Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yw un o'r prif heriau sy'n wynebu'r genhedlaeth hon, a'r cam cyntaf yw deall beth yn union yw newid yn yr hinsawdd. Yma, cewch wybod sut y canfuwyd arwyddion cyntaf newid yn yr hinsawdd, hanes yr ymdrechion i fynd i'r afael ag ef a'r datblygiadau diweddaraf.
Nid yw'r hinsawdd yn statig; dros y miliynau o flynyddoedd ers bodolaeth y byd, mae'r hinsawdd wedi newid lawer gwaith wrth ymateb i achosion naturiol.
Ond, pan fydd pobl yn sôn am 'newid yn yr hinsawdd' heddiw, sôn y maent am y newidiadau mewn tymheredd dros y 100 mlynedd diwethaf. Yn ystod y cyfnod hwn, mae tymheredd cyfartalog yr atmosffer ger wyneb y ddaear wedi codi 0.74 gradd Celsius.
Mae'r mwyafrif o wyddonwyr yn cytuno y bydd tymheredd y byd yn dal i godi – mae faint y bydd yn codi yn dibynnu ar allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y dyfodol. Os bydd y tymheredd yn codi llawer, mae'n debygol y bydd y newidiadau mor eithafol fel y bydd yn anodd ymdopi â nhw. Mae'n debygol y bydd mwy o dywydd eithafol, fel llifogydd a chorwyntoedd, yn amlach, a gallai lefel y môr godi mwy fyth.
Yn y 18fed a'r 19eg ganrif y cafwyd y darganfyddiadau cyntaf a fu'n gymorth i egluro newid yn yr hinsawdd:
Yn 1967, cyfrifodd efelychiadau ar gyfrifiadur y gallai tymheredd y byd godi mwy na phedwar gradd Fahrenheit, yn dibynnu ar lefelau carbon deuocsid.
20 mlynedd yn ddiweddarach, dangosodd colofn iâ o'r Antartica gyswllt rhwng lefelau carbon deuocsid a thymheredd a oedd yn dyddio yn ôl fwy na 100,000 o flynyddoedd. Roedd rhybuddion fel y rhain yn annog gweithredu rhyngwladol ar newid yn yr hinsawdd.
Yn 1979, cynhaliodd y byd y gynhadledd gyntaf ar hinsawdd. Roedd y gynhadledd yn galw ar lywodraethau i "ragweld ac i atal newidiadau a grëwyd i'r hinsawdd gan ddyn".
Y Cenhedloedd Unedig yn gweithredu
Yn 1988, sefydlodd y Cenhedloedd Unedig y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) i ddadansoddi ac i adrodd ar ganfyddiadau gwyddonol. Rhybuddiodd IPCC mai dim ond mesurau cadarn i atal allyriadau nwyon tŷ gwydr fyddai'n atal cynhesu byd-eang difrifol.
Targedau byd-eang ar gyfer lleihau allyriadau
Yn 1992, cynhaliwyd Uwch-gynhadledd y Byd yn Rio de Janeiro. Yma, llofnodwyd Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (UNFCCC) gan 154 o genhedloedd. Roedd yn cytuno i rwystro nwyon tŷ gwydr rhag cynhesu'r byd yn 'beryglus' ac yn pennu targedau gwirfoddol ar gyfer lleihau allyriadau. Mae'r DU yn un o nifer bach o wledydd a oedd yn cyrraedd y targed gwirfoddol hwn.
Kyoto: ymrwymo'n gyfreithiol i leihau allyriadau
Yn 1997, cytunwyd ar Brotocol Kyoto. Tra cytunodd yr UNFCCC ar dargedau gwirfoddol, Kyoto oedd y cytuniad rhyngwladol cyntaf i bennu ymrwymiadau cyfreithiol o ran lleihau allyriadau ar gyfer gwledydd diwydiannol. Fe'i llofnodwyd gan 178 o wledydd, a daeth i rym yn 2005.
Llofnododd y DU Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd a Phrotocol Kyoto, ac mae ar y trywydd iawn i ragori ar darged Kyoto ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Yn 2006, cyhoeddwyd adroddiad Stern yn y DU gan Drysorlys EM. Dyma'r adroddiad cyntaf o'i fath ar effaith economaidd newid yn yr hinsawdd. Canfuwyd bod costau peidio â gweithredu yn llawer mwy na chostau gweithredu.
Ym mis Tachwedd 2008, cymeradwyodd llywodraeth y DU y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd. Mae'r Ddeddf yn pennu targedau cyfreithiol i leihau 80 y cant ar lefelau allyriadau 1990 erbyn 2050.
Yn 2007, cyhoeddodd IPCC bod y blaned wedi cynhesu 0.74 gradd Celsius ers dechrau'r 20fed ganrif. Dywedodd bod dros 90 y cant o siawns mai gweithgarwch pobl dros y 50 mlynedd diwethaf sydd wedi achosi cynhesu byd-eang.
Yng nghynhadledd newid yn yr hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Bali yn 2007, cytunodd pob cenedl drwy'r byd ar gytundeb i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Byddai'r cytundeb hwn yn disodli Protocol Kyoto, a disgwylir iddynt gytuno ar y manylion yn Copenhagen yn 2009.
Mae rhai newidiadau i'r hinsawdd yn anochel, ond mae amser o hyd i ddylanwadu ar y dyfodol mewn ffordd gadarnhaol. Gallwch helpu i leihau newidiadau pellach gymaint â phosibl ac addasu i'r sefyllfa newydd drwy eich penderfyniadau a gweithredoedd. Darllenwch y camau syml y gallwch eu cymryd er mwyn gwneud gwahaniaeth yn 'Byw'n wyrdd: canllaw cyflym i beth allwch chi ei wneud'.