Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’r DU yn wynebu hafau poethach, sychach a chynhesach, a gaeafau gwlypach o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Mae oeri eich cartref heb system aer dymheru a pharatoi ar gyfer llifogydd yn rhai o’r ffyrdd y gallwch baratoi at hyn.
O fewn y ganrif hon disgwylir y bydd tymereddau cyfartalog yr haf yn y DU yn codi rhwng tair a phedair gradd Celsius. Mae cyfnodau o dywydd poeth, glaw trwm a llifogydd yn debygol o ddod yn fwy cyffredin, a bydd yr hafau’n sychach a’r gaeafau’n wlypach.
Gallwch helpu i fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd drwy arbed dŵr ac ynni, a lleihau eich ôl troed carbon.
Ond mae yna lawer o bethau y gallwch chi ei wneud hefyd i warchod eich cartref a chi eich hun rhag newidiadau nad oes modd eu hosgoi yn y tywydd. Gallech ystyried gwneud rhywfaint o addasiadau ar gyfer y newid yn y tywydd pan fydd yn amser addurno. Efallai y bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio ar gyfer rhai prosiectau, neu ymgynghori ag arbenigwr cyn cychwyn y gwaith.
P’un ai a ydych yn eich cartref eich hun ai peidio, mae llawer o newidiadau y gallwch eu gwneud yn awr er mwyn bod yn barod ar gyfer y newid yn yr hinsawdd.
Bydd sicrhau bod eich cartref wedi’i inswleiddio’n dda yn eich cadw’n gynnes yn y gaeaf ac yn oerach yn yr haf. Gallwch hefyd brynu rholiau o ffoil adlewyrchol a elwir yn ‘rhwystrau disglair’ i’w gosod yn eich atig fel ffordd ychwanegol o’ch amddiffyn rhag oerfel a gwres.
Ffenestri ac awyru
Gallech oeri eich cartref yn naturiol yn hytrach na defnyddio system aer dymheru, sy’n gallu achosi niwed i’r amgylchedd:
Dyma bethau i'w hystyried:
Dylech baratoi ar gyfer llifogydd posibl drwy edrych ar fap Asiantaeth yr Amgylchedd. Os yw eich cartref mewn perygl, dylech ystyried ffyrdd o gadw llifogydd allan, fel gosod gorchuddion bric aer neu osod pilen sy’n dal dŵr ar y waliau tu allan. Dylech hefyd brofi cyflwr eich cwteri a’ch draeniau – a allant ddygymod â mwy o law?
Gan fod y DU yn debygol o brofi mwy o dywydd sych dros fisoedd yr haf, bydd arbed dŵr yn dod yn bwysicach fyth. Mae llawer o ffyrdd o arbed dŵr yn y cartref a gallwch ddarllen rhai awgrymiadau ar y dudalen ‘dŵr: defnyddio llai yn y cartref’.
Os oes gennych le y tu allan i’ch tŷ, ceir ffyrdd o gadw eich cartref yn oer a helpu i osgoi llifogydd.
Os oes gennych ardd, gall plannu coed collddail (yn enwedig ar yr ochr ddeheuol) roi cysgod i’ch tŷ yn yr haf a galluogi i’r haul dywynnu drwyddynt yn y gaeaf pan fydd y dail wedi disgyn. Gallwch brynu pilenni rhwystro gwreiddiau er mwyn amddiffyn patio neu sylfeini tŷ rhag difrod a achosir gan wreiddiau.
Bydd defnyddio llai o ddŵr yn yr ardd yn helpu i fanteisio i’r eithaf ar adnoddau, yn enwedig yn ystod y misoedd sych. Gallech hefyd wneud ymchwil i ffyrdd o gynllunio eich gardd ar gyfer tywydd poethach a sychach – mae gan y Gymdeithas Arddwriaeth Frenhinol rai awgrymiadau.
Mae palmantu dros erddi’n cyfrannu at lifogydd, gan fod arwynebau caled megis concrid neu balmantu mewn bloc yn amsugno llawer llai o ddŵr o’u cymharu â gerddi a phlanhigion. Mae deunyddiau caletach hefyd yn storio mwy o wres o’r haul, a gall hyn wneud gwahaniaeth i dymereddau, yn enwedig mewn ardaloedd trefol.
Os oes angen creu lle parcio arnoch o flaen eich tŷ, mae’r Gymdeithas Arddwriaeth Frenhinol yn awgrymu defnyddio deunyddiau megis lawnt neu raean, sy’n amsugno dŵr glaw, gan adael dim ond dau lwybr wedi’u balmantu ar gyfer y car. Gallwch hyd yn oed brynu graen wedi’i ailgylchu sy’n sgil-gynnyrch y diwydiant cerameg, a phalmant sy’n galluogi dŵr i lifo drwyddo.
Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch i newid eich gardd, yn enwedig os ydych yn mynd i ddefnyddio deunyddiau sydd ddim yn gadael i ddŵr lifo drwyddynt
Gallwch dyfu planhigion a llystyfiant ar doeon, ar ôl paratoi’r arwyneb yn iawn gyda phridd a rhwystrau gwreiddiau.
Gall toeon gwyrdd wneud y canlynol:
Gallech wneud to eich tŷ, eich sied, eich cyntedd neu falconi yn wyrdd. Os yw to gwyrdd yn ymddangos fel prosiect mawr, gall plannu llwyni a phlanhigion ar doeau fflat helpu hefyd.
Dylech holi peiriannydd adeiladu cyn ymgymryd â phrosiect to gwyrdd ar gyfer eich tŷ, er mwyn sicrhau y gall gefnogi’r pwysau ychwanegol heb achosi difrod.