Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cyfnodau dros dro mewn cartref gofal

Os nad ydych yn siwr mai symud yn barhaol i gartref gofal yw'r peth iawn i chi, efallai mai cyfnod dros dro fyddai'r ateb.

Efallai y penderfynwch y gall gofal dydd mewn cartref gofal roi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.

Beth y gall ei ddarparu

Gall cyfnod dros dro mewn cartref gofal roi seibiant i chi a'ch gofalwr, os oes gennych un - gelwir hyn weithiau yn ofal seibiant. Gall cyfnod dros dro ddarparu:

  • gofal ar ôl i chi fod yn sâl neu ar ôl i chi fod mewn ysbyty
  • cefnogaeth os ydych newydd ddod yn anabl
  • egwyl (gofal seibiant) i chi a/neu eich gofalwr
  • egwyl os ydych yn byw ar eich pen eich hun er mwyn i chi barhau i fyw'n annibynnol
  • cyfle i ddod i adnabod cartref gofal penodol sy'n addas ar gyfer eich anghenion chi os ydych yn ystyried gofal parhaol

Nid yw'n hawdd bob amser trefnu gofal dros dro gan fod yn rhaid cael lle gwag yn y cartref gofal. Fodd bynnag, mae llawer o gartrefi gofal yn cadw ystafelloedd dim ond ar gyfer gofal yn y tymor byr.

Dylech wneud yn siwr fod gan y cartref gofal y cyfleusterau a'r staff gyda'r profiad perthnasol i ddarparu cefnogaeth ar gyfer eich anabledd neu eich anghenion penodol chi. Mae'n syniad da ymweld â'r cartref gofal i ddechrau er mwyn i chi eich hun weld y cyfleusterau.

Cyllido cyfnodau dros dro

Os gallwch dalu cost lawn eich gofal dros dro, gallwch wneud eich trefniadau'ch hun. Mae ffioedd gwahanol gartrefi gofal yn amrywio llawer, ac felly mae'n syniad da holi sawl cartref gofal.

Gallwch ofyn i'ch cyngor lleol eich asesu ar gyfer gwasanaethau gofal seibiant. Os yw'r asesiad yn nodi bod angen gofal arnoch, efallai y gallant helpu i dalu amdano. Gall hyn gynnwys yr un prawf modd fel pe bai'r symud yn barhaol.

Gallwch ofyn i'ch cyngor lleol am eu trefniadau codi tâl. Efallai y gallwch hawlio Cymhorthdal Incwm tuag at gost eich arhosiad.

Mae gan ofalwyr hawl i asesiad ar gyfer eu hanghenion iechyd a lles eu hunain. Gall hwn gynnwys cymorth gyda gofal tymor byr ar gyfer y person y mae'n gofalu amdano.

Defnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am gyfnod aros dros dro

Bwriad y taliadau uniongyrchol yw cefnogi unigolion sy'n byw'n annibynnol yn eu cartrefi'u hunain. Os yw'r cyngor lleol yn cytuno bod angen i chi fynd i aros dros dro mewn cartref gofal, efallai y gallwch ddefnyddio'ch taliadau

Cyfnodau aros dros dro gyda nyrsio

Gallwch ofyn i'ch awdurdod iechyd eich asesu ar gyfer gofal seibiant gyda nyrsio - os ydych yn gymwys ar gyfer y math hwn o ofal, dylai eich awdurdod iechyd dalu. Gallwch ofyn i'ch awdurdod iechyd am gopi o'u meini prawf cymhwysedd.

Gofal dydd

Mae llawer o gartrefi gofal yn cynnig gwasanaethau gofal dydd i bobl sydd am barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain.

Gallwch fynd i gartref gofal am ofal dydd bob diwrnod neu am un neu ddau ddiwrnod yr wythnos. Gall eich cyngor lleol roi gwybod i chi am y cartrefi gofal sy'n cynnig gwasanaethau gofal dydd yn eich ardal. Os cewch asesiad sy'n nodi bod angen gwasanaethau gofal dydd arnoch, gallant drefnu i'w darparu ar eich cyfer.

Allweddumynediad llywodraeth y DU