Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi’n ymddiriedolwr ar ymddiriedolaeth, bydd angen i chi gadw cofnodion o incwm a threuliau'r ymddiriedolaeth honno. Bydd arnoch angen y rhain i’ch helpu i lenwi’r Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau, i roi gwybodaeth i fuddiolwyr, i ddelio ag unrhyw Dreth Etifeddu sy’n ddyledus ac i ateb unrhyw gwestiwn y mae’n bosib y bydd Cyllid a Thollau EM yn ei ofyn.
Ceir gwahanol fathau o ymddiriedolaethau, a bydd y mathau o gofnodion y bydd yn rhaid i chi eu cadw yn amrywio.
Dylech gadw’r dogfennau canlynol ymhob achos:
Cofiwch gadw manylion unrhyw drafodion a wneir gan ddefnyddio cyfrifon banc ar-lein – mae’n bosib na fydd y rhain yn anfon datganiadau papur.
Os bydd yr ymddiriedolaeth yn gwerthu neu’n prynu asedau yn ystod y flwyddyn, bydd arnoch angen y canlynol:
Os yw’r ymddiriedolaeth yn berchen ar eiddo i’w osod bydd arnoch angen yr wybodaeth ganlynol:
Os yw’r ymddiriedolaeth wedi cael asedau ychwanegol bydd angen i chi gofnodi’r canlynol:
Dylech hefyd gadw cofnodion sy’n dangos unrhyw benderfyniadau pwysig sy'n cael eu gwneud gan yr ymddiriedolwyr, megis:
Bydd yr wybodaeth hon i gyd yn ddefnyddiol pan fyddwch yn llenwi’r Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau. Bydd hefyd yn eich helpu i ateb unrhyw gwestiynau amdani y gallai Cyllid a Thollau EM eu gofyn. Rhaid i chi gadw mathau gwahanol o gofnodion am wahanol gyfnodau – gweler yr adran ‘Am faint y dylid cadw’r cofnodion’ i gael rhagor o wybodaeth am hyn.
Mae’n bosib y bydd ymddiriedolwyr yn gwneud taliadau i bobl – a elwir yn fuddiolwyr – os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i’r buddiolwyr:
Mae angen i ymddiriedolwyr gadw cofnodion unrhyw daliadau incwm a wneir i fuddiolwyr yn ôl eu disgresiwn. Mae’r wybodaeth hon yn ofynnol fel rhan o’r Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau ar gyfer ymddiriedolaethau disgresiwn.
Mae’n bosib y bydd buddiolwyr o ymddiriedolaethau disgresiwn yn gofyn i ymddiriedolwyr ddarparu datganiad yn dangos faint o incwm maent wedi’i gael a faint o dreth mae’r ymddiriedolwyr wedi'i didynnu. Nid yw hyn yn berthnasol i fuddiolwyr ymddiriedolaethau mewn meddiant. Mae’n bosib y bydd ymddiriedolwyr yn defnyddio ffurflen R185 (Incwm Ymddiriedolaeth) i wneud hyn. Yna, gall y buddiolwr ddefnyddio’r wybodaeth ar y ffurflen hon i baratoi ei Ffurflen Dreth Hunanasesu ei hun neu i hawlio ad-daliad treth ar ffurflen R40 – Cais am ad-daliad o’r dreth a ddidynnwyd o gynilion a buddsoddiadau.
Os yw'r buddiolwr hefyd yn setlwr a'i fod ef – neu ei bartner priod neu bartner sifil – wedi cadw buddiant yn yr ymddiriedolaeth, gallwch ddefnyddio ffurflen R185 (Setlwr).
Mae’n bosib y bydd ymddiriedolwyr yn ei gweld yn ddefnyddiol cadw copïau o’r holl ffurflenni R185 (Incwm Ymddiriedolaeth) y maent yn eu rhoi i fuddiolwyr.
Rhaid i chi gadw’ch cofnodion am gyfnod sylfaenol fel y gwelir isod, rhag ofn y bydd Cyllid a Thollau EM yn gwirio eich ffurflen dreth. Mae’r un dyddiadau’n berthnasol ar gyfer ffurflenni treth papur a ffurflenni treth ar-lein.
Os oes gan yr ymddiriedolaeth incwm busnes – er enghraifft mae’n berchen ar eiddo i’w osod – rhaid i chi gadw'r cofnodion busnes am bum mlynedd yn rhagor ar ôl y dyddiad cau arferol ar gyfer ffeilio sef 31 Ionawr.
Er enghraifft, ar gyfer ffurflen dreth 2008-09 a gyflwynwyd ar 31 Ionawr neu cyn hynny, rhaid i chi gadw’r cofnodion tan 31 Ionawr 2015.
Os byddwch yn anfon y ffurflen dreth ar 31 Ionawr neu cyn hynny, dylech gadw eich cofnodion am flwyddyn arall o 31 Ionawr ymlaen.
Er enghraifft, ar gyfer ffurflen dreth 2008-09 a ffeiliwyd ar 31 Ionawr 2010 neu cyn hynny, rhaid i chi gadw eich cofnodion tan 31 Ionawr 2011.
Os byddwch yn anfon y ffurflen dreth yn ôl ar ôl 31 Ionawr am ei bod wedi cael ei rhoi i chi’n hwyr neu am eich bod wedi ei hanfon yn ôl yn hwyr, dylech gadw'ch cofnodion tan y dyddiad hwyraf ymhlith y canlynol:
Mae’n bosib y bydd angen i chi gadw eich cofnodion am gyfnod hirach na’r dyddiadau uchod os yw Cyllid a Thollau eisoes wedi dechrau gwirio’ch ffurflen. Yn yr achos hwn, bydd angen i chi gadw eich cofnodion nes bydd Cyllid a Thollau EM yn ysgrifennu atoch ac yn dweud wrthych eu bod wedi gorffen.
Os yw’r cofnodion y mae arnoch eu hangen i lenwi’r Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau ar goll neu wedi cael eu dinistrio, dylech geisio cael gafael ar yr wybodaeth goll drwy ffyrdd eraill. Gallwch ofyn i fanc roi ffigurau llog neu ddatganiadau banc i chi, er y gallant godi ffi am hyn.
Peidiwch â gohirio anfon y ffurflen dreth yn ôl wrth i chi aros am yr wybodaeth hon. Defnyddiwch yr wybodaeth rydych wedi llwyddo i’w chael er mwyn llenwi’r ffurflen. Lle daw i’r amlwg na allwch gael gwybodaeth yn lle'r wybodaeth goll, bydd angen i chi amcangyfrif y ffigurau coll. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am beth sydd wedi digwydd ac a yw unrhyw ffigur yn:
Defnyddiwch yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol' i ddweud sut cawsoch y ffigurau hyn a pham na allwch ddefnyddio'r union ffigurau.
Gallwch ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM a rhoi’r ffigurau iawn o fewn blwyddyn ar ôl y dyddiad terfynol ar gyfer ffeilio eich ffurflen dreth. Ond, os byddwch yn gwneud addasiadau yn nes ymlaen ac nad ydych wedi talu digon o dreth efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosbau.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio ffigurau dros dro ar dudalen 26 yr arweiniad i’r Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs