Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid

Os ydych chi'n landlord ac yn gwneud gwelliannau arbed ynni i'ch eiddo, efallai y bydd modd i chi dalu llai o dreth. Gallwch wneud hyn drwy hawlio'r ‘Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid’. Yma, cewch wybod a ydych yn gymwys, ar gyfer beth y gellir defnyddio'r lwfans a sut mae gwneud cais amdano.

Pwy gaiff hawlio'r Lwfans?

Cewch hawlio'r Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid os ydych yn landlord sy'n gosod eiddo preswyl a'ch bod naill ai:

  • yn landlord unigol – rhywun sy'n talu treth incwm ar elw gosod eiddo
  • yn landlord corfforaethol – rhywun y mae ei fusnes rhentu wedi'i gofrestru fel cwmni a'ch bod yn talu'r dreth gorfforaeth ar elw gosod eiddo

Fodd bynnag, chewch chi ddim hawlio os ydych:

  • yn landlord sy'n hawlio lwfans dan y cynllun 'Rhentu Ystafell'
  • yn landlord eiddo sy'n cael ei osod fel llety gwyliau wedi'i ddodrefnu

Y Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid - faint ydyw ac ar gyfer beth y gellir ei ddefnyddio?

Lwfans treth (nid taliad arian parod) yw'r Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid, ac mae'n caniatáu i chi hawlio hyd at £1,500 yn erbyn treth bob blwyddyn. Gellir hawlio'r lwfans hwn ar gyfer eiddo y byddwch yn ei osod yn y DU a thramor. Gallwch hawlio'r Lwfans ar gyfer costau prynu rhai cynhyrchion arbed ynni a'u rhoi yn yr eiddo y byddwch yn ei osod, ond dim ond ar gyfer y swm y byddwch yn ei dalu.

Gallwch hawlio'r Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid ar gyfer yr hyn yr ydych wedi'i wario ar:

  • inswleiddio atig a waliau ceudod, ar ôl 6 Ebrill 2004
  • inswleiddio waliau solid, ar ôl 7 Ebrill 2005
  • inswleiddio system dŵr poeth ac atal drafftiau, ar ôl 6 Ebrill 2006
  • inswleiddio lloriau, ar ôl 6 Ebrill 2007

Gallwch hawlio'r Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid hyd at 1 Ebrill 2015. Daw'r lwfans i ben bryd hynny.

Ers pryd mae'r lwfans ar gael?

Mae landlordiaid unigol wedi gallu hawlio'r lwfans er 6 Ebrill 2004. Mae wedi bod ar gael i landlordiaid corfforaethol er 8 Gorffennaf 2008.

Sut mae gwneud cais am y Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid

Byddwch yn hawlio'r lwfans pan fyddwch yn llenwi eich ffurflen dreth.

Landlordiaid unigol

Os ydych chi'n landlord unigol, byddwch yn hawlio'r lwfans pan fyddwch yn llenwi eich ffurflen dreth hunanasesu. Bydd angen i chi nodi costau prynu a gosod y cynhyrchion arbed ynni yn y blwch 'Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid':

  • ar y tudalennau eiddo yn y DU - os yw'ch eiddo yn y DU
  • ar y tudalennau tramor dan yr adran 'Incwm o dir ac eiddo dramor' - os yw'ch eiddo y tu allan i'r DU

Bydd y swm y byddwch yn ei nodi ar y ffurflen yn cael ei hawlio yn erbyn yr elw trethadwy a gewch yn sgil gosod eich eiddo. Felly, pan fyddwch yn llenwi eich ffurflen dreth, byddwch yn tynnu'r swm yr ydych yn ei hawlio ar gyfer y lwfans hwn o'ch incwm. Mae hyn yn lleihau'r dreth y byddwch yn ei thalu am y flwyddyn.

Llenwi eich ffurflen hunanasesu ar-lein

Gallwch lenwi eich ffurflen hunanasesu ar-lein - dilynwch y ddolen isod i gael gwybod am y manteision sy'n gysylltiedig â hyn a sut mae llenwi ffurflen.

Neu gallwch fynd yn syth at y ffurflen a'i llenwi ar wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Landlordiaid corfforaethol

Os ydych chi'n landlord corfforaethol, gallwch hawlio'r Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid dan 'treuliau busnes a ganiateir' ar ffurflen y dreth gorfforaeth. Dylech fynd i business.link.gov.uk, gwefan sy'n rhoi cyngor i fusnesau, os oes arnoch eisiau cyngor manwl ar sut mae llenwi ffurflen y dreth gorfforaeth.

Hawlio Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid ar gynhyrchion arbed ynni eraill

Ni ellir hawlio'r Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid ar unrhyw gynhyrchion arbed ynni heblaw'r rheini a restrir yn yr adran uchod: 'Y Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid - faint ydyw ac ar gyfer beth y gellir ei ddefnyddio?' Fodd bynnag, gallech fod â hawl i ddidyniadau treth eraill os ydych yn gwella effeithlonrwydd ynni eich eiddo. Gallai hyn fod yn berthnasol i osod ffenestri dwbl neu foeleri dŵr mwy effeithlon a all ddod dan gategori atgyweirio.

Gewch chi hawlio'r Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid ar gyfer mwy nag un eiddo?

Er 6 Ebrill 2007, bu'n bosib hawlio lwfans o ddim mwy na £1,500 ar gyfer pob tŷ, fflat neu lety un ystafell y byddwch yn ei osod. Er enghraifft, os byddwch yn gosod adeilad sy'n cynnwys pedwar fflat, gallwch hawlio hyd at £1,500 ar gyfer pob fflat. Cyn hynny, £1,500 oedd y lwfans uchaf y gellid ei gael ar gyfer yr adeilad i gyd.

All mwy nag un landlord hawlio'r Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid ar gyfer yr un eiddo?

Os oes mwy nag un landlord yn berchen ar dŷ, fflat neu lety un ystafell, gallant hawlio cyfran o'r lwfans naill ai yn ôl

  • eu perchnogaeth o'r eiddo, neu
  • yr arian y maent wedi'i wario ar brynu a gosod y cynhyrchion arbed ynni

Hawlio'r Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid ar gyfer gosod cynhyrchion arbed ynni eich hun

Os byddwch yn gosod y cynhyrchion arbed ynni eich hun, gallwch hawlio'r Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid ar gyfer cost prynu'r cynhyrchion. Fodd bynnag, chewch chi ddim hawlio'r Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid ar gyfer eich llafur a'ch amser eich hun yn eu gosod.

Cysylltu â'ch swyddfa dreth leol ynglŷn â'r Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid

Os oes gennych ragor o gwestiynau am y Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid, cysylltwch â'ch swyddfa dreth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi leol.

Arbed ynni ac arian yn eich eiddo

Drwy wneud newidiadau arbed ynni i'ch eiddo, gallwch helpu i ostwng allyriadau carbon yn ogystal ag arbed arian.

Os ydych chi'n dymuno gwneud gwelliannau eraill i'ch eiddo i arbed ynni, efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael grantiau o gronfeydd arian cyhoeddus, gan eich cyngor lleol neu gan eich cwmni cyflenwi ynni.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU