Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Teithio'n fwy gwyrdd: canllaw cyflym

Teithio personol sy'n achosi hyd at chwarter yr holl niwed y mae unigolion yn ei wneud i'r amgylchedd ledled Ewrop, gan gynnwys effeithiau newid yn yr hinsawdd. Gallwch leihau'r effaith a gaiff teithio ar newid yn yr hinsawdd mewn nifer o ffyrdd.

1. Ystyried teithio llai

Allwch chi gael yr hyn rydych chi ei eisiau'n agosach at adref, neu heb deithio o gwbl? Er enghraifft defnyddio cyfleusterau hamdden a siopau lleol, neu weithio o'ch cartref weithiau. Bydd lleihau eich teithio yn lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd a llygredd aer lleol.

2. Rhowch gynnig ar wahanol ffyrdd o fynd o le i le

Bydd gadael eich car gartref a cherdded, mynd ar gefn beic, neu ar fws neu drên yn helpu i leihau effeithiau negyddol gyrru. Mae hefyd yn bosib defnyddio mathau eraill o drafnidiaeth i deithio'n bellach, nid dim ond ar awyren.

3. Gyrru mewn ffordd sy'n defnyddio llai o danwydd

Gall gwneud newidiadau bach i'r ffordd yr ydych yn gyrru ddefnyddio llai o danwydd a lleihau'r effaith ar newid yn yr hinsawdd. Er enghraifft, gyrru'n llyfn, cadw at gyfyngiadau cyflymdra, a sicrhau bod digon o wynt yn y teiars. Gallech arbed gwerth mis o danwydd dros flwyddyn wrth yrru'n 'gallach'.

4. Prynwch gar mwy effeithlon

Gallech arbed yr hyn sy'n gyfystyr â thri mis o danwydd dros gyfnod o flwyddyn

Nid yw prynu car mwy gwyrdd yn golygu ei bod yn rhaid i chi gyfaddawdu – yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw dewis un sy'n defnyddio tanwydd yn fwy effeithlon. Mae gan geir newydd label sy'n dweud pa mor effeithlon ydynt o ran defnyddio tanwydd. Gall dewis car mwy effeithlon helpu i leihau allyriadau carbon a llygredd aer lleol, a bydd hyn yn aml yn arbed arian i chi ar dreth cerbyd ac ar daliadau eraill. Gallai car newydd sy'n defnyddio tanwydd yn effeithlon hefyd arbed yr hyn sy'n gyfystyr â gwerth tri mis o danwydd i chi dros gyfnod o flwyddyn.

5. Byddwch yn gyfrifol wrth gynnal a chadw eich cerbyd

Mae cerbydau sydd wedi'u cynnal a'u cadw'n dda'n tueddu i redeg yn fwy effeithlon. Yn aml, mae gwastraff o waith cynnal a chadw ceir - fel olew injan, hylifau eraill, batris a theiars - yn beryglus. Gall cael gwared ar yr eitemau hyn yn ddiofal achosi llygredd, ond bydd cyfleusterau gwastraff cynghorau'n gallu eu derbyn i'w gwaredu'n ddiogel.

6. Meddyliwch am rannu ceir neu ddefnyddio clybiau ceir

Ar ddiwrnod cyffredin ar ffyrdd Prydain, bydd pob cerbyd yn cario 1.6 person, sy'n gadael oddeutu 38 miliwn o seddi gwag

Mae rhannu car yn golygu dau neu fwy o bobl yn teithio gyda'i gilydd mewn un car am siwrnai gyfan neu am ran o siwrnai. Gall rhannu ceir leihau costau teithio, lleihau eich allyriadau carbon a rhoi gwell sicrwydd personol i chi wrth deithio yn ôl ac ymlaen i'ch car.

Gallech hefyd ymuno â chlwb ceir, sy'n sicrhau bod aelodau'n cael defnyddio cerbyd fesul awr, fesul dydd neu fesul wythnos. Fel arfer, caiff y cerbydau eu parcio yn ymyl eich cartref neu'ch gweithle. I rai pobl, mae ymuno â chlwb ceir gan wybod bod car at eu defnydd yn golygu nad oes angen iddynt fod yn berchen ar un.

Additional links

Cyfrifo eich ôl-troed carbon!

Defnyddio cyfrifiannell LLEIHAU'CH CO2 a chael gwybod sut y gallwch helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Allweddumynediad llywodraeth y DU