Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Unwaith i chi wneud y penderfyniad i symud i gartref gofal, bydd angen i chi ddechrau'r broses o ddewis yr un iawn i chi gan y gall hyn gymryd amser.
Gall eich cyngor lleol eich helpu i ddewis cartref gofal ac, ar ôl asesiad ariannol, efallai y bydd yn cyfrannu at y gost.
Mae gennych yr hawl i ddewis pa gartref gofal yr ydych am fyw ynddo. Os yw eich cyngor lleol yn helpu gyda'ch ffioedd, gallwch ddewis o hyd gyhyd â:
Os yw hynny'n bosibl, dylech ymweld â'r cartrefi gofal yr ydych yn eu hystyried i wneud yn siwr eu bod yn diwallu'ch anghenion presennol ac unrhyw anghenion posibl yn y dyfodol. Efallai y gallech lunio rhestr wirio gyda'r pwyntiau sy'n bwysig i chi rhag ofn i chi anghofio gofyn rhywbeth.
Pethau yr hoffech eu hystyried o bosib:
Trwy siarad gyda staff, preswylwyr a rheolwyr gallwch gael syniad o sut le ydy'r cartref i fyw ynddo. Dylech deimlo y gallwch ymweld fwy nag unwaith.
Gall gymryd amser dod o hyd i'r cartref gofal iawn. Os oes gennych anghenion gofal cymhleth neu benodol, gall y gwaith fod yn anodd. Efallai y bydd elusennau a mudiadau sy'n gysylltiedig â'ch anabledd penodol chi yn gallu cynnig cyngor i chi am ddewis cartref gofal.
Ychydig o gartrefi gofal sy'n gallu diwallu anghenion pobl anabl iau - dylai eich cyngor lleol allu dweud wrthych am y rhai sydd yn eich ardal chi.
Mae'r Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol yn arolygu pob cartref gofal cofrestredig ac yn ysgrifennu adroddiad am eu canfyddiadau. Gallai darllen adroddiadau'r cartrefi gofal yr ydych yn eu hystyried eich helpu i ddewis - gallwch eu darllen ar-lein ar wefan y Comisiwn.
Gallwch chwilio ar wefan y Comisiwn am gartrefi gofal gyda gofal nyrsio neu heb ofal nyrsio. Gallwch hefyd chwilio am gartrefi gofal sy'n darparu gofal i bobl gydag:
Mae'r safonau gofynnol cenedlaethol a gyhoeddir gan yr Adran Iechyd yn nodi y dylai cartrefi gofal gynnig arosiadau prawf. Gall yr arhosiad roi cyfle i gyfarfod â'r staff, cael pryd ac aros noson.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am ofal preswyl lleol.
Gallwch drefnu i fynd i gartref gofal gwahanol tra'ch bod yn disgwyl am le neu drefnu i gael gwasanaethau gartref. Os yw eich cyngor lleol yn helpu gyda chostau, gallant hefyd eich helpu gyda'r naill neu'r llall o'r opsiynau hyn.
Efallai y byddwch am symud i gartref gofal mewn ardal cyngor lleol gwahanol i'r un lle rydych yn byw ar hyn o bryd. Gallai hyn godi oherwydd eich bod am symud yn nes at berthnasau neu i'r man lle cawsoch eich magu.
Os cawsoch eich asesu i fod angen gofal a'ch cyngor lleol wedi cytuno i dalu drosoch, nhw felly fydd yn gyfrifol am eich ffioedd os dewiswch gartref gofal mewn man arall.
Dan rai amgylchiadau, efallai y bydd eich cyngor lleol yn gallu talu ffioedd y cartref gofal os ydynt yn ddrutach.
Os nad yw'r person yr ydych yn gofalu amdano yn gallu mynegi'i ddewis, dylai'r cyngor lleol ystyried eich dewis chi.