Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Amser i ffwrdd o ofalu

Mae angen amser i chi’ch hun ar bawb. Gall cael amser i chi'ch hun wneud gwahaniaeth mawr i chi a'r sawl yr ydych yn gofalu amdano.

Gofyn am help gan y teulu neu ffrindiau

Os ydych yn gyfforddus â’r syniad, gofynnwchy deulu, ffrindiau neu gymydog efallai ddarparu ychydig o ofal. Gallai hyn olygu awr neu ddwy yr wythnos er mwyn i chi gael ymlacio neu fynd i weld ffrindiau.

Efallai y gall grŵp gofal lleol ddarparu hanner diwrnod o ofal ryw unwaith neu ddwy y mis. Ceir grwpiau gofalwyr mewn sawl rhan o'r wlad. Mae gan rai ardaloedd weithwyr sy'n gweithio gyda gofalwyr i gydlynu grwpiau a chael cefnogaeth i bobl.

Gofal tymor byr

Mae rhai awdurdodau lleol yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau er mwyn rhoi seibiant i ofalwyr. Weithiau, efallai mai dim ond ychydig o ddewis sydd ar gael neu efallai bod yn rhaid aros amdanynt. Mae'n bwysig cael gwybod pa wasanaethau sydd ar gael a sut i gael gafael arnynt.

Dyma rai gwasanaethau a allai'ch helpu i gael seibiant:

  • gwasanaeth gwarchod yn ystod y dydd er mwyn siopa, ymweld â ffrindiau a gweithgareddau eraill
  • gwasanaeth gwarchod yn ystod y nos er mwyn i chi gael noson dda o gwsg
  • cyfnod dros dro mewn cartref gofal i'r sawl y byddwch yn gofalu amdano
  • trefnu i'r person sy'n cael gofal dreulio amser mewn canolfan ddydd
  • cyfle i'r sawl sy'n cael gofal i fynd allan gydag eraill, gan roi amser i chi ar eich pen eich hun gartref

Gwyliau byr

Gallai'ch cyngor lleol weithio gyda mudiadau gwirfoddol neu elusennau ar draws y wlad a defnyddio darparwyr seibiannau byr arbenigol er mwyn rhoi seibiant i chi.

Gellir darparu seibiant mewn sawl ffordd ac nid yw o angenrheidrwydd yn golygu mynd oddi cartref.

Nid yw seibiant tymor-byr o angenrheidrwydd yn golygu mynd oddi cartref, ond yn aml y mae’n golygu hyn.

Fel arfer, mae naill ai'r gofalwr neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn mynd ar seibiant byr. Ceir seibiannau lle y gallwch chi a’r person yr ydych yn gofalu amdano aros gyda’ch gilydd os ydych eisiau.

Yr hyn sy'n bwysig yw eich bod chi, a'r sawl yr ydych yn gofalu amdano, yn hapus gyda'r trefniadau sy'n cael eu gwneud.

Talebau

Mae’n bosib y bydd modd i chi a’r person yr ydych yn gofalu amdano dderbyn talebau gan eich cyngor lleol ar gyfer seibiannau tymor-byr. Bydd hyn yn rhoi i chi’r rhyddid i ddewis pryd i gael seibiant a ble i fynd. Nid yw’r cynlluniau hyn ar gael ymhob man ac felly holwch eich gwasanaethau cymdeithasol lleol.

Gwneud cais am seibiant tymor-byr i ofalwr lleol

Gallwch lenwi manylion am ble yr ydych yn byw yn y ddolen ganlynol, bydd hyn wedyn yn eich tywys i wefan eich awdurdod lleol, ble gallwch wneud cais am seibiant tymor byr a/neu gael gwybod mwy.

Allweddumynediad llywodraeth y DU