Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gwneud dillad yn gallu defnyddio llawer o ynni a dŵr a llygru'r amgylchedd. Weithiau, bydd pobl sy’n gwneud dillad yn gweithio dan amgylchiadau gwael ac ni fyddant yn cael pris teg. Gallwch chi wneud gwahaniaeth drwy brynu dillad a fydd yn para, drwy chwilio am labeli Masnach Deg ac organig a drwy olchi dillad ar 30 gradd.
Gall yr awgrymiadau canlynol eich helpu chi i wneud dewisiadau mwy gwyrdd wrth brynu dillad.
Mae prynu dillad a fydd yn para, yn hytrach na phrynu llawer o ddillad y byddwch chi’n eu defnyddio ychydig o weithiau ac wedyn yn eu taflu, yn helpu i leihau gwastraff, llygredd a newid yn yr hinsawdd.
Gallwch chi ddewis dillad sy’n achosi llai o ddifrod i’r amgylchedd. Er enghraifft:
Mae’r Marc MASNACH DEG/FAIRTRADE ar ddillad yn gwarantu bod y bobl sy’n gwneud y dillad wedi cael pris teg a bod y gweithwyr wedi cael eu trin yn deg. Mae safonau Masnach Deg hefyd yn golygu bod yn rhaid i gynhyrchwyr ddiogelu’r amgylchedd naturiol, drwy ddefnyddio llai o gemegolion niweidiol, er enghraifft.
Gallwch chi brynu dillad organig, dillad Masnach Deg a dillad wedi’u hailgylchu ar y stryd fawr ac ar-lein. Os na allwch chi ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, neu os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch chi am ddewisiadau mwy gwyrdd, holwch yn y siopau. Po fwyaf y bydd pobl yn eu holi, y mwyaf y bydd y siopau’n ystyried cynnig dewisiadau mwy gwyrdd.
Y dyddiau hyn, mae hylif a phowdr golchi yn gallu golchi lawn cystal ar 30 gradd
Defnyddiwch y ddolen isod i gael gwybod sut gallwch chi arbed ynni ac arian drwy:
Mae dal i ddefnyddio dillad, yn hytrach na’u taflu, yn gallu golygu llai o wastraff a bod angen llai o ynni i wneud dillad newydd. Ceisiwch wneud y canlynol:
Gallwch chi fynd â'ch hen ddillad i fanciau ailgylchu - mae mwy na 6,000 ohonynt ar gael drwy'r wlad. Os byddwch chi’n ailgylchu esgidiau, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n clymu parau gyda’i gilydd er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu gwahanu.
Bydd eitemau y mae modd eu defnyddio’n cael eu gwerthu, naill ai drwy siop elusen yn y DU neu dramor. Bydd eitemau nad ydyn nhw’n addas i’w hailddefnyddio yn cael eu troi’n gynnyrch arall, fel padin ar gyfer matresi neu glustogwaith.
Mae gwneud dillad yn gallu niweidio’r amgylchedd mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft:
Bob blwyddyn ym Mhrydain, bydd pobl yn prynu oddeutu 2 miliwn tunnell o ddillad ac yn taflu oddeutu 1.2 miliwn tunnell. Mae’r niferoedd mawr hyn yn golygu bod yr holl broblemau amgylcheddol yn waeth byth.
Mae oddeutu un rhan o bump o’r dillad sy’n cael eu prynu ym Mhrydain yn rhai ‘ffasiwn cyflym’, pris isel sy’n cael eu disodli’n gyflym gan rai newydd. Fodd bynnag, mae cynhyrchu’r dillad hyn yn rhad yn gallu arwain at broblemau. Er enghraifft: