd yn rhaid i chi gadw'ch cofnodion treth am o leiaf 22 mis o ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi.
Er enghraifft, os gwnaethoch roi eiddo i elusen ym mis Medi 2008, bydd yn rhaid i chi gadw unrhyw gofnodion perthnasol tan o leiaf 31 Ionawr 2011.
Os ydych yn rhedeg busnes (fel partneriaeth neu fasnachwr unigol) bydd yn rhaid i chi gadw'ch cofnodion treth am o leiaf bum mlynedd a naw mis o ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi.
Er enghraifft, os gwnaed rhodd drwy Gymorth Rhodd ym mis Hydref 2008, bydd yn rhaid i chi gadw'ch cofnodion tan o leiaf 30 Ebrill 2014.
Os bydd Cyllid a Thollau EM yn gwneud unrhyw ymholiadau am eich ffurflen dreth, bydd angen i chi gadw'ch cofnodion treth nes daw’r ymholiadau i ben.
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Elusennau.