Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Caiff dros £1 biliwn ei wario ar gynhyrchion glanhau bob blwyddyn yn y DU – ond mae nifer o gynhyrchion glanhau modern yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd. Gall dethol a defnyddio cynhyrchion glanhau yn ofalus wneud gwahaniaeth.
Mae rhai cemegau yn cyrraedd yr afonydd a'r môr
Mae nifer o’r cemegau a ddefnyddir yn y cartref yn amhrisiadwy, ond gall rhai, er enghraifft ffosffadau mewn hylifau glanhau, grynhoi ac achosi niwed i’r amgylchedd.
Mae dŵr gwastraff y cartref o’r sinc, o’r toiled, o’r peiriant golchi dillad ac o’r bath yn llifo i mewn i garthffosydd. Mae’r dŵr gwastraff yna’n llifo i weithfeydd trin, cyn cyrraedd yr afonydd, y llynnoedd a’r moroedd. Bydd y rhan fwyaf o'r cemegau sydd mewn dŵr gwastraff yn cael eu tynnu ohono wrth drin y dŵr, ond mae'n anochel y bydd rhywfaint yn cyrraedd yr afonydd a'r môr, lle gallant beri niwed i fywyd gwyllt.
Mae golchi dillad ar 30 gradd yr un mor effeithiol
Gallwch wneud nifer o bethau er mwyn bod yn fwy gwyrdd wrth lanhau yn eich cartref:
Dyma rai pethau i feddwl amdanynt:
Mae Ecolabel yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn gwarantu y bydd y cynnyrch yn peri llai o berygl i'r amgylchedd ac i iechyd pobl, neu'n atal y perygl hwnnw.
Nid yw’r holl gemegau sydd mewn cynhyrchion glanhau yn niweidiol i’r amgylchedd. Fodd bynnag, os ydych chi am leihau faint o gemegau rydych chi’n eu defnyddio, mae nifer o sylweddau a ddefnyddir o ddydd i ddydd yn hylifau glanhau effeithiol. Er enghraifft, mae finegr a dŵr cynnes yn gwneud glanhawr ffenestri gwych, a gallwch ddefnyddio halen i sgwrio llestri budr.