Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Rheoleiddir cartrefi gofal gan y Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol, sy'n gyfrifol am fonitro safonau'r rhan fwyaf o wasanaethau gofal preifat, gwirfoddol a chynghorau lleol.
Mae'r Comisiwn yn arolygu pob cartref gofal cofrestredig i wneud yn siwr eu bod yn bodloni'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol, sy'n cael eu pennu gan yr Adran Iechyd. Dim ond y cartrefi sy'n bodloni'r safonau hyn a fydd yn cael eu cofrestru gan y Comisiwn.
Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn nodi'r lefel dderbyniol ar gyfer pethau megis:
Mae'r Comisiwn hefyd yn arolygu adrannau gwasanaethau cymdeithasol cynghorau lleol ac yn rhoi sgôr i bob cyngor am y gwasanaethau a ddarparant. Cyhoeddir canlyniadau arolygon y Comisiwn mewn adroddiad sydd ar gael i'r cyhoedd.
Gallwch chwilio am gartrefi gofal ar wefan y Comisiwn. Gallwch chwilio am gartrefi gofal gyda gofal nyrsio (a heb ofal nyrsio) ac am gartrefi gofal sy'n darparu gofal ar gyfer pobl gydag anghenion penodol megis:
Mae'r Comisiwn hefyd yn delio gyda chwynion am ddarparwyr gwasanaethau gofal.
Profiad cadarnhaol yw profiad y rhan fwyaf o bobl o gartrefi gofal ond weithiau gall problemau godi ac efallai y byddwch am gwyno.
Gallech ofyn i ffrind neu berthynas, mudiad gwirfoddol fel Cyngor Ar Bopeth neu elusen eich helpu i gwyno. Gall cwyno helpu i wella ansawdd gwasanaethau cartrefi gofal.
Gallwch ddatrys llawer o broblemau drwy gael sgwrs anffurfiol gydag aelod o staff neu reolwr yn y cartref gofal.
Os nad ydych yn fodlon fod y mater wedi'i ddatrys ar ôl cael sgwrs anffurfiol, efallai y byddwch am gwyno'n ffurfiol wrth eich cartref gofal.
Rhaid i bob darparwr gwasanaeth gofal cofrestredig feddu ar drefn gwyno y dylai fod wedi cael ei hesbonio i chi pan symudoch i'r cartref. Rhaid i'r drefn nodi sut y gall defnyddwyr y gwasanaeth, neu'r rhai sy'n gweithredu ar eu rhan, gwyno am y gwasanaeth.
Gallwch gwyno wrth y Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol os nad ydych yn fodlon gyda chanlyniad eich cwyn ffurfiol i'ch cartref gofal. Cewch gwyno'n uniongyrchol wrth y Comisiwn o'r cychwyn hefyd.
Does dim rhaid i chi ddweud wrth eich cartref gofal eich bod wedi cwyno wrth y Comisiwn, ond gallai ymchwiliad llawn fod yn anodd heb iddynt ddod i wybod. Bydd y Comisiwn yn ysgrifennu atoch i ddweud beth y byddant yn ei wneud am eich cwyn.