Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ailgylchu yn y cartref

Gellir ailgylchu bron i ddwy ran o dair o holl sbwriel y cartref, gan arbed ynni ac osgoi mynd â gwastraff i safleoedd tirlenwi. Yma, cewch wybod sut i ailgylchu amrywiaeth eang o nwyddau - o fatris i ddillad - a chewch ddarganfod sut y gallai ailgylchu helpu i warchod yr amgylchedd.

Pam ailgylchu?

Mae ailgylchu'n lleihau'r angen am safleoedd tirlenwi. Mae hefyd yn lleihau’r defnydd o ddeunyddiau newydd ac yn arbed ynni, gan helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Gall ailgylchu dim ond un can alwminiwm arbed digon o ynni i redeg set deledu am dair awr.

Beth y gallech chi ei ailgylchu

Bydd eich cyngor lleol yn gallu rhoi gwybod i chi ynglŷn â beth y gall ei ailgylchu a beth na all ei ailgylchu. Gall y rhan fwyaf o gynghorau ailgylchu papur, gwydr a phlastigau, ac mae rhai yn casglu metel a gwastraff organig hefyd. Mae biniau a banciau ailgylchu fel arfer yn dangos lluniau o beth allwch chi ei roi ynddynt.

Ailgylchu ym mhob cwr o’ch cartref

Gellir ailgylchu nifer o eitemau o’r gegin, gan gynnwys:

  • poteli llaeth a dŵr plastig
  • poteli cynhyrchion glanhau'r cartref
  • pecynnau gwydr (poteli a jariau)
  • gellir ailgylchu papur lapio a hambyrddau bwyd plastig weithiau, felly edrychwch ar y pecynnau i gael mwy o wybodaeth

Peidiwch ag anghofio ailgylchu eitemau o ystafelloedd eraill eich tŷ, megis:

  • o’r ystafell ymolchi, poteli siampŵ wedi’u golchi, pecynnau cardfwrdd a thiwbiau papur toiled
  • o’r ystafell wely, pecynnau deunydd ymolchi a cholur, a dillad nad oes arnoch chi eu heisiau
  • pan fyddwch yn golchi dillad, cynwysyddion powdr golchi a hylif golchi

Batris

Gall batris y gellir eu hailwefru, yn ogystal â batris na ellir eu hailwefru, gynnwys sylweddau peryglus, felly mae’n bwysig eich bod yn cael gwared arnynt yn y dull cywir:

  • gan ddechrau ym mis Chwefror 2010, bydd nifer o siopau ac archfarchnadoedd sy’n gwerthu batris yn darparu biniau casglu ar gyfer hen fatris
  • mae gan rai cynghorau gynlluniau casglu ac mae rhai’n darparu banciau ailgylchu batris - cysylltwch â’ch cyngor lleol i gael gwybod mwy
  • fel arall, ewch â’ch hen fatris, gan gynnwys batris car, i'ch safle amwynder dinesig lleol (canolfan gwastraff ac ailgylchu)

Dillad a thecstilau

Gellir ailgylchu dros hanner y dillad sy’n cael eu taflu. Mae’r rhan fwyaf o siopau elusen yn ailwerthu dillad, neu gallwch fynd â’r dillad nad oes arnoch chi eu heisiau i fanciau dillad. Mae rhai cynghorau hefyd yn derbyn tecstilau wrth gasglu pethau i’w hailgylchu oddi o garreg y drws.

Ffonau symudol

Mae ffonau symudol yn cael eu cynllunio i bara am lawer o flynyddoedd, felly ceisiwch gadw'ch ffôn am fwy o amser drwy osgoi uwchraddio os nad oes gwir angen gwneud hynny. Pan fydd angen i chi gael gwared â’ch ffôn symudol:

  • erbyn hyn, mae nifer o siopau’n cymryd hen ffonau yn ôl er mwyn eu hailgylchu
  • ceir mudiadau ac elusennau sy’n derbyn ffonau symudol ar gyfer eu hadnewyddu a’u hailgylchu
  • gallwch chi werthu eich ffôn ar wefan ocsiwn ar-lein

Cetris argraffu

Mae amryw o elusennau a mannau gwaith yn casglu cetris argraffu ar gyfer eu hail-lenwi. Mae mwy na thraean o’r 40 miliwn a ddefnyddir bob blwyddyn yn y DU eisoes yn cael eu hailgynhyrchu.

Lle y gallwch chi ailgylchu

Mae ailgylchu o garreg y drws ar gael i naw cartref ym mhob deg.

Mae nifer o gynghorau yn casglu pethau i’w hailgylchu yn uniongyrchol o du allan eich cartref. Gelwir hyn yn ailgylchu o garreg y drws a gall eich cyngor roi gwybod i chi am amseroedd a dyddiadau casgliadau. Mae’r rhan fwyaf o gynghorau hefyd yn darparu biniau a banciau ailgylchu yn y gymuned.

Mae’r dolenni isod yn gofyn i chi deipio manylion ble'r ydych chi'n byw cyn mynd â chi at wefan eich cyngor lleol. Cewch wybod am fannau casglu ac am sut y gallwch chi ailgylchu mwy.

Rhestr gyflawn o eitemau y gallwch eu hailgylchu

Gellir ailgylchu ystod eang o bethau eraill - cewch wybod mwy ar wefan RecycleNow.

Cofio ailgylchu

Gwnewch hi’n haws i gofio ailgylchu drwy wneud y canlynol:

  • rhoi eich bin ailgylchu drws nesaf i’r bin ysbwriel
  • nodi ar eich calendr neu ar eich oergell pryd gaiff eich bin ailgylchu ei gasglu, yn ogystal â beth y gellir ei ailgylchu a beth na ellir ei ailgylchu

Pam mae gwasanaethau ailgylchu yn amrywio ar draws y DU?

Gall y gwasanaeth ailgylchu rydych chi’n ei gael amrywio o gyngor i gyngor. Mae hyn oherwydd:

  • bod angen ymdopi â heriau gwahanol wrth gasglu deunydd mewn ardaloedd gwledig neu drefol
  • bod y safleoedd tirlenwi sydd ar gael yn amrywio o le i le
  • bod gan rai cynghorau fynediad gwell at offer didoli neu ei bod yn haws i rai cynghorau ddod o hyd i brynwyr ar gyfer y deunyddiau maent wedi ei gasglu

Holwch eich cyngor lleol i gael mwy o wybodaeth.

Beth yw gwerth ailgylchu?

Dywed saith ym mhob deg unigolyn yn y DU ei fod yn ailgylchu.

Mae’n bwysig eich bod yn ailgylchu, beth bynnag yw’r hinsawdd economaidd; mae’n arbed ynni, yn lleihau’r defnydd o ddeunyddiau crai ac yn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Mae’n bosib bod y dirywiad economaidd byd-eang wedi arwain at ostyngiad yn y galw am ddeunyddiau a ailgylchwyd, ond mae 95 y cant o’r deunydd sy’n cael ei roi allan ar gyfer ei ailgylchu yn y DU yn dal i gael ei ailgylchu.

Mae ailgylchu bron bob amser yn well opsiwn na llosgi neu yrru gwastraff i safleoedd tirlenwi. Yn 2008, bu i ailgylchu gwastraff o’r cartref arbed yr un faint o C02 ag y byddai bron i filiwn o deithiau dwyffordd o Lundain i Sydney yn ei gynhyrchu.

Allweddumynediad llywodraeth y DU