Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Defnyddir swm syfrdanol o ynni a dŵr i gynhyrchu dodrefn a lloriau. Gallwch wneud gwahaniaeth drwy ddewis pren a dodrefn a gynhyrchwyd yn gynaliadwy, a gosod ffitiadau sy’n defnyddio ynni a dŵr yn effeithlon yn eich cartref.
Gall dodrefn sydd wedi cael ei wneud o goed sydd wedi’u torri’n anghyfreithlon gyfrannu tuag at y newid yn yr hinsawdd
Gall eich dewis chi o ddodrefn ar gyfer eich cartref gael effaith ar yr amgylchedd. Er enghraifft, gall pren neu ddodrefn sydd wedi cael ei wneud o goed sydd wedi'u torri'n anghyfreithlon arwain at golli cynefinoedd a chyfrannu tuag at y newid yn yr hinsawdd. Gall dewis ffitiadau dŵr neu olau mwy effeithlon yn y cartref gostio llai o arian i chi eu rhedeg, yn ogystal â helpu i arbed ynni.
Defnyddir ynni ac adnoddau i gynhyrchu lloriau a dodrefn, a gallai hyn beri niwed i'r amgylchedd mewn ffyrdd eraill. Gallwch chi helpu drwy wneud y canlynol:
Gallwch ddod o hyd i ddodrefn pren neu loriau wedi'u gwneud o bren a gynhyrchwyd mewn modd cynaliadwy mewn siopau neu ar y rhyngrwyd.
Chwiliwch am labeli gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth (FSC), y Rhaglen er Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC), neu gynlluniau ardystio coedwigoedd eraill. Gallwch holi eich adwerthwr ynghylch cynlluniau ardystio.
Chwiliwch am baent sydd â’r cynnwys VOC lleiaf posibl
Mae sawl math o baent, gludyddion a farneisiau yn gollwng cyfansoddion organig anweddol (VOCs). Gallant wneud niwed i'r amgylchedd drwy adweithio gyda chemegau eraill i gynhyrchu'r hyn a elwir yn oson ar lefel yr arwyneb.
Pan fyddwch yn dewis triniaeth, glud neu farnais, edrychwch ar y labeli cynnyrch i weld y cynnwys VOC cyn i chi ei brynu. Ceisiwch ddod o hyd i'r un gyda'r cynnwys VOC lleiaf posibl.
Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i arbed dŵr wrth osod ffitiadau newydd:
Gall bylbiau golau rhad-ar-ynni ddefnyddio pum gwaith yn llai o drydan na hen fylbiau golau confensiynol, sy'n golygu llai o ollyngiadau carbon. Byddant yn gweithio mewn ffitiadau a lampau arferol.
Dysgwch sut mae ailgylchu'ch hen bethau nad oes arnoch eu heisiau mwyach:
Dim ond os yw'r label diogelwch tân parhaol gwreiddiol yn dal ynghlwm iddo y cewch roi, prynu neu werthu dodrefn ail-law wedi’i glustogi, megis soffa. Fel arall, efallai na fyddai’n bodloni safonau diogelwch tân. I gael rhagor o wybodaeth, gweler gwefan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau (BIS).