Cyngor ar ymddiriedolaethau – gyda beth y gall Cyllid a Thollau EM eich helpu
Bydd dwy adran fusnes wahanol o Gyllid a Thollau EM yn ymdrin â threth ar ymddiriedolaethau sydd ag ymddiriedolwyr sy’n preswylio yn y DU – Ymddiriedolaethau Cyllid a Thollau EM (ar gyfer Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf ar ymddiriedolaethau) a Threth Etifeddu Cyllid a Thollau EM. Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut gall y ddwy adran eich helpu chi.
Cael help gyda Threth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf ar ymddiriedolaethau
Gall Ymddiriedolaethau ac Ystadau Cyllid a Thollau EM eich helpu gydag ymholiadau am Dreth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf sy’n ymwneud â’r canlynol:
- ymddiriedolaethau – preswylio yn y DU
- ymddiriedolaethau dibreswyl
- incwm a gaiff buddiolwyr o ystadau ac ymddiriedolaethau – dylai swyddfa dreth y buddiolwr allu helpu hefyd
- cynrychiolwyr personol ystadau unigolion sydd wedi marw
Os na allwch chi ddod o hyd i ateb i’ch cwestiwn ar wefan Cyllid a Thollau EM, gallant eich helpu gyda materion treth cyffredinol sy’n ymwneud â Hunanasesu Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf ar gyfer ymddiriedolaethau, megis:
- eich helpu i lenwi’r tudalennau sy'n gysylltiedig ag ymddiriedolaethau ar y ffurflen dreth unigol
- esbonio cyfrifoldebau ymddiriedolwr neu gynrychiolydd personol o ran Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf
- dweud wrthych pa ffurflenni y bydd angen i chi eu llenwi a sut mae cael taflenni cymorth
- ateb cwestiynau am lenwi’r Ffurflen Treth Ystadau ac Ymddiriedolaethau – gan gynnwys llenwi’r tudalennau ategol ar gyfer Enillion Cyfalaf
- helpu gyda chyfrifiadau Treth Enillion Cyfalaf drwy gyflawni archwiliadau prisio yn dilyn trafodion
Beth na all Ymddiriedolaethau ac Ystadau Cyllid a Thollau EM roi cymorth i chi yn ei gylch
Ni all Ymddiriedolaethau ac Ystadau Cyllid a Thollau EM wneud y canlynol:
- rhoi cyngor ar gynllunio materion treth
- dweud wrthych pa fath o ymddiriedolaeth yw’r un dan sylw, er enghraifft, a yw’n ymddiriedolaeth ddewisiadol neu'n ymddiriedolaeth budd mewn meddiant – dim ond rhoi arweiniad cyffredinol
- rhoi cyngor ar sefydlu ymddiriedolaeth
- rhoi cyngor ar sut mae ymddiriedolwyr yn ymdrin â materion nad ydynt yn ymwneud â threth
- rhoi cyngor ar sut i eirio ewyllysiau neu ddogfennau ymddiriedolaeth
- rhoi cyngor ar y canlyniadau sy’n gysylltiedig â sefydlu ymddiriedolaeth nad yw’n elusennol o safbwynt treth
- dweud wrthych a yw’r ddeddfwriaeth Setliadau’n berthnasol i ymddiriedolaeth benodol
- ymdrin â chwestiynau sy’n ymwneud â Threth Etifeddu a Phrofiant
Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynglŷn ag unrhyw un o’r materion uchod, efallai y byddwch am geisio cyngor proffesiynol. Gweler ‘Cael cymorth proffesiynol ar gyfer eich ymddiriedolaeth’ isod.
Cael help gyda Threth Etifeddu ac ymddiriedolaethau
Mae’n bosib y bydd angen talu Treth Etifeddu ar ystad pan fydd rhywun yn marw. Mae'n rhaid ei thalu ar ymddiriedolaethau neu roddion a wneir yn ystod oes rhywun hefyd o bryd i’w gilydd.
Cyn i chi gysylltu â Llinell Gymorth Treth Etifeddu a Phrofiant Cyllid a Thollau EM
Cyn i chi gysylltu â’r Llinell Gymorth Treth Etifeddu a Phrofiant, dylech wneud y canlynol:
- darllen yr arweiniad ynghylch Treth Etifeddu ar wefan Cyllid a Thollau EM drwy ddilyn y dolenni isod
- darllen yr adrannau perthnasol ar y nodiadau sy’n dod gyda’r ffurflen rydych chi’n ei llenwi
- gwneud yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth a allai fod yn berthnasol i’ch ymholiad, megis dyddiad y trosglwyddiad, y math o ymddiriedolaeth dan sylw, a’r berthynas rhwng y setlwr a’r buddiolwyr
Pa gymorth allwch chi ei gael gan Dreth Etifeddu Cyllid a Thollau EM
Gall y Llinell Gymorth Treth Etifeddu a Phrofiant eich helpu i wneud y canlynol:
- deall eich cyfrifoldebau o ran Treth Etifeddu, a’r drefn ar gyfer ystadau neu ymddiriedolaethau
- cadarnhau pa ffurflenni y mae eu hangen arnoch
- llenwi ffurflenni Treth Etifeddu
Beth na all Treth Etifeddu Cyllid a Thollau EM roi cymorth i chi yn ei gylch
Ni fydd y Llinell Gymorth Treth Etifeddu a Phrofiant yn gallu:
- dweud wrthych pa oblygiadau Treth Etifeddu sy’n gysylltiedig â chynllunio treth
- rhoi sylw ar bwyntiau cyfraith gyffredin
- cadarnhau statws preswylio unigolyn
- rhoi cyngor ar sut i eirio ewyllysiau neu ddogfennau ymddiriedolaeth
- rhoi gwybod i chi pa fath o ymddiriedolaeth sydd gennych chi
- cynghori ynghylch rheolaeth gyffredinol ymddiriedolaeth neu ystad
Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth am unrhyw un o’r pwyntiau uchod, efallai y byddwch am geisio cyngor proffesiynol. Gweler yr adran isod.
Cael cymorth proffesiynol ar gyfer eich ymddiriedolaeth
Gall ymddiriedolaethau fod yn anodd eu deall felly efallai y byddwch am weithio gyda thwrnai neu gynghorydd treth. Serch hynny, dylech gofio mai’r ymddiriedolwr sy’n dal yn gyfreithiol gyfrifol am faterion treth yr ymddiriedolaeth. Fe welwch isod ddolenni at gyrff proffesiynol – er nad yw pob unigolyn proffesiynol wedi'i gofrestru gyda nhw.
Os ydych chi am i Gyllid a Thollau EM gysylltu â'ch asiant neu'ch cynrychiolydd proffesiynol ynglŷn â materion yn ymwneud â Threth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf, bydd angen i chi lenwi ffurflen 64-8. Dilynwch y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth am lenwi ffurflen 64-8.
Os ydych chi am i Gyllid a Thollau EM gysylltu â’ch asiant neu'ch cynrychiolydd proffesiynol ynglŷn â materion yn ymwneud â Threth Etifeddu, bydd angen i chi nodi eu manylion cyswllt ar ffurflen IHT100.