Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Talu Treth Etifeddu ar ymddiriedolaethau bob deg mlynedd

Mae’n rhaid talu Treth Etifeddu ar asedau mewn rhai ymddiriedolaethau bob deg mlynedd. Mae’r canllaw hwn yn egluro pryd y mae angen i chi wneud y taliadau hyn. Mae hefyd yn dweud wrthych pa wybodaeth y mae ei hangen arnoch er mwyn cyfrifo’r swm eich hun, a sut y gall Cyllid a Thollau EM eich helpu.

Beth yw’r taliad deg mlynedd?

Gan eich bod yn ymddiriedolwr, bydd yn rhaid i chi wneud taliad ddeg mlynedd ar ôl sefydlu eich ymddiriedolaeth a bob deg mlynedd ar ôl hynny, os yw’r ddau isod yn berthnasol:

  • mae eich ymddiriedolaeth yn cynnwys ‘eiddo perthnasol’
  • mae gwerth yr ‘eiddo perthnasol’ yn eich ymddiriedolaeth yn uwch na throthwy’r Dreth Etifeddu (£325,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13)

Dilynwch y ddolen ‘Pa ymddiriedolaethau sy'n talu Treth Etifeddu?’ i gael rhagor o wybodaeth am eiddo perthnasol.

Cyfrifo faint o Dreth Etifeddu sy'n ddyledus

Bydd yn rhaid talu Treth Etifeddu bob deg mlynedd ar ôl sefydlu'r ymddiriedolaeth. Telir Treth Etifeddu ar werth net unrhyw eiddo perthnasol yn yr ymddiriedolaeth ar y diwrnod cyn y trothwy. Y gwerth ar ôl didynnu unrhyw ddyledion a rhyddhad yw’r gwerth net, megis Rhyddhad Treth Busnes neu Ryddhad Treth Amaethyddol.

Os sefydlwyd yr ymddiriedolaeth cyn 27 Mawrth 1974, mae’r rheolau’n wahanol. Gallwch gael gwybod rhagor drwy ddilyn y ddolen isod – ‘Ymddiriedolaethau a sefydlwyd cyn 27 Mawrth 1974’.

Mae’r cyfrifiad ar gyfer y taliad deg mlynedd yn gymhleth. Cyn cychwyn, bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch:

  • gwerth yr eiddo perthnasol yn yr ymddiriedolaeth ar y diwrnod cyn y trothwy deg mlynedd
  • gwerth unrhyw eiddo yn yr ymddiriedolaeth – ar y dyddiad y rhoddwyd yr eiddo yn yr ymddiriedolaeth – sydd heb fod yn eiddo perthnasol o gwbl tra bu yn yr ymddiriedolaeth hon
  • gwerth unrhyw eiddo mewn unrhyw ymddiriedolaeth arall (ar wahân i ymddiriedolaethau cwbl elusennol) a sefydlwyd gan y setlwr ar yr un diwrnod â’r ymddiriedolaeth hon – defnyddiwch werth yr eiddo ar y diwrnod y sefydlwyd yr ymddiriedolaeth
  • gwerth unrhyw drosglwyddiadau y mae’n rhaid talu Treth Etifeddu arnynt (boed y rheini’n drosglwyddiadau i ymddiriedolaethau ai peidio) a wnaed gan y setlwr yn ystod y saith mlynedd cyn sefydlu’r ymddiriedolaeth hon – defnyddiwch y gwerth ar y dyddiad trosglwyddo
  • gwerth unrhyw eiddo perthnasol a drosglwyddwyd – ar y diwrnod y cawsant eu trosglwyddo – o'r ymddiriedolaeth yn ystod y deg mlynedd diwethaf
  • a oedd unrhyw eiddo perthnasol yn cael ei ystyried yn eiddo perthnasol yn yr ymddiriedolaeth am gyfnod llai na’r deg mlynedd diwethaf

Gallwch ddarllen rhagor am sut mae Treth Etifeddu yn berthnasol i ymddiriedolaethau eiddo perthnasol yn y canllaw isod.

Cyfrifo’r taliad deg mlynedd eich hun

Mae angen i chi lenwi ffurflen IHT100 ‘Cyfrif Treth Etifeddu’ er mwyn dweud wrth Gyllid a Thollau EM pryd mae Treth Etifeddu yn ddyledus ar ymddiriedolaeth. Os hoffech wneud y cyfrifiadau eich hun, bydd angen i chi roi eich ffigurau yn Adran G ac Adran H y ffurflen. Bydd angen i chi lenwi ffurflen ddigwyddiadau 100d.

Gallwch lwytho taflen waith a chanllawiau oddi ar y we i’ch helpu i gyfrifo faint o Dreth Etifeddu y bydd angen i chi ei thalu ar y canlynol:

  • trosglwyddiadau i ymddiriedolaeth
  • trosglwyddiadau o ymddiriedolaeth
  • bob deg mlynedd ers sefydlu ymddiriedolaeth

I gyfrifo’r taliad deg mlynedd, bydd angen i chi ddefnyddio Adran B ffurflen IHT100WS – taflen waith Treth Etifeddu. Gall adran B canllaw IHT113 'How to fill in form IHT100WS' roi rhagor o help i chi wrth lenwi'r adran hon ar y daflen waith.

Cael Cyllid a Thollau EM i wneud y cyfrifiad ar eich rhan

Os hoffech i Gyllid a Thollau EM gyfrifo’r taliad deg mlynedd ar eich rhan, llenwch ffurflen IHT100 Cyfrif Treth Etifeddu, gan adael adrannau G a H yn wag. Bydd angen i chi ddychwelyd y ffurflen i Gyllid a Thollau EM yn brydlon er mwyn iddynt allu gwneud y cyfrifiad. Fel arall, efallai y codir dirwy arnoch.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen ddigwyddiadau 100d hefyd.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Dod o hyd i ffurflen ymddiriedolaeth

Chwilio am ffurflenni ymddiriedolaeth, tudalennau atodol, taflenni gwaith a chymorth ac arweiniad perthnasol

Allweddumynediad llywodraeth y DU