Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Blodau a phlanhigion: dewisiadau mwy gwyrdd

Mae'r rhan fwyaf o flodau wedi eu torri a werthir yn y DU wedi eu mewnforio. Golyga hyn eu bod yn aml wedi teithio ar awyrennau a lorïau sydd ag oergelloedd ynddynt am filoedd ar filoedd o filltiroedd. Gall gwrteithiau a phlaladdwyr cyffredin a ddefnyddir wrth dyfu blodau'n fasnachol gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd.

Rhai dewisiadau mwy gwyrdd

Blodau a phlanhigion a dyfir mewn dull organig a chynaliadwy
Drwy dyfu cynnyrch mewn dull organig, osgoir defnyddio plaladdwyr a gwrteithiau artiffisial. Ni ddefnyddir cynlluniau ardystio organig ar gyfer blodau a phlanhigion tŷ yn helaeth yn y DU ar hyn o bryd.

Osgoi mawn
Os oes modd, ceisiwch osgoi prynu planhigion a dyfwyd mewn mawn. Efallai na fydd yn hawdd i chi ganfod hyn, ond bydd rhai adwerthwyr yn gallu dweud wrthych, yn enwedig y rhai hynny sy'n tyfu eu planhigion ar y safle.

Blodau tymhorol lleol
Gall blodau lleol tymhorol wedi eu torri fod yn ddewis gwell i'r amgylchedd oherwydd ei bod yn llai tebygol iddynt gael eu cludo'n bell ar awyren neu eu gwresogi yn ystod y broses gynhyrchu.

Planhigion mewn potiau
Os prynwch blanhigyn tŷ yn hytrach na blodau ffres, bydd yn ffiltro llygryddion o'r aer yn yr ystafell lle cedwir ef, ac felly'n cael effaith fanteisiol.

Y mater ehangach

Mae mwyafrif llethol y blodau a brynir yn y wlad hon wedi'u mewnforio, a chan fod yn rhaid i flodau gyrraedd cwsmeriaid o fewn ychydig ddyddiau o gael eu torri byddant fel arfer yn cael eu cludo ar awyren gydag oergelloedd arni (os ydynt yn dod o'r tu allan i Ewrop) neu mewn lorïau gydag oergelloedd ynddynt (os ydynt yn dod o Ewrop). Mae cludo blodau mewn awyren a'u cadw'n oer yn cyfrannu at effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Bydd blodau i'w torri yn aml yn cael eu tyfu gan ddefnyddio gwrtaith, ac yn cael eu trin gyda phlaladdwyr. Gall y mathau hyn o gemegau beri niwed i'r amgylchedd, gan achosi llygredd dŵr ac arwain at golli bioamrywiaeth.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU