Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ceir cannoedd o wahanol fathau o gartrefi gofal yn y DU sy'n cynnig llu o wahanol fathau o wasanaethau. Mae rhai'n cynnig gofal nyrsio amser llawn, mae eraill yn cefnogi pobl gydag anabledd penodol neu angen meddygol.
Mae cartrefi gofal yn cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol, cwmnïau preifat neu gwmnïau di-elw.
Gall eich cyngor lleol eich helpu chi i ddod o hyd i gartref gofal a fydd yn diwallu'ch anghenion, neu mae gan y Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol restr o'r holl gartrefi gofal rhestredig yn Lloegr.
Mae elusennau'n sy'n cynnig cefnogaeth ar gyfer anableddau penodol yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn ac efallai fod ganddynt restrau o gartrefi gofal sy'n cynnig cefnogaeth arbenigol a staff profiadol.
Ystyriaeth bwysig wrth ddewis cartref gofal yw a oes angen cartref arnoch sy'n cynnig gofal nyrsio yn ogystal â gofal personol.
Efallai y byddwch yn dewis mynd i gartref gofal (fe'u gelwir weithiau yn gartrefi preswyl) os nad ydych yn gallu ymdopi yn eich cartref eich hun mwyach. Dyma rai o'r gwasanaethau y dylech eu derbyn mewn cartref gofal:
Os oes gennych anabledd neu salwch sy'n golygu bod angen gofal arnoch yn gyson, efallai y bydd cartref gofal gyda nyrsio (fe'u gelwir weithiau yn gartrefi nyrsio) yn fwy priodol. Bydd nyrs gymwysedig ar ddyletswydd 24 awr y dydd.
Mae gennych hawl dewis eich cartref gofal ond rhaid iddo ddiwallu'ch anghenion felly, os oes angen cartref gofal gyda nyrsio arnoch, efallai na fyddwch yn cael symud i gartref nad yw'n darparu gofal nyrsio.
Efallai y bydd y GIG yn talu holl gostau'r cartref gofal os ydych yn gymwys. Bydd rhaid i chi fodloni meini prawf eich awdurdod lleol. Gallwch ofyn iddynt am gopi o'r rhain.
Efallai y byddwch yn dewis symud i gartref gofal sy'n darparu gofal arbenigol ar gyfer eich anabledd neu anghenion penodol chi. Gall hyn cynnwys staff wedi'u hyfforddi'n arbennig neu gyfleusterau wedi'u haddasu.
Dylai eich cyngor lleol feddu ar restrau o gartrefi gofal arbenigol neu gartrefi a all gynnig gwasanaethau sy'n briodol i'ch anghenion. Gall elusennau hefyd fod yn ddefnyddiol iawn wrth ddod o hyd i'r cartref gofal iawn.