Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Eich cartref gofal, eich anifeiliaid anwes a'ch eiddo personol

Pan fyddwch chi'n ystyried symud i gartref gofal, mae'n bosib y byddwch chi'n poeni am beth fydd yn digwydd i'ch anifeiliaid anwes, eich dodrefn a'ch eiddo personol arall. Mae'n bwysig holi am bolisi cartref gofal ynglŷn ag anifeiliaid anwes a dodrefn ac yn y blaen cyn symud.

Cyn dewis cartref gofal, dylech bob amser ymweld â'r cartrefi sy'n apelio fwyaf atoch. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi siarad â'r staff a'r preswylwyr am eich pryderon.

Anifeiliaid Anwes

Os na allwch fynd â'ch anifail anwes i'r cartref gofal, ac os ydych yn cael trafferth dod o hyd i gartref newydd ar ei gyfer, mae sawl mudiad yn gallu helpu.

Mae gan wefan y Gymdeithas Frenhinol er atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA) wybodaeth ddefnyddiol am ddod o hyd i gartref newydd i anifeiliaid anwes.

Dodrefn ac eiddo personol

Efallai y gallwch fynd â rhywfaint o'ch dodrefn eich hun ac eiddo personol arall i gartref gofal. Cyn i chi symud, mae'n bwysig cael gwybod beth yn union y gallwch ddod i'r cartref gyda chi.

Efallai fod gennych ddarnau mawr o ddodrefn nad yw'n hawdd eu symud i'r cartref gofal. Gallech chi:

  • eu gwerthu
  • eu storio
  • eu rhoi i ffrindiau a theulu
  • gofyn i'ch awdurdod lleol gael gwared arnynt

Gallech hefyd roi eitemau i elusen. Bydd rhai elusennau'n casglu dodrefn ac eiddo arall o'ch cartref yn ddi-dâl.

Cael gwybod am gasgliadau arbennig ar gyfer eitemau mawr yn lleol

Gall adran sbwriel ac ailgylchu eich cyngor lleol ddarparu gwasanaeth casglu ar gyfer eitemau mawr nad ydych am eu cadw. Efallai y codir tâl am hyn. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU