Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Tyfu eich ffrwythau a'ch llysiau eich hun

Gall tyfu eich bwyd eich hun fod yn ymarfer corff da a gall arbed arian i chi. Hefyd gall ddarparu cyflenwad iach o ffrwythau a llysiau ffres a thymhorol i chi. Mae'n hawdd dechrau arni a gallwch dyfu planhigion mewn llawer o lefydd, hyd yn oed os nad oes gennych ardd.

Pam tyfu eich ffrwythau a'ch llysiau eich hun?

Mae mwy o bobl yn dangos diddordeb mewn tyfu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain, am nifer o wahanol resymau:

  • gallai arbed arian i chi ar eitemau drud fel dail salad
  • mae garddio'n ymarfer corff rhad ac yn ffordd wych o losgi calorïau a chael awyr iach
  • mae'n helpu plant i ddeall o ble mae bwyd yn dod, a gallai ennyn eu diddordeb mewn bwyta ffrwythau a llysiau ffres
  • gall tyfu eich ffrwythau a'ch llysiau eich hun eich helpu i gael eich pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd
  • byddwch yn dod yn fwy ymwybodol o gynnyrch tymhorol felly efallai y bydd yn haws i chi ddewis bwyd tymhorol pan fyddwch yn mynd i siopa (mae'n debygol y defnyddir llai o ynni wrth gynhyrchu bwyd tymhorol)
  • gall garddio fod yn weithgaredd cymdeithasol sy'n eich galluogi i gymryd rhan yn eich cymuned leol
  • gall helpu i leihau straen a gwneud i chi deimlo eich bod wedi cyflawni rhywbeth

Tyfu planhigion gartref

Efallai mai dim ond balconi bychan sydd gennych, neu le ar sil y ffenestr, ond ni ddylai hyn eich atal rhag cymryd eich camau cyntaf at arddio. Gallwch dyfu perlysiau dan do, neu ddail salad y tu allan mewn pot.

Os oes gennych ardd ond dim lle i lain arbennig ar gyfer bwyd, gallwch geisio plannu ffrwythau neu lysiau ymhlith eich blodau.

Os oes gennych gymydog sydd â gardd fawr gallech holi a fyddai modd i chi drin rhan o'r ddaear, a chynnig rhywfaint o'ch cynnyrch iddo o bosib am gael gwneud hyn.

Tyfu ar raddfa fwy

Os nad oes gennych le gartref, neu os ydych yn awyddus i dyfu mwy o gnydau, gallwch chwilio am gynlluniau garddio cymunedol yn eich ardal leol, ystyried rhentu rhandir neu gallwch ddefnyddio gwefan Landshare.

Cynlluniau garddio cymunedol

Mae cynlluniau garddio cymunedol ar gael mewn amryw o ardaloedd yn y wlad. Mae grwpiau o bobl wedi dod ynghyd i adfer tir i dyfu bwyd a phlanhigion fel rhan o brosiect cymunedol yn y gymdogaeth.

Mae'r prosiectau'n darparu lle i bobl fwynhau garddio a dysgu amdano, rhannu offer, hadau a chynnyrch, a chwrdd â phobl eraill.

Ewch i wefan y Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol i weld rhestr o ffermydd a gerddi cymunedol yn y DU.

Yn Llundain, mae'r rhaglen Capital Growth wrthi'n sicrhau mwy o le i'r cyhoedd dyfu bwyd drwy gynlluniau gwirfoddol a chymunedol. Ewch i wefan Asiantaeth Datblygu Llundain i gael mwy o wybodaeth.

Rhentu rhandir

Bydd gan eich cyngor lleol fanylion am randiroedd gyda lleoedd gwag yn eich ardal chi. Mae rhandiroedd wedi dod mor boblogaidd, ceir rhestr aros yn aml, ac efallai na fydd un ar gael am rai misoedd.

Dros y tair blynedd nesaf, bydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn creu 1,000 o leiniau ar dir yr Ymddiriedolaeth lle gall pobl dyfu eu cnydau eu hunain. Ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gael mwy o fanylion am y cynllun hwn

Landshare

Os na allwch ddod o hyd i rywle i dyfu cynnyrch, neu os oes gennych dir sbâr yr hoffech ei rannu, gallwch ddefnyddio gwefan Landshare. Bydd Landshare yn dod o hyd i dir sbâr i bobl sydd am dyfu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain.

Beth i'w dyfu a phryd

Mae digon o gyngor ar gael ar dyfu eich ffrwythau a'ch llysiau eich hun o amrywiol ffynonellau:

  • Y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol - gwybodaeth am dyfu a defnyddio cynnyrch ffres
  • Garddio gyda'r BBC - cyngor ar beth i'w dyfu, ble a phryd
  • Bwyd yn ei bryd - cyfarwyddiadau syml ar sut i dyfu deg o ffrwythau a llysiau

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU