Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cyflwyniad i Dreth Etifeddu ac ymddiriedolaethau

Pan fydd asedau – megis arian, tir neu adeiladau – yn cael eu trosglwyddo i ymddiriedolaethau neu o ymddiriedolaethau, neu pan fydd deg mlynedd wedi mynd heibio ers sefydlu’r ymddiriedolaeth a phob deg mlynedd ar ôl hynny, mae’n bosib y bydd yn rhaid talu Treth Etifeddu. Mae’r canllaw hwn yn rhoi sylw i’r prif egwyddorion sy’n penderfynu a oes angen i ymddiriedolaeth dalu Treth Etifeddu yn y sefyllfaoedd hyn.

Beth yw Treth Etifeddu?

Treth Etifeddu yw'r term cyfarwydd ar gyfer y dreth sy'n cael ei thalu ar eich ystad ar ôl i chi farw. Fodd bynnag, gall hefyd fod yn berthnasol i’ch ystad a chithau’n dal yn fyw, yn enwedig os byddwch chi’n trosglwyddo rhywfaint o’r ystad, neu'r ystad gyfan, i ymddiriedolaeth.

Nid oes rhaid talu Treth Etifeddu oni bai fod yr asedau yn yr ymddiriedolaeth wedi’u prisio’n uwch na throthwy’r Dreth Etifeddu (£325,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13).

Treth Etifeddu a’ch eiddo setledig

Yn aml, gelwir y weithred o roi ased – megis arian, tir neu adeiladau – mewn ymddiriedolaeth yn ‘setlo eiddo’ neu ‘gwneud setliad’. At ddibenion Treth Etifeddu, caiff pob ased ei ystyried yn unigol.

Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y gall yr ymddiriedolwyr ddefnyddio un ased mewn ymddiriedolaeth yn ôl eu disgresiwn ac felly y caiff yr ymddiriedolaeth ei thrin fel ymddiriedolaeth disgresiwn (discretionary trust). Efallai fod eitem arall yn yr un ymddiriedolaeth wedi cael ei neilltuo ar gyfer person anabl ac y caiff yr ymddiriedolaeth ei thrin fel ymddiriedolaeth ar gyfer person anabl. Yn yr achos hwn, bydd rheolau Treth Etifeddu gwahanol ar gyfer pob ased.

Er y gallai asedau gwahanol gael eu trin yn wahanol o safbwynt treth, cyfanswm gwerth yr holl asedau mewn ymddiriedolaeth fydd bob amser yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo a yw gwerth ymddiriedolaeth yn uwch na throthwy’r Dreth Etifeddu, ac a oes rhaid talu Treth Etifeddu.

Gallwch gael gwybodaeth am y rheolau Treth Etifeddu ar gyfer gwahanol fathau o ymddiriedolaethau drwy ddilyn y ddolen isod.

Pryd mae’n rhaid talu Treth Etifeddu ar eich ymddiriedolaeth

Ceir pedair prif sefyllfa pan all Treth Etifeddu fod yn ddyledus ar ymddiriedolaeth:

  • pan fydd asedau yn cael eu trosglwyddo – neu eu setlo – i ymddiriedolaeth
  • bob deg mlynedd ar ôl sefydlu’r ymddiriedolaeth
  • pan fydd asedau yn cael eu trosglwyddo o ymddiriedolaeth, neu pan ddaw’r ymddiriedolaeth i ben
  • pan fydd rhywun yn marw a bod ymddiriedolaeth yn rhan o'r broses o gael trefn ar yr ystad

Asedau y mae’n rhaid talu Treth Etifeddu arnynt

Mae’n rhaid talu Treth Etifeddu ar ‘eiddo perthnasol’. Mae eiddo perthnasol yn golygu pob eiddo setledig yn y rhan fwyaf o ymddiriedolaethau. Ond nid yw eiddo yn yr ymddiriedolaethau canlynol yn cyfrif fel ‘eiddo perthnasol’:

  • ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant sy’n cynnwys asedau a roddwyd yn yr ymddiriedolaeth cyn 22 Mawrth 2006
  • ymddiriedolaeth buddiant yn syth ar ôl marwolaeth
  • ymddiriedolaeth buddiant cyfresol trosiannol
  • ymddiriedolaeth buddiant i berson anabl
  • ymddiriedolaeth ar gyfer plentyn sydd wedi colli rhiant
  • ymddiriedolaeth ar gyfer person 18-25 oed

Gallwch gael gwybodaeth am eiddo perthnasol ac ymddiriedolaethau eiddo perthnasol drwy ddilyn y ddolen isod.

Asedau nad oes rhaid talu Treth Etifeddu arnynt

Caiff rhai asedau eu hystyried yn ‘eiddo eithriedig’ ac ni thelir Treth Etifeddu arnynt. Er hynny, mae’n bosib y caiff gwerth yr asedau ei gynnwys wrth gyfrifo'r gyfradd dreth ar gyfer rhai ffioedd gadael a thaliadau deg mlynedd. Gall math o eiddo eithriedig gynnwys:

  • eiddo wedi’i leoli y tu allan i’r DU – ymddiriedolwyr sy’n berchen ar yr eiddo, a chafodd ei setlo gan rywun a oedd yn byw y tu allan i’r DU yn barhaol pan wnaed y setliad
  • gwarannau’r llywodraeth – a elwir yn FOTRA (yn sefyll am ‘free of tax to residents abroad’)

Gall y rheolau ar gyfer eiddo eithriedig fod yn gymhleth. I gael rhagor o arweiniad technegol, gallwch ddefnyddio llawlyfr Treth Etifeddu Cyllid a Thollau EM sydd ar gael ar-lein.

Datgan a thalu Treth Etifeddu ar ymddiriedolaethau

Bydd angen i chi ddefnyddio dwy brif ffurflen i ddatgan ac i dalu Treth Etifeddu ar gyfer eich ymddiriedolaeth:

  • IHT400 ‘Cyfrif Treth Etifeddu’ – defnyddir y ffurflen hon i ddangos faint o Dreth Etifeddu sy’n ddyledus pan fydd rhywun wedi marw
  • IHT100 ‘Cyfrif Treth Etifeddu’ – defnyddir y ffurflen hon i ddangos faint o Dreth Etifeddu sy’n ddyledus ar ‘ddigwyddiadau yn ystod bywyd’, er enghraifft trosglwyddo i ymddiriedolaeth neu o ymddiriedolaeth, neu daliad deg mlynedd ar ymddiriedolaeth

Cael help proffesiynol ar gyfer eich ymddiriedolaeth

Gall fod yn anodd deall ymddiriedolaethau felly mae'n bosib y byddwch am gael help twrnai neu gynghorydd treth. Ond cofiwch fod gan yr ymddiriedolwr gyfrifoldeb cyfreithiol o hyd dros faterion treth yr ymddiriedolaeth. Ceir dolenni i rai sefydliadau proffesiynol isod – ond nid yw'r holl weithwyr proffesiynol wedi cofrestru gyda’r sefydliadau hyn.

Os hoffech i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gysylltu â’ch asiant neu’ch cynrychiolydd proffesiynol ynghylch materion Treth Enillion Cyfalaf neu Dreth Incwm, bydd angen i chi lenwi ffurflen 64-8. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod rhagor am lenwi ffurflen 64-8.

Os hoffech i Gyllid a Thollau EM gysylltu â’ch asiant neu’ch cynrychiolydd proffesiynol ynghylch materion Treth Etifeddu bydd angen i chi roi eu manylion ar ffurflen IHT100.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Dod o hyd i ffurflen ymddiriedolaeth

Chwilio am ffurflenni ymddiriedolaeth, tudalennau atodol, taflenni gwaith a chymorth ac arweiniad perthnasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU