Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Effeithiau newid yn yr hinsawdd

Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd i'w gweld yn y DU ac o amgylch y byd. Mae dyfroedd arfordirol Prydain eisoes wedi cynhesu ac mae'r tymheredd wedi codi. Yn fyd-eang, rhagwelir y bydd tywydd eithafol yn fwy cyffredin, a disgwylir i hyn gael effaith wael ar anifeiliaid, planhigion a chnydau.

Tymheredd yn codi

Yr 1990au oedd y degawd cynhesaf yng nghanol Lloegr ers dechrau cadw cofnodion yn yr 1660au. Erbyn hyn ceir mwy o gyfnodau o dywydd poeth yn ystod yr haf, a llai o rew yn y gaeaf.

Dros y byd dros y ganrif ddiwethaf, mae tymheredd cyfartalog yr atmosffer ger wyneb y ddaear wedi codi 0.74 gradd Celsius. Cofnodwyd unarddeg o'r 12 blwyddyn boethaf erioed rhwng 1995 a 2006.

Y consensws gwyddonol yw y gall tymheredd y byd godi rhwng 1.1 a 6.4 gradd yn uwch na lefelau 1980-1999 erbyn diwedd yr 21ain ganrif. Mae faint yn union y bydd yn codi yn dibynnu ar lefelau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y dyfodol.

Newidiadau yn lefelau a thymheredd y môr

Mae lefel y môr o amgylch y DU wedi codi

Mae dyfroedd arfordirol y DU wedi cynhesu tua 0.7 gradd Celsius dros y tri degawd diwethaf. Hefyd, mae lefel gyfartalog y môr o amgylch y DU bellach tua 10 cm yn uwch nag ydoedd yn 1900.

Gall lefel y môr godi o 18 i 59 cm dros y byd erbyn diwedd y ganrif. Os bydd lefel y môr yn codi gall foddi ynysoedd bach, isel a rhoi miliynau o bobl mewn ardaloedd isel mewn perygl o gael llifogydd.

Gallwch ddefnyddio Google Earth i weld sut y gallai newid yn yr hinsawdd effeithio ar dymheredd ac ar gapiau iâ dros y ganrif nesaf. Mae Google Earth hefyd yn gadael i chi weld silffoedd iâ'r Antartig a gollwyd dros y 70 mlynedd diwethaf.

Tywydd eithafol

Ers dechrau cadw cofnodion glaw yn 1766, mae mwy a mwy o law yn disgyn yn y gaeaf yng Nghymru a Lloegr. Dros y 45 mlynedd diwethaf mae'r glaw yn drymach hefyd; yn 2000, mewn rhai ardaloedd cafwyd yr achosion gwaethaf o lifogydd yn y DU ers 270 o flynyddoedd. Mae difrod yn sgil llifogydd bellach yn costio oddeutu £1 biliwn i Brydain bob blwyddyn.

Mae newid yn yr hinsawdd ledled y byd yn golygu y bydd tywydd eithafol, fel llifogydd, sychder a stormydd trofannol, yn digwydd yn amlach a byddant yn fwy peryglus.

Planhigion ac anifeiliaid

Gallai cynnydd yn nhymheredd y byd beri i rai rhywogaethau ddiflannu o'r tir

Ceir newidiadau eisoes i'r ffordd y mae planhigion ac anifeiliaid yn byw yn y wlad hon. Mae'r cyfnod rhwng y gwanwyn a'r hydref pan fydd planhigion yn tyfu bellach dros fis yn hirach yng nghanol Lloegr nag yr oedd yn 1900.

Bydd mwy o newidiadau i faint o law sy'n disgyn ac i'r tymheredd yn effeithio ar lawer o anifeiliaid a phlanhigion ledled y byd. Efallai na fydd rhai rhywogaethau'n gallu addasu'n ddigon cyflym, ac mae'n bosib na fydd cynefinoedd ar gael iddynt. Os bydd tymheredd y byd yn codi dwy radd Celsius, bydd mwy o berygl i 30 y cant o bob rhywogaeth sy'n byw ar y tir ddiflannu.

Cost newid yn yr hinsawdd

Mae Cymdeithas Yswirwyr Prydain yn amcangyfrif y bydd aelwydydd y DU yn talu hyd at bedwar y cant yn ychwanegol bob blwyddyn o ganlyniad i dywydd eithafol.

Disgwylir i gostau newid yn yr hinsawdd fod yn aruthrol, fel y nodwyd yn glir yn adroddiad Stern ar economeg newid yn yr hinsawdd. Mae'r adroddiad yn amcangyfrif y gallai peidio â gweithredu gostio rhwng pump ac 20 y cant o wariant byd-eang (GDP) bob blwyddyn, yn awr ac yn y dyfodol. O'i gymharu, oddeutu un y cant o GDP y byd bob blwyddyn fyddai cost lleihau allyriadau er mwyn osgoi effeithiau gwaethaf newid yn yr hinsawdd.

Bwyd a dŵr

Wrth i dymereddau gynyddu a phatrymau glaw newid, disgwylir i gynnyrch cnydau leihau yn sylweddol yn Affrica, y Dwyrain Canol ac India.

Bydd yn anos rhagweld faint o ddŵr fydd ar gael ar gyfer dyfrio ac ar gyfer yfed oherwydd bydd lefel y glaw yn fwy amrywiol. Wrth i lefel y môr godi, mae hefyd yn bosib y bydd yr halen yn llygru cyflenwadau dŵr ffres o dan y ddaear mewn ardaloedd arfordirol. Disgwylir y ceir cyfnodau o sychder yn amlach. Erbyn 2080, gallai hyd at dri biliwn o bobl wynebu prinder dŵr.

Clefyd

Wrth i dymereddau godi, bydd afiechydon fel malaria, afiechyd Nîl y Gorllewin, twymyn deng a dallineb afon yn symud i wahanol ardaloedd. Rhagwelir y gallai 290 miliwn ychwanegol o bobl fod mewn cyswllt â malaria erbyn y 2080au.

Fforestydd glaw

Mae'n bosib y caiff ardaloedd eang o fforestydd glaw Brasil a chanol Affrica eu colli os bydd newid yn yr hinsawdd yn arwain at lawer llai o law yn yr ardaloedd hyn. Byddai hyn yn ychwanegol at y fforestydd sydd eisoes yn cael eu torri er mwyn clirio'r tir ar gyfer amaethyddiaeth. Mae'r fforestydd hyn yn amsugno llawer o garbon deuocsid a fyddai'n cael ei ryddhau i'r atmosffer fel arall.

Beth allwch chi ei wneud

Mae heriau o'n blaen, ond rydym eisoes yn gwneud cynnydd. Mae gweithredu gan unigolion eisoes wedi helpu'r DU i gyrraedd ei thargedau ar gyfer lleihau allyriadau erbyn 2010. Gallwch helpu i ddylanwadu ar effeithiau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol drwy wneud pethau syml a chyflym fel newid eich bylbiau golau neu beidio â gadael eich peiriannau yn y modd segur.

Additional links

Ei wneud ar y we

Allweddumynediad llywodraeth y DU