Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr ymddiriedolaethau – ar wahân i ymddiriedolaethau hawl absoliwt (bare trusts) – dalu treth. Bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am ymddiriedolaeth os ydych chi’n disgwyl y bydd yn derbyn incwm neu’n gwneud enillion cyfalaf trethadwy. Diben hyn yw er mwyn iddynt allu gwneud yn siŵr y caiff y swm cywir o dreth ei gyfrifo a’i dalu. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen talu Treth Etifeddu hefyd.
Dylech ddweud wrth Gyllid a Thollau EM yn syth ar ôl i’r ymddiriedolaeth gael ei chreu os ydych chi’n disgwyl y bydd yr ymddiriedolaeth newydd:
Os bydd ymddiriedolaeth sydd eisoes yn bodoli yn dechrau derbyn incwm neu wneud enillion trethadwy, bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM erbyn 5 Hydref ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill).
Os nad yw ymddiriedolaeth yn mynd i gael unrhyw incwm na gwneud unrhyw enillion trethadwy, does dim angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM.
Os byddwch chi’n rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am ymddiriedolaeth, byddant yn anfon ffurflen SA900 ‘Ffurflen Dreth Ymddiriedolaeth ac Ystad’ atoch - yn fuan ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill).
Os oes ymddiriedolaeth wedi cael ei sefydlu a fydd efallai'n derbyn incwm neu'n gwneud enillion trethadwy, yr ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am roi gwybod i Gyllid a Thollau EM.
Ymddiriedolaethau hawl absoliwt yw’r unig eithriad i hyn, lle mae gan y buddiolwr hawl i gael incwm a chyfalaf a fydd yn deillio o’r ymddiriedolaeth. Yn achos ymddiriedolaethau hawl absoliwt, mae'n rhaid i fuddiolwyr yr ymddiriedolaeth ddatgan unrhyw incwm neu enillion cyfalaf ar eu ffurflenni treth personol.
Gall fod yn anodd deall ymddiriedolaethau, felly efallai y byddwch am weithio gyda thwrnai neu gynghorydd treth. Ond cofiwch fod gan yr ymddiriedolwr gyfrifoldeb cyfreithiol o hyd dros materion treth yr ymddiriedolaeth. Ceir dolenni i rai sefydliadau proffesiynol isod – ond nid yw'r holl weithwyr proffesiynol wedi cofrestru gyda’r sefydliadau hyn.
Os hoffech i Gyllid a Thollau EM gysylltu â’ch asiant neu’ch cynrychiolydd proffesiynol ynghylch materion Treth Enillion Cyfalaf a Threth Incwm, bydd angen i chi lenwi ffurflen 64-8. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod rhagor am lenwi ffurflen 64-8.
Os hoffech i Gyllid a Thollau EM gysylltu â’ch asiant neu’ch cynrychiolydd proffesiynol ynghylch materion Treth Etifeddu, bydd angen i chi nodi eu manylion ar ffurflen IHT100.
Gallwch roi gwybod i Gyllid a Thollau EM mewn dwy ffordd.
Gallwch ddweud wrthynt fod ymddiriedolaeth wedi cael ei sefydlu drwy lenwi ffurflen 41G (Ymddiriedolaeth) a’i hanfon at Gyllid a Thollau EM. Neu gallwch anfon llythyr atynt. Rhaid i’r llythyr hwn gynnwys yr holl wybodaeth a fyddai wedi cael ei chynnwys ar ffurflen 41G (Ymddiriedolaeth), gan gynnwys:
P’un ai a ydych yn llenwi’r ffurflen ynteu’n anfon llythyr, dylech hefyd roi manylion yr holl asedau yn yr ymddiriedolaeth. Ar gyfer tir neu adeiladau, dylai’r manylion hyn gynnwys y cyfeiriad llawn. Ar gyfer cyfranddaliadau, dylech gynnwys nifer a dosbarth y cyfranddaliadau a rhif cofrestru'r cwmni.
Does dim angen i chi anfon copïau o unrhyw ddogfennau ymddiriedolaeth oni bai y bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi wneud hynny.
Ar ôl rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM, byddwch yn cael Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw (UTR) ar gyfer yr ymddiriedolaeth. Mae hwn yn gyfeirnod a roddir pan fyddwch chi'n cofrestru i dalu treth dan Hunanasesu. Bydd angen y cyfeirnod hwn arnoch bob tro y byddwch chi’n cysylltu â Chyllid a Thollau EM.
Byddwch yn cael Ffurflen Dreth Ymddiriedolaeth ac Ystad ar gyfer y flwyddyn dreth gyntaf pan fydd yr ymddiriedolaeth wedi derbyn incwm neu wedi gwneud enillion.
Ni fydd Cyllid a Thollau EM yn anfon Ffurflen Dreth Ymddiriedolaeth ac Ystad atoch yn y dyfodol os bydd un o’r canlynol yn berthnasol:
Gallwch ddarllen rhagor am hyn yn y canllaw ‘Rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am ddigwyddiadau a newidiadau mewn ymddiriedolaeth’ drwy ddilyn y ddolen isod.
Os byddwch chi'n cael ffurflen dreth gan eich bod yn ymddiriedolwyr, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi ei llenwi a'i dychwelyd i Gyllid a Thollau EM yn brydlon. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os nad oes treth yn ddyledus.
Does dim angen i adran fusnes Cyllid a Thollau EM sy’n delio â Threth Etifeddu gael gwybod pan gaiff ymddiriedolaeth newydd ei sefydlu. Fodd bynnag, mae angen iddynt gael gwybod pan fydd Treth Etifeddu’n ddyledus ar ymddiriedolaeth. Gall hyn fod yn berthnasol:
• pan roddir asedau mewn ymddiriedolaeth
• pan dynnir asedau o ymddiriedolaeth
• pan fydd deng mlynedd ers sefydlu ymddiriedolaeth
Os oes gan ymddiriedolaeth ymddiriedolwyr sy'n preswylio dramor, gall fod yn ymddiriedolaeth ‘ddibreswyl’.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs