Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Eich hawliau - moduro a thrafnidiaeth

Mae rhan 3 Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yn rhoi hawliau mynediad i bobl anabl mewn perthynas â'r seilwaith teithio, trafnidiaeth a moduro, megis gorsafoedd trenau, meysydd awyr ac asiantau teithio.

Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a thrafnidiaeth cyhoeddus

Mae cerbydau'n dod o dan ddarpariaethau ar wahân yn y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac mae rheoliadau mynediad wedi'u cyflwyno i hwyluso mynediad i fysus a threnau.

Mae pecyn tebyg ar gyfer tacsis yn cael ei ddatblygu.

Os ydych yn defnyddio cadair olwyn, mae’r cyhoeddiad ‘Wheels within wheels: a guide to using a wheelchair on public transport', a gynhyrchwyd gan Ricability a’r Adran Drafnidiaeth, yn dweud i chi beth y gallwch ei disgwyl gan drenau, bysus, bysus moethus a thacsis mwy newydd.

Mae'r Ddeddf hefyd yn golygu bod gennych hawl i wybodaeth am drafnidiaeth - amserlenni, er enghraifft - ar ffurf sy'n hwylus i chi lle mae'n rhesymol i'r darparwr trafnidiaeth ei darparu yn y ffurf honno.

Bysus a bysus moethus

Ers mis Rhagfyr 2000, mae bysus a bysus moethus newydd sy’n cael eu defnyddio ar wasanaethau lleol a rheolaidd ac sy’n gallu cludo mwy na 22 teithiwr wedi gorfod cydymffurfio â Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus.

Mae rhai pobl anabl yn gymwys ar gyfer tocyn mantais bws. Mae hyn yn golygu eu bod yn gallu gwneud cais i’w cyngor lleol am docyn bws am ddim. Mae’r meini prawf cymhwyster yr un peth ar draws y DU, ond mae’r amseroedd ac ardaloedd ble gellir defnyddio’r tocyn yn amrywio rhwng Lloegr, Cymru a’r Alban.

Tacsis

Dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, rhaid i yrwyr tacsis trwyddedig yng Nghymru a Lloegr gludo cŵn cymorth, cŵn tywys, cŵn clywed a chŵn eraill yn eu tacsis, a hynny heb godi tâl. Daeth dyletswyddau tebyg i rym ar gyfer cerbydau hurio preifat (minicabs) o 31 Mawrth 2004.

Trenau

Er mis Rhagfyr 1998, mae pob cerbyd trên newydd wedi gorfod cydymffurfio â Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Trên.

Moduro

Dysgu gyrru

17 yw'r oed ieuengaf fel arfer ar gyfer gyrru car. I unrhyw un sy’n derbyn y gyfradd uwch o'r Lwfans Byw i'r Anabl (yr elfen symudedd), yr oed ieuengaf yw 16.

Yswiriant

Dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, gall yswirwyr godi premiymau uwch ar bobl anabl dim ond os yw'r tâl ychwanegol yn seiliedig ar ddata ffeithiol neu ystadegol, neu os oes ffactorau perthnasol eraill sy'n nodi bod person anabl yn cyflwyno mwy o risg.

A

Pwyllgor Ymgynghorol ar Gludiant Pobl Anabl

Sefydlwyd y Pwyllgor Ymgynghorol ar Gludiant Pobl Anabl fel corff annibynnol i gynghori'r Llywodraeth ar anghenion cludiant pobl anabl ar draws y DU. Mae'r Pwyllgor hefyd yn rhoi cyngor ar y rhwystrau a wynebir gan bobl anabl sy'n cael eu creu gan y ffordd y mae dyluniad adeiladau, strydoedd a mannau agored yn cael eu rheoli a'u gweithredu a sut y gellid goresgyn y rhain.

Cymorth a chyngor wrth y Comisiwn Hawliau Anabledd

Mae'r Comisiwn Hawliau Anabledd yn ffynhonnell dda o gyngor os ydych yn teimlo eich bod wedi cael eich gwahaniaethu mewn Addysg neu faes arall. Mae'r llinell gymorth Comisiwn Hawliau Anabledd yn darparu cyngor a gwybodaeth ynghylch y Ddeddf Gwahaniaethu Anabledd i bobl anabl, cyflogwyr, darparwyr gwasanaethau, ysgolion a chydweithwyr, a ffrindiau a theuluoedd i bobl anabl.

Ffôn: 08457 622 633

Ffôn testun: 08457 622 644

Ffacs: 08457 778 878

Mae'r llinellau ar agor ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener rhwng 9.00 am a 5.00 pm; dydd Mercher rhwng 8.00am a 8.00pm.

Allweddumynediad llywodraeth y DU