Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae dryswch a mythau am newid yn yr hinsawdd yn gyffredin. Nod yr adran hon yw archwilio rhai o'r camdybiaethau mwyaf cyffredin a'r ffeithiau y tu ôl iddynt.
Ceir mwy o garbon deuocsid yn yr atmosffer nawr nag y mae wedi bod ar unrhyw adeg dros y 650,000 o flynyddoedd diwethaf
Mae'n wir bod newidiadau naturiol yn hinsawdd y byd wedi digwydd yn y gorffennol - ond caiff hyn ei anwybyddu weithiau mewn achosion eithafol sydd wedi arwain at boblogaethau'n diflannu. Mae'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd o bosibl yn ganlyniad i newid mawr yn yr hinsawdd y mae pobl wedi'i achosi.
Mae carbon deuocsid yn nwy tŷ gwydr pwysig sy'n dal gwres ac mae faint ohono sydd yn yr atmosffer bellach yn uwch nag y mae wedi bod ar unrhyw adeg dros y 650,000 o flynyddoedd diwethaf. Er nad yw hyn yn newydd yn hanes y blaned, mae'n hollol newydd yn hanes dynoliaeth, a gallai wneud y byd yn lle mor elyniaethus fel na fyddai'n gallu cynnal bywyd.
Mae gwyddonwyr wedi bod yn tynnu sylw at y berthynas rhwng allyriadau nwyon a'r hinsawdd ers yr 1800au, ac maent wedi gweithio gyda llywodraethau i wneud rhywbeth ynglŷn â newid yn yr hinsawdd ers amser maith.
Yn 1988, sefydlodd y Cenhedloedd Unedig y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) - corff o wyddonwyr o bob cwr o'r byd sy'n asesu'r wybodaeth wyddonol a thechnegol orau sydd ar gael am newid yn yr hinsawdd.
Rhybuddiodd yr adroddiad a gyhoeddwyd ganddynt yn 2007 y bydd cynnydd o 1.1 i 6.4 gradd Celsius yn nhymheredd cyfartalog y byd erbyn diwedd y ganrif hon, yn dibynnu ar lefelau allyriadau yn y dyfodol. Dywedodd yr adroddiad hefyd bod newidiadau i'r hinsawdd yn "debygol iawn" (dros 90 y cant o debygrwydd, yn seiliedig ar wyddoniaeth bresennol) o fod o ganlyniad i weithgarwch pobl
Mae'r rhan fwyaf o wyddonwyr yn argyhoeddedig bod pobl yn effeithio ar yr hinsawdd o ganlyniad i'r ffordd y maent yn byw
Mae'r rhan fwyaf o wyddonwyr yn argyhoeddedig bod pobl yn effeithio ar yr hinsawdd o ganlyniad i'r ffordd y maent yn byw. Canolfan Hadley y Swyddfa Dywydd yw canolfan swyddogol y DU ar gyfer ymchwil ar newid yn yr hinsawdd. Cynhaliwyd astudiaeth ganddynt yn ddiweddar a brofodd mai canlyniad gweithgarwch pobl yw tymheredd y byd heddiw.
Mae gwyddoniaeth wedi dangos bod nwyon tŷ gwydr yn cadw'r ddaear yn gynnes, a cheir tystiolaeth bod crynodiadau'r nwyon hyn yn cynyddu, ac mai pobl sy'n gyfrifol am y cynnydd hwn drwy losgi tanwydd ffosil a thorri coedwigoedd.
Dangosodd adroddiad diwethaf yr IPCC bod yn rhaid i allyriadau byd-eang godi dros y ddau ddegawd nesaf ac yna gostwng ymhell o dan y lefelau presennol erbyn diwedd y ganrif os ydym am osgoi newid peryglus yn yr hinsawdd.
Mae hyn yn bosib, a gellir cyflawni hyn drwy ddefnyddio'r technolegau sydd ar gael nawr. Bydd gohirio'r broses o leihau nwyon tŷ gwydr yn ei gwneud yn anoddach ac yn ddrutach i leihau allyriadau yn y dyfodol, yn ogystal â chreu mwy o beryglon o ran effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Mae pob gostyngiad mewn allyriadau yn gwneud gwahaniaeth drwy beidio ag ychwanegu at y perygl. Mae gwledydd fel y DU mewn sefyllfa i roi enghraifft gadarnhaol i weddill y byd - os gall y DU ymateb i'r her, bydd eraill yn gwneud yr un fath.
Bydd newid yn yr hinsawdd yn arwain at aeafau cynhesach, ond bydd y tymheredd yn yr haf yn annioddefol, ac mae'n bosib y bydd yr hinsawdd hefyd yn annisgwyl ac yn eithafol. Mae perygl hefyd i lefel y môr godi ac y ceir tywydd eithafol fel stormydd a llifogydd. Bydd mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a sicrhau hinsawdd mwy sefydlog yn gwneud bywyd yn llawer mwy cyfforddus.
Nid oes yn rhaid i'r broses o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd achosi difrod i'r economi gyfan. Bydd yn rhaid i ddiwydiant addasu ac efallai y bydd swyddi'n newid - ond mae'n bosib y bydd mwy o swyddi'n cael eu creu yn gyffredinol. Gall defnyddio llai o ynni hefyd arbed arian i gwmnïau a chartrefi.
Ond mae peidio â mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn costio hefyd. Mae'r adroddiad Stern diweddar yn archwilio i effaith economaidd newid yn yr hinsawdd. Mae'n amcangyfrif y byddai peidio â gweithredu yn costio rhwng pump ac 20 y cant o wariant cenedlaethol (GDP) bob blwyddyn, am byth. O'i gymharu, gellir cyfyngu'r gost o leihau allyriadau er mwyn osgoi effeithiau gwaethaf newid yn yr hinsawdd i tua un y cant o GDP y byd bob blwyddyn.