Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ym mhob rhan o'r DU, mae prosiectau a mentrau lleol ar waith sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd ac yn annog pobl a busnesau i fod yn fwy gwyrdd. Isod, nodir detholiad o rai o'r mentrau hyn.
Mae gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol gynlluniau amgylcheddol gyda'r nod o annog preswylwyr lleol i fod yn fwy gwyrdd - a gall y cynlluniau amrywio o ardal i ardal. Ewch i weld beth mae eich awdurdod lleol neu'ch cyngor yn ei wneud.
Gyda chefnogaeth Tîm Amgylcheddol y Gymuned, gall preswylwyr gymryd llain o dir a phlannu coed, llwyni a blodau – sy'n helpu bywyd gwyllt.
Mae'r cynllun ailgylchu Tri-bag wedi'i anelu at breswylwyr sy'n byw mewn ardaloedd lle ceir llawer o dai heb lawer o le, neu heb ddim lle, i finiau olwynion. Mae'n eu galluogi i wahanu gwastraff y gellir ei ailgylchu a'i roi mewn bagiau lliw.
Mae'r fenter Salford Pride yn codi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol yn yr ardal – a rhan o hynny yw darparu gwersi a chyngor gan athrawon am bynciau megis gwastraff ac ailgylchu.
Dros gyfnod o wyth wythnos, disodlwyd hen dyrbin dŵr y cyngor gydag un newydd, sy'n defnyddio pŵer Afon Wey i gynhyrchu trydan.
Mae prosiect lleol a redir gan elusen ac a gefnogir gan y cyngor yn casglu dodrefn ac eitemau trydanol dieisiau, yn eu hailwampio os oes angen, ac yna'n eu gwerthu'n rhad i bobl leol.
Mae tîm ‘Gwarcheidwaid ynni’ Leeds yn darparu cyngor arbed ynni diduedd ac am ddim i unrhyw un sy’n byw yn Leeds. Mae’r tîm yn cynnig archwiliadau ynni cartref, cyngor ar grantiau a hyfforddiant ar gyfer grwpiau.
Mae'r 'fforwm cynaliadwyedd' yn cyfarfod i drafod materion sy'n ymwneud â'r amgylchedd a chynaliadwyedd, ac i weithredu arnynt. Un llwyddiant fu sefydlu nifer o farchnadoedd ffermwyr lle gall pobl leol brynu cynnyrch ffres yn uniongyrchol gan gyflenwyr.
Mae'r cyngor yn rhedeg cyfeiriadur ar-lein manwl ar gyfer preswylwyr sy'n dangos iddynt beth i'w ailgylchu, ac ym mhle – o aerosolau i sipiau.
Cyngor Sir Kent – Cynllun 'newid clytiau’
Mae Cyngor Sir Kent yn ymroddedig i leihau gwastraff, ac maent yn rhedeg Gwasanaeth Clytiau Kent, sy’n darparu gwybodaeth a chyngor ar bob agwedd o ddefnyddio clytiau.
Gall preswylwyr gofrestru i dderbyn negeseuon e-bost yn rhoi gwybod iddynt am weithgareddau sydd wedi'u cynllunio a fydd yn effeithio ar yr amgylchedd lleol, cadwraeth, cefn gwlad a threfi.
Mae'r cyngor wedi datblygu gwefan i bobl leol ar y pwnc o fioamrywiaeth (yr amrywiaeth a'r nifer o wahanol organebau a ganfyddir o fewn rhanbarth benodol).