Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Cartrefi gofal a budd-daliadau

Os byddwch yn aros mewn cartref gofal yn barhaol neu dros dro, gall hynny effeithio ar eich budd-daliadau. Os ydych yn derbyn budd-daliadau ac os bydd eich amgylchiadau'n newid, bydd angen i chi ddweud wrth yr adran berthnasol o'r llywodraeth.

Mae'n debyg y bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o'r budd-daliadau yr ydych yn eu derbyn fynd tuag at ffioedd eich cartref gofal.

Ni ddylai symud i gartref gofal effeithio ar elfen symudedd eich Lwfans Byw i'r Anabl. Bydd yn cael ei anwybyddu hefyd pan fydd eich cyngor lleol yn cyfrifo faint y dylech gyfrannu tuag at gost eich gofal.

Os yw'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ariannu ffioedd eich cartref gofal, effeithir ar yr elfen ofal a’r elfen symudedd o’ch Lwfans Byw i'r Anabl. Cysylltwch â’r swyddfa sydd fel arfer yn talu’ch Lwfans Byw i’r Anabl am ragor o wybodaeth.

Mae'r tabl isod yn disgrifio sut yr effeithir ar eich Lwfans Gweini a chydran ofal eich Lwfans Byw i'r Anabl pan fyddwch yn symud i gartref gofal.



Sefyllfa Yr effaith ar elfen ofal y Lwfans Byw i'r Anabl a'r Lwfans Gweini
Mae eich cyngor lleol yn eich helpu gyda ffioedd y cartref gofal. Bydd yn cael ei dalu am y pedair wythnos gyntaf (os oeddech eisoes â hawl i'w dderbyn cyn symud i gartref gofal).
Nid yw eich cyngor lleol yn eich helpu gyda ffioedd y cartref gofal (yn talu eich hun) Bydd yn parhau fel arfer.
Rydych yn 12 wythnos cyntaf eich arhosiad parhaol mewn cartref gofal ac nid yw eich eiddo'n cael ei ystyried yn gyfalaf ar gyfer y cyfnod hwn. Mae eich cyngor lleol yn eich helpu gyda ffioedd eich cartref gofal am y cyfnod hwn a byddwch yn talu eich hun o'r drydedd wythnos ar ddeg (neu'n gynharach os gwerthir eich eiddo) Bydd yn cael ei dalu am bedair wythnos gyntaf eich arhosiad mewn cartref gofal a bydd yn ailgychwyn o'r drydedd wythnos ar ddeg neu pan fyddwch yn dechrau talu'ch hun.
Mae eich cyngor lleol yn eich helpu gyda ffioedd eich cartref gofal dros dro tra rydych yn gwerthu eich asedau a/neu os oes gennych 'gytundeb taliadau gohiriedig' lle byddwch yn talu'ch cyfraniad i ffioedd eich cartref gofal yn ôl i'ch cyngor lleol yn ddiweddarach. Bydd yn cael ei dalu cyhyd ag y bo gennych hawl iddo.

Cymhorthdal Incwm a Chredyd Pensiwn

Os byddwch yn symud yn barhaol i gartref gofal a chithau'n hawlio Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn fel cwpl, dylech yn awr hawlio'n unigol.

Bydd eich cyngor lleol yn disgwyl i chi hawlio unrhyw Gymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn y mae gennych hawl iddo a bydd yn eich helpu i wneud cais. Bydd y budd-daliadau hyn yn cael eu hystyried yn incwm pan asesir eich cyfraniad at ffioedd eich cartref gofal.

Os byddwch yn aros dros dro gallwch barhau i hawlio Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn am hyd at 52 wythnos.

Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor

Os ydych mewn cartref gofal am egwyl fer neu i gael gofal dros dro, gallwch barhau i dderbyn Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor am hyd at 52 wythnos. Os byddwch mewn cartref gofal am gyfnod prawf, bydd eich Budd-dal Tai a'ch Budd-dal Treth Cyngor ar gyfer costau tai yn dod i ben os bydd eich cyfnod prawf yn mynd dros 13 wythnos.

Pensiwn y wladwriaeth

Nid effeithir ar Bensiwn y Wladwriaeth wrth i chi symud i gartref gofal, ond bydd yn cael ei ystyried yn incwm pan asesir eich cyfraniad at ffioedd y cartref gofal.

Lwfans Gofalwr

Os oes rhywun yn gofalu amdanoch a'r person hwnnw'n hawlio Lwfans Gofalwr, rhaid iddynt ddweud wrth yr Uned Lwfans Gofalwr eich bod yn symud i gartref gofal. Bydd yr Uned Lwfans Gofalwr yn penderfynu a fydd y budd-dal yn parhau. Gellir cysylltu â'r Uned yn y ffyrdd canlynol:

Trwy lythyr: Palatine House, Lancaster Road, Preston, Lancashire, PR1 1HB

Rhif ffôn: 0845 608 4321

Ffôn testun: 0845 604 5312

e-bost: CA-Customer-Services@ dwp.gsi.gov.uk

Allweddumynediad llywodraeth y DU