Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mawrth, 2 Hydref 2012

Hamdden

Yn yr adran hon fe gewch wybod sut i gymryd mwy o ran mewn chwaraeon a gwneud mwy yn eich amser rhydd.

Chwaraeon

Nid yn unig y bydd chwaraeon yn eich cadw'n iach ac yn heini, mae hefyd yn gyfle i fynd allan o'r tŷ, ac nid oes rhaid iddo gostio ceiniog i chi.

Os ydych yn nofiwr brwd ac yn byw yn Lloegr, mae dros 200 o awdurdodau lleol ledled Lloegr yn cynnig nofio am ddim i bawb o dan 16 oed. Os ydych am ddysgu sut mae nofio, mae dros 100,000 o wersi am ddim ar gael hefyd.

Hyd yn oed os nad yw'ch awdurdod lleol yn cynnig nofio am ddim ar gyfer rhai dan 16 oed, bydd dal yn bosib i chi ddefnyddio pwll nofio am ddim mewn ardal gyfagos sy'n cymryd rhan yn y cynllun.

Cychwyn prosiect cymunedol

Wyddech chi fod miliynau o bunnoedd ar gael i greu prosiectau lleol y gall pobl ifanc eu defnyddio?

Os ydych chi'n meddwl nad oes digon o weithgareddau a chyfleusterau i bobl ifanc yn eu harddegau yn eich cymdogaeth, byddai'ch awdurdod lleol yn hoffi clywed gennych.

Rhoi terfyn ar newid yn yr hinsawdd

Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud yn eich cartref er mwyn rhoi terfyn ar gynhesu byd-eang ac arbed ynni.

Gall ychydig o newidiadau wneud gwahaniaeth gwirioneddol os bydd pawb yn mynd ati i'w cyflawni.

Dosbarthiadau a chlybiau ieuenctid yn eich ardal chi

Efallai fod eich awdurdod lleol yn rhedeg clybiau ieuenctid neu ganolfannau galw heibio lle gallwch weld eich ffrindiau a chwrdd â phobl eraill.

Gallwch hefyd holi a yw'ch awdurdod lleol yn rhedeg unrhyw ddosbarthiadau a all fod o ddiddordeb i chi. Gallant drefnu pob math o weithgareddau, gan gynnwys grwpiau drama a dosbarthiadau chwaraeon, heb i chi hyd yn oed sylweddoli hynny.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Syniadau ar gyfer eich amser rhydd

Os nad oes gennych ddim i'w wneud, darllenwch ein syniadau ar gyfer sut i dreulio'ch amser rhydd. O roi cynnig ar chwaraeon, i ddysgu sgìl newydd a chanfod mwy am eich hanes lleol, mae rhywbeth ar gael i bawb.

Allweddumynediad llywodraeth y DU