Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Llenwi ffurflen IHT100 Cyfrif Treth Etifeddu

Bydd angen i chi lenwi ffurflen IHT100 Cyfrif Treth Etifeddu os oes Treth Etifeddu yn ddyledus ar asedau a drosglwyddir i ymddiriedolaeth neu o ymddiriedolaeth. Bydd hefyd angen ei llenwi bob tro y bydd deg mlynedd arall wedi mynd heibio ers sefydlu’r ymddiriedolaeth os yw gwerth yr asedau’n uwch na throthwy’r Dreth Etifeddu.

Pryd i ddefnyddio'r ffurflen IHT100 ar gyfer ymddiriedolaethau

Efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen IHT100

  • os bydd asedau yn cael eu trosglwyddo i ymddiriedolaeth
  • os bydd rhywun sydd wedi trosglwyddo asedau i ymddiriedolaeth yn marw o fewn saith mlynedd i wneud y trosglwyddiad
  • os bydd ‘buddiant mewn meddiant’ – pan all buddiolwr ddefnyddio neu gael budd o ased mewn ymddiriedolaeth fel petai’n ased iddo ef – yn dod i ben
  • os bydd ymddiriedolwyr yn cael gwared ar asedau neu’n eu trosglwyddo o'r ymddiriedolaeth
  • os bydd deg mlynedd arall wedi mynd heibio ers sefydlu'r ymddiriedolaeth a’i bod yn rhaid gwneud taliad deg mlynedd
  • os na fydd gan ymddiriedolaeth arbennig – er enghraifft, ymddiriedolaeth elusennol – hawl i gael manteision treth arbennig mwyach

Gelwir y rhain yn ‘ddigwyddiadau trethadwy yn ystod bywyd’. Gellir gweld disgrifiad o bob digwyddiad yn ogystal ag eithriadau i’r rheolau hyn ar dudalen 6 y canllawiau ar gyfer ffurflen IHT100.

Does dim rhaid i rai ymddiriedolaethau gyflwyno ffurflen IHT100. Ymddiriedolaeth â gwerth isel yw’r rhain gan amlaf.

Nid oes angen llenwi ffurflen IHT100 ar gyfer digwyddiad sy’n bodloni darpariaethau’r rheoliadau trosglwyddiadau a setliadau.

Cam un – gwneud yn siŵr bod y tudalennau cywir gennych

Yn ychwanegol at y brif ffurflen IHT100, bydd angen i chi lenwi ‘ffurflen ddigwyddiadau’ ar wahân ar gyfer pob digwyddiad unigol trethadwy rydych yn rhoi gwybod amdano. Ceir saith ffurflen ddigwyddiadau:

  • IHT100a - Gifts and other transfers of value
  • IHT100b - Ending an interest in possession in settled property
  • IHT100c - Assets in a relevant property trust ceasing to be relevant property
  • IHT100d - Discretionary trust ten-year anniversary
  • IHT100e - Assets ceasing to be held on special trusts
  • IHT100f - Cessation of conditional exemption and disposal of trees and underwood
  • IHT100g - Alternatively secured pension chargeable event

Efallai y bydd angen i chi lenwi tudalennau atodol (ychwanegol) hefyd ar gyfer rhai mathau o asedau yn yr ymddiriedolaeth, neu os yw'r sawl sy'n trosglwyddo ased i ymddiriedolaeth yn byw dramor.

Gallwch lwytho ffurflen IHT100, y ffurflenni digwyddiadau, tudalennau atodol, canllawiau a thaflenni gwaith i'ch helpu gyda'r cyfrifiadau Treth Etifeddu.

Cam dau – llenwi'r ffurflen

Mae ffurflen IHT100 wedi’i rhannu yn naw adran:

  • Adran A – mae’r adran hon yn rhoi sylw i’r math o ddigwyddiad trethadwy rydych yn rhoi gwybod amdano. Mae hefyd yn eich annog i lenwi ffurflen ddigwyddiadau ar gyfer pob digwyddiad rydych yn rhoi gwybod amdano
  • Adran B – mae'r adran hon yn cynnwys manylion yr ymddiriedolaeth – er enghraifft, gwybodaeth am y sawl a drosglwyddodd yr asedau i'r ymddiriedolaeth a chyfeirnod treth yr ymddiriedolaeth
  • Adran C – mae’r adran hon yn cynnwys manylion cyswllt y prif ymddiriedolwr sy’n delio â materion treth yr ymddiriedolaeth, neu gynrychiolydd proffesiynol yr ymddiriedolaeth
  • Adrannau D, E, F – mae'r adrannau hyn yn cynnwys gwybodaeth am yr asedau eu hunain a byddant yn eich annog i lenwi'r tudalennau atodol perthnasol sy'n benodol i'r ased pan fo angen
  • Adrannau G, H – mae’r adrannau hyn yn ymdrin â'r cyfrifiadau Treth Etifeddu. Gallwch ddewis gwneud y cyfrifiadau eich hun neu ofyn i Gyllid a Thollau EM wneud hynny ar eich rhan (gweler yr adran isod)
  • Adran J – mae’r adran hon yn cynnwys manylion cyswllt y rheini a fydd yn cael taliad os telir gormod o Dreth Etifeddu
  • Adran K – dyma'r adran lle byddwch yn llofnodi ac yn datgan bod yr wybodaeth a roddoch yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf eich gwybodaeth

Cam tri – cyfrifo’r dreth

Gallwch naill ai wneud hyn eich hun yn adrannau G a H ffurflen IHT100, neu gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM wneud hynny i chi. Os hoffech i Gyllid a Thollau EM wneud y cyfrifiad, gadewch adrannau G a H yn wag a mynd yn syth i adran J.

Os byddwch yn dewis gwneud y cyfrifiadau eich hun, bydd angen i chi ddefnyddio ffurflen IHT100WS i’ch helpu.

Mae ffurflen IHT113 yn cynnwys arweiniad ar gyfer llenwi ffurflen IHT100WS. Pan fydd gennych eich ffigurau terfynol, bydd ffurflen IHT100WS yn dweud wrthych sut a ble mae eu copïo i’r brif ffurflen IHT100.

Gall cyfrifiadau Treth Etifeddu fod yn gymhleth, ac efallai yr hoffech gael cymorth proffesiynol gyda’r cyfrifiadau. Gweler yr adran isod ynghylch cael help a chyngor.

Cam pedwar – cyflwyno’r ffurflen

Dylid anfon pob ffurflen IHT100 Cyfrif Treth Etifeddu orffenedig i Swyddfa Ymddiriedolaethau ac Ystadau Cyllid a Thollau EM yn Nottingham.

Dyddiadau cau, cosbau ariannol a thaliadau

Mae gan ymddiriedolwyr hyd at flwyddyn ar ôl digwyddiad trethadwy i roi gwybod i Gyllid a Thollau EM amdano, gan ddefnyddio ffurflen IHT100.

Er hynny, efallai y bydd treth yn ddyledus cyn hynny, felly fe’ch cynghorir i weithredu’n gyflym ar ôl digwyddiad trethadwy.

Mae'r tabl canlynol yn dangos y dyddiadau cau ar gyfer talu.

Y digwyddiad trethadwy

Treth yn ddyledus

Ionawr 31 Gorffennaf
Chewefror 31 Awst
Mawrth 30 Medi
1 - 5 Ebrill 31 Hydref
6 - 30 Ebrill 30 Ebrill (y flwyddyn nesaf)
Mai - Hydref 30 Ebrill (y flwyddyn nesaf)
Tachwedd 31 Mai (y flwyddyn nesaf)
Rhagfyr 30 Mehefin (y flwyddyn nesaf)

Mae’r dulliau talu a’r cosbau ariannol am beidio â thalu yr un fath ar gyfer pob math o daliad Treth Etifeddu.

Cael help proffesiynol ar gyfer eich ymddiriedolaeth

Gall fod yn anodd deall ymddiriedolaethau felly efallai y byddwch am weithio gyda thwrnai neu gynghorydd treth. Ond cofiwch fod gan yr ymddiriedolwr gyfrifoldeb cyfreithiol am faterion treth yr ymddiriedolaeth. Ceir dolenni at rai sefydliadau proffesiynol isod – ond nid yw'r holl weithwyr proffesiynol wedi cofrestru gyda’r sefydliadau hyn.

Os hoffech i Gyllid a Thollau EM gysylltu â’ch asiant neu’ch cynrychiolydd personol ynghylch talu Treth Enillion Cyfalaf neu Dreth Incwm, bydd angen i chi lenwi ffurflen 64-8. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod rhagor am lenwi ffurflen 64-8.

Os hoffech i Gyllid a Thollau EM gysylltu â’ch asiant neu’ch cynrychiolydd personol ynghylch materion Treth Etifeddu, bydd angen i chi nodi eu manylion ar ffurflen IHT100.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Dod o hyd i ffurflen ymddiriedolaeth

Chwilio am ffurflenni ymddiriedolaeth, tudalennau atodol, taflenni gwaith a chymorth ac arweiniad perthnasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU